Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 317 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

5.

Cynnydd ar Argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru sy'n ymwneud â Mynediad at Ofal Cymdeithasol i Oedolion pdf eicon PDF 297 KB

Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol 

Cofnodion:

Roedd Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i friffio'r panel ar adroddiad ac argymhellion SAC a sut mae Abertawe'n perfformio yn erbyn yr argymhellion. 

 

Pwyntiau trafod:

           Nid oes gan SAC unrhyw bryderon trosgynnol ar gyfer Abertawe. Mae Aelod y Cabinet yn eithaf bodlon â'r adroddiad.

           Dewis Cymru - Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y gwahaniaethau ledled Cymru ynghylch sut y defnyddir y system. Mae gan Abertawe oddeutu 500 o adnoddau wedi'u nodi ar y system ar hyn o bryd. Mae gan yr uchaf 1200 o adnoddau wedi'u nodi. Mae Abertawe wedi mynd ar drywydd yr ymagwedd aros i weld. Mae angen cadarnhad cenedlaethol.

           Mae gan y cyngor strategaeth tymor hwy ar gyfer atal.

           Atodiad 1 - 3 cam gweithredu yn unig sydd â dyddiadau targed yn y tabl. Hoffai'r Panel ychwanegu'r rhain at y blaenraglen waith

 

Camau Gweithredu:

           Ychwanegu'r camau gweithredu â dyddiadau targed at y blaenraglen waith.

6.

Adroddiad Blynyddol am Gwynion y Gwasanaethau i Oedolion 2018-19 pdf eicon PDF 475 KB

Sarah Lackenby, Prif Swyddog Trawsnewid

Cofnodion:

Roedd Sarah Lackenby, Prif Swyddog Trawsnewid, yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r Panel ar y mater hwn.

 

Roedd y panel yn falch o glywed y ganmoliaeth a dderbyniwyd. Mae'n dangos bod yr adran yn gwneud gwahaniaeth a bod y staff yn cael eu gwerthfawrogi.

 

Gofynnodd y panel nifer o gwestiynau sy'n gofyn am ymateb ysgrifenedig:

           Tabl 1 - Pam mae nifer y cwynion i'r Ombwdsmon wedi dyblu?

           Tabl 2 - Pam mae Hwb y Gogledd wedi derbyn nifer uchel o gwynion (28)?

           Tabl 2 - Pam ydym wedi derbyn 18 o gwynion ar gyfer lleoliad 'anhysbys'?

7.

Sesiwn Friffio ar Salwch Staff yn y Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 492 KB

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Gohiriodd y Panel yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf.

8.

Amserlen Rhaglen Waith 2019-20 pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

9.

Llythyrau pdf eicon PDF 492 KB

a)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Ionawr 2020)

b)     Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Chwefror 2020)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Mawrth 2020) pdf eicon PDF 396 KB

Llythyr At Aelod Y Cabinet (cyfarfod 17 Mawrth 2020) pdf eicon PDF 274 KB