Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 321 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

 Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynullydd wrth aelodau'r panel fod Katrina Guntrip wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel aelod cyfetholedig y panel. Diolchodd aelodau'r panel y Cynullydd am ei chyfraniad a dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

Adolygiad Comisiynu Bach ar Tele-ofal a Larymau Cymunedol pdf eicon PDF 282 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Roedd Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, yn bresennol i friffio'r Panel ar y prosiect hwn a'r amserlenni diwygiedig a'r cwmpas.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Mae larymau cymunedol yn gost niwtral. Bydd gwerthuso opsiynau'n nodi sut gellir ariannu technoleg gynorthwyol yn y dyfodol.
  • Gall unrhyw un gael larwm cymunedol gan mai'r unigolyn sy'n talu amdano. Fodd bynnag, mae'r angen am dechnoleg gynorthwyol, a ddarperir gan yr awdurdod, yn cael ei asesu.
  • Bydd gwerthuso opsiynau'n ystyried opsiynau o ran angen ac opsiynau ar gyfer ei ddarparu.
  • Mae’r cytundeb cyfredol ar gyfer larymau cymunedol gyda Chaerfyrddin yn dod i ben ar ddiwedd 2020. Mae posibilrwydd y caiff gwasanaeth rhanbarthol ei sefydlu gyda Chastell-nedd Port Talbot yn y dyfodol.
  • Mae angen i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai feddwl cydlynol am y ffordd ymlaen.
  • Bydd llythyr y Cynullydd yn gofyn i'r Pennaeth Tai ymgysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan fod dau adolygiad comisiynu yn cael eu cynnal, sy'n effeithio ar y ddwy ardal.
  • Mae angen i'r awdurdod ystyried sut y telir am dechnoleg gynorthwyol a larymau cymunedol.
  • Teimla'r Panel y byddai technoleg gynorthwyol yn destun da ar gyfer y gronfa gofal integredig.
  • Cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod awydd cynyddol i weithio'n agosach gyda Bwrdd Iechyd a Chastell-nedd Port Talbot ar hyn.
  • Dylid cwblhau'r arfarniad opsiynau cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon a chaiff ei gyflwyno i'r panel yn haf 2020.

 

Camau gweithredu:

  • Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet i gynnwys cais i'r Pennaeth Tai ymgysylltu â'r Gwasanaethau Cenedlaethol gan fod dau adolygiad comisiynu yn cael eu cynnal, sy'n effeithio ar y ddwy ardal.
  • Ychwanegir y canlynol at raglen waith Awst 2020 - 'Gwerthuso Opsiynau ar gyfer Technoleg Gynorthwyol a Larymau Cymunedol'.

 

6.

Cynllun Datblygu'r Gweithlu pdf eicon PDF 706 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Cafodd y Panel ei friffio gan Deborah Reed ar y mater hwn, gan gynnwys strwythur Uned Datblygu a Hyfforddi'r Gwasanaethau Cymdeithasol, pwrpas a swyddogaeth y grŵp prosiect a gwybodaeth am y cynllun, ac atebodd gwestiynau'r Panel.

 

7.

Papur Trafodaeth ar Wella Data Perfformio pdf eicon PDF 120 KB

Tony Beddow

Cofnodion:

Cafodd y Panel ac Aelod y Cabinet eu briffio gan Tony Beddow, aelod cyfetholedig y Panel ar y cynnig hwn i wella data perfformiad ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Deëllir efallai bydd Llywodraeth Cymru'n fodlon gwneud y gwaith gyda rhai awdurdodau i gael yr wybodaeth hon. 

 

  • Cadarnhaodd Aelod y Cabinet nad oed ganddo broblem gyda'r egwyddor, ond y byddai'n rhaid i'r ymchwil gael ei hariannu'n llawn, am ei fod yn ddarn mawr o waith. 

 

  • Cyfeiriodd y Panel hwn yn ffurfiol i Aelod y Cabinet, er mwyn iddo gael trafodaethau pellach â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a phenderfynu a ddylid gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru ai peidio. 

 

8.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 250 KB

Cofnodion:

 Derbyniwyd y rhaglen waith ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Dywedwyd wrth aelodau'r panel fod Deborah Reed yn rhoi'r gorau i'w swydd mewn ychydig wythnosau a bod Alex Williams yn dychwelyd i'r swydd. Diolchodd y Cynullydd i Deborah ar ran y Panel. 

 

9.

Llythyrau pdf eicon PDF 235 KB

a)    Llythyr dilynol i Aelod y Cabinet (cyfarfod 24 Medi 2019)

b)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 24 Medi 2019)

c)    Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol (cyfarfod 24 Medi 2019)

d)    Llythyr at Aelod y Cabinet  (cyfarfod 29 Hydref 2019)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 341 KB