Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 322 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

Comisiynu Gofal Preswyl pdf eicon PDF 298 KB

Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu

Cofnodion:

Daeth Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu, i friffio'r Panel ac i ateb ei gwestiynau.

 

Pwyntiau trafod:

  • Mae'r awdurdod yn bodloni'r gofyniad statudol o gynnig mwy nag un dewis o lety ar gyfer gofal preswyl
  • Mae defnyddwyr gwasanaeth yn ei chael hi'n anodd yn gyson i fynegi pryderon. Mae'r adran yn gofyn i ddarparwyr roi gwybodaeth ac arweiniad ac i gynnig sicrwydd.  Mae'r adran hefyd yn darparu peth hyfforddiant ar hwn ar gyfer darparwyr.
  • Pwynt 5.15 yr adroddiad - gofynnodd y panel pa 'bwysau' oedd yn atal cyflawni'r targed. Rhoddwyd gwybod bod dau beth wedi cyfrannu at beidio â chyflawni ymchwiliadau yn ôl yr amserlen. Efallai na fydd y broses yn gweithio fel hyn yn y dyfodol. 
  • Pwynt 5.15 yr adroddiad - gofynnodd y panel am sicrwydd fod yr adran yn casglu'r holl wybodaeth am fonitro gan bartneriaid ac yna'n rhannu gwybodaeth â phartneriaid am yr hyn y mae angen iddynt ei wybod.  Rhoddwyd gwybod nad yw'r holl wybodaeth a gesglir gan bartneriaid am fonitro'n cael ei rhannu â phawb; dim ond yr hyn maent yn teimlo y mae angen ei rhannu.
  • Pwynt 7.1 yr adroddiad - gofynnod y panel i ba raddau y mae prisiau'n brif ffactor wrth benderfynu ar bwy fydd yn darparu gwasanaethau cartref gofal i oedolion iau. Rhoddwyd gwybod bod 60% o'r dewis fel arfer yn dibynnu ar safon a 40% yn dibynnu ar y pris.
  • Trafodwyd i ba raddau y bydd Brexit yn effeithio ar gartrefi gofal o ran staff o'r UE.  Mae 6% o staff gofal ar hyn o bryd yn dod o'r UE. Mae'r aelodau staff hyn wedi cael gwybod am Gynllun Preswylio'r UE.
  • Pwynt 8.7 yr adroddiad - gofynnodd y panel i weld y Fframwaith Ansawdd a chytunodd y swyddogion i ddarparu hyn.

 

Camau Gweithredu:

  • Caiff Fframwaith Ansawdd Rhanbarthol ar gyfer Cartrefi Gofal ei ddosbarthu i'r panel er gwybodaeth.

 

 

6.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 221 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, i friffio'r panel ar yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Awst/Medi 2019.

 

Pwyntiau trafod:

  • Tudalen 16: Pwynt Mynediad Cyffredin - mae'n ymddangos bod nifer yr ymholiadau a grëir yn gostwng bob mis Rhagfyr. Mae'r adran yn credu bod hyn yn digwydd oherwydd gwyliau'r Nadolig, pan mae teuluoedd yn treulio amser gyda'i gilydd, ac yna mae ymholiadau'n cynyddu'n sydyn ym mis Ionawr.
  • Tudalen 16: Gofalwyr sydd wedi'u nodi ac a ydynt am gael asesiad gofalwr - tua 50% o ofalwyr yn unig sydd am gael asesiad. Mae'r adran yn ceisio sicrhau bod pawb yn deall yr hyn y mae'n ceisio ei wneud gyda'r asesiadau. Mae hefyd yn bwysig nodi ar ba adeg y mae'r asesiad yn cael ei gynnig.
  • Tudalen 22: Oedi wrth drosglwyddo gofal - gwnaed cynnydd sylweddol.  Ym mis Medi 2019, 20 o bobl yn unig oedd yn aros am becyn gofal.

 

7.

Y diweddaraf am Raglen Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 468 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Roedd Deborah Reed wedi briffio Panel y Gwasanaethau i Oedolion ynghylch y blaenoriaethau gwella ar gyfer 2019/20, gan roi diweddariadau ar raglenni penodol ac ateb cwestiynau'r panel.

 

Pwyntiau trafod:

  • Gofynnodd y panel am ddadansoddiad o'r cynnydd a wnaed o ran arbedion gwerth £1,893,800 erbyn mis Awst 2019.
  • Mae rhagolwg arbedion ar gyfer blwyddyn 2019/20 oddeutu £640,000 yn llai na'r cyfanswm arbedion ar y cyd, sef £4,078,000. Mae'r adran yn ceisio gwneud arbedion mewn ffyrdd eraill. 

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd y Swyddog Craffu'n dosbarthu'r ddogfen a gynhwysir yn yr adroddiad diweddaru i'r panel er mwyn dangos cynnwys y cynnydd o ran arbedion.

 

8.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

  • Caiff y papur trafod 'Gwella Data Perfformiad' ei ychwanegu i'r Rhaglen Waith.
  • Yn ystod y cyfarfod panel ychwanegol ym mis Chwefror a fydd yn trafod y cynigion cyllidebol drafft ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion, hoffai'r panel hefyd weld adroddiad y llynedd i weld yr hyn a gyflawnwyd o ran cynigion cyllidebol y llynedd.

 

9.

Llythyrau pdf eicon PDF 325 KB

a)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Awst 2019)

b)    Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 24 Medi 2019)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 175 KB