Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliadau o fuddiannau -  Chris Holley a Mark Child.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 January 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

5.

Rhaglen Drawsnewid Gorllewin Morgannwg - Diweddariad ac Astudiaethau Achos pdf eicon PDF 999 KB

Kelly Gillings, Cyfarwyddwr y Rhaglen

 

 

Cofnodion:

Roedd Kelly Gillings, Cyfarwyddwr Rhaglen yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r Panel am brif ffrydiau gwaith y tri Bwrdd Trawsnewid, gan gynnwys astudiaethau achos o bob rhan o’r rhaglen.

 

Pwyntiau trafod:

              Tudalen 10 - Gwasanaeth 'o'r ysbyty i'r cartref' (adfer) rhanbarthol - Mae profiad yn awgrymu bod yr ymagwedd newydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth.  Aros am dystiolaeth i gefnogi hyn.  Holodd y Panel a aseswyd data pobl nad ydynt yn addas ar gyfer y gwasanaeth hwn.  Bydd angen i Bartneriaeth LlC gael yr wybodaeth hon a bydd y Panel am ei gweld.  Mae manteision y gwasanaeth hwn i’r gwasanaeth iechyd yn glir a gall pobl gael eu hasesu o'u cartrefi yn hytrach nag mewn lleoliad dwys a bydd hyn yn arbed arian i'r cyngor drwy sicrhau yr asesir pobl ar yr adeg gywir a bod trefniadau tymor hwy priodol ar waith sy'n gymesur â'u hanghenion. 

              Tudalen 38 - Adferiad 'O'r Ysbyty i'r Cartref' - ar hyn o bryd nid yw'r gyllideb yn gynaliadwy.  Mae'n dibynnu'n rhannol ar y gronfa trawsnewid sy'n gyfyngedig o ran amser. Y bwriad yw creu system sy'n ariannol ddichonadwy, ond nid yw'n ymwneud â gwneud rhywbeth yn rhad, mae'n ymwneud â’i wneud yn dda mewn modd gwahanol fel ei fod yn cyfrannu at gynaladwyedd ac yn cyflwyno'r canlyniadau gorau i'r rheini sy'n gadael yr ysbyty. Mae gwasanaeth 'O'r Ysbyty i'r Cartref' yn weithredol o bob ardal o fis Rhagfyr 2019/Ionawr 2020.  Mae'r arwyddion cyffredinol yn dda ac yn dangos bod y model newydd yn gweithio.  Bydd y Panel am gadw llygad ar oedi wrth drosglwyddo gofal mewn eitem monitro perfformiad yng nghyfarfodydd y Panel.   

              Tudalen 17 - Grŵp Cynllunio PPI – Nid oedd CAMHS Sylfaenol wedi cydymffurfio ym mis Hydref. Hoffai'r Panel gael gwybodaeth am beth yw'r targed a sut mae'n cael ei fethu a gwybodaeth am drawsnewid.

              Mae'r bartneriaeth yn mynd i'r afael â sut mae pobl yn cael eu hatgyfeirio ac erbyn hyn mae swyddog ar waith yn Abertawe a Phort Talbot.

              Tudalen 28 - Prosiect tebyg yng Ngorseinon yn ddiweddar (Life Time Homes).  Roedd hwn yn gynllun da a byddai'n astudiaeth achos dda i'r bartneriaeth edrych arni.

              Tudalen 31 - Fforwm Gwerth Cymdeithasol - nid oes diffiniad clir gan Lywodraeth Cymru ynghylch beth yw hwn.

              Gofynnodd y Panel, sut mae'r ymagwedd amlasiantaeth wedi ychwanegu gwerth yn nhermau'r astudiaethau achos a ddarparwyd. Fe’i hysbyswyd ei fod yn gallu teilwra pecyn yn well i amgylchedd unigolyn a'i wneud yn haws ac arbed arian ar hyd y ffordd. 

 

Camau Gweithredu:

              Darparu dadansoddiad o ddata pobl nad ydynt yn addas i dderbyn y gwasanaeth adfer 'O'r Ysbyty i'r Cartref' i'r Panel pan fydd ar gael.

              Gwybodaeth am y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sylfaenol i'w darparu i'r Panel.  Beth yw'r targed a sut mae'n cael ei fethu a gwybodaeth am drawsnewid.

6.

Cynigion Drafft Cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion

Gwahoddir y Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol.

 

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 20 Chwefror 2020, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 13 Chwefror 2020.)

 

Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 19 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.

 

 

 

 

Cofnodion:

Trafododd y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion y cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion gan amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

Cytunodd y panel â'r farn a'r argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:

 

              Nododd y Panel y gallai newid canghellor arwain at oedi wrth gyhoeddi'r gyllideb genedlaethol a all, yn ei dro, effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru ac, felly, gyllideb y cyngor.

              Cynyddodd cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion 3.5% a 7% yw pwysau chwyddiant, felly mae angen i'r cyngor gyflawni’r arbedion arfaethedig y flwyddyn nesaf er mwyn aros yn yr un sefyllfa.  Mae hyn yn bryder gan na fydd yr holl arbedion arfaethedig yn cael eu cyflawni yn y flwyddyn ariannol hon ac roedd y panel yn teimlo bod targed arbedion y flwyddyn ariannol nesaf yn ymddangos yn uchelgeisiol.

              Roedd y Panel yn poeni am yr arbedion arfaethedig o £500,000 y flwyddyn nesaf o adolygu’r strwythur uwch staff ar draws y gwasanaethau i oedolion, plant a thlodi a'i atal.  Roedd y Panel yn teimlo'n fodlon mai'r cynllun yw gwastadu'r strwythur ar bob lefel o'r gyfarwyddiaeth, nid ar lefel uwch staff yn unig, ac y bydd o leiaf dau Bennaeth Gwasanaeth o hyd, sy'n hanfodol o ystyried maint y gyllideb a materion y bydd y gyfarwyddiaeth yn eu hwynebu.

              Roedd y Panel yn pryderu am yr adolygiad o gyfleoedd ar gyfer canolfannau awyr agored, yr effaith y gallai hyn ei gael ar ysgolion a'r diffyg hyder y gellir cyflawni hyn.  Hoffai Paneli Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd weld copi o'r ymgynghoriad ar gyfer hyn.

              Gydag arbedion arfaethedig o £750,000 o adolygu pecynnau iechyd meddwl ac anableddau dysgu'r flwyddyn ariannol nesaf, roedd y Panel yn pryderu y bydd hyn yn broblem gan fod diffyg adnoddau i gynnal yr adolygiad o'r ochr Iechyd.  Roedd y panel yn teimlo bod angen datrys hyn cyn gynted â phosib os ydym am lynu wrth y gyllideb ar gyfer 2020-21.

              O ran yr incwm a ragwelir o £100,000 o Gydlynu Ardaloedd Lleol, nododd Aelod y Cabinet yr hoffai weld ffrwd ariannu ymroddedig fel y gellir ehangu'r cynllun a'i fod yn gynaliadwy. Hoffai'r Panel weld hyn yn cael ei gyflwyno.

              Cydnabu'r Panel fod y gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei hysgogi gan bobl ac y byddai'n gamarweiniol canolbwyntio ar nifer y bobl a gefnogir. 

              Roedd y Panel yn pryderu am y meysydd lle cynigir arbedion ac yn teimlo bod arbedion yn cael eu gwneud a allai fod yn niweidiol.  

              Bydd y Panel yn trafod y gyllideb eto ym mis Hydref fel y gallwn ni fonitro canlyniadau'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn fwy gofalus. 

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

Bydd y cynullydd yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â chynullyddion paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 19 Chwefror.  Yna bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet.

7.

Amserlen Rhaglen Waith 2019-20 pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y rhaglen waith ac a ystyriwyd gan y panel. 

 

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 393 KB

a)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Rhagfyr 2019)

b)    Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Ionawr 2020)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 194 KB