Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Nodiadau cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 508 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Mehefin yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Tudalen 4 - Eitem 7 - Camau Gweithredu - trefnwyd dau ddigwyddiad bwrdd crwn yn y Ganolfan Ofalwyr - 3 Medi a 4 Medi.
  • Tudalen 5 - Eitem 8 - materion yn cael eu trafod â'r RNIB o hyd. Estynnwyd y cytundeb tan 31 Mawrth.

 

Camau Gweithredu:

  • Anfon gwahoddiad i Aelod y Cabinet a swyddogion ar gyfer digwyddiadau'r bwrdd crwn.
  • Cadw'r diweddaraf am yr RNIB ar yr agenda nesaf er mwyn i Aelod y Cabinet rhoi'r diweddaraf.

 

4.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

Y diweddaraf am drefniadau Rhaglen Drawsnewid Gorllewin Morgannwg yn dilyn adolygiad pdf eicon PDF 250 KB

Nicola Trotman, Cyfarwyddwr Dros Dro

Cofnodion:

Roedd Nicola Trotman, Cyfarwyddwr Dros Dro'r Rhaglen yn bresennol er mwyn briffio'r Panel am y trefniadau yn dilyn yr adolygiad. Roedd hyn yn cynnwys trosolwg o Bartneriaeth Gorllewin Morgannwg ar ei newydd wedd, gan gynnwys Gweledigaeth, Nodau ac Egwyddorion, llywodraethu a ffrydiau gwaith allweddol dan y tri bwrdd trawsnewidiol.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Mae'r strwythur newydd yn canolbwyntio ar faterion trawsnewidiol.
  • Tudalen 13 - yr 'arwyddair' - Holodd y panel sut y mesurir cyfoeth cynyddol o les, iechyd a gofal. Hysbyswyd mai un o'r blaenoriaethau allweddol eleni yw gwella perfformiad a datblygu mesurau tymor byr a thymor hir. Hoffai'r panel weld sut y mae'r gwaith yn datblygu a'r fethodoleg.
  • Tudalen 32 - strwythur llywodraethu - mae'r panel yn hapus ei fod wedi'i symleiddio.
  • Gofynnodd y panel a oedd problem gyda chraffu ar bartneriaethau rhanbarthol. Mae Aelod y Cabinet yn teimlo na fydd gan swyddogion Abertawe broblem â hyn a byddai'n annog aelodau bwrdd Partneriaeth Gorllewin Morgannwg i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd craffu os gofynnir iddynt.
  • Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn enghraifft dda o wneud pethau'n rhanbarthol pan rydych chi'n elwa o'u gwneud yn rhanbarthol neu wneud pethau'n lleol os yw'n well eu gwneud yn lleol. Dylai hyn fod yr egwyddor.
  • Mae Cyngor Abertawe'n disgwyl gosod CCISC ar waith ym mis Mawrth/Ebrill y flwyddyn nesaf. O ran y rhan ranbarthol, nid ydym yn sicr pan gaiff hyn ei rhoi ar waith. Dylai'r bwrdd iechyd lofnodi'r gorchymyn lleoli tua mis Rhagfyr 2019. Cytunodd CNPT i wneud hyn ond rydym yn ansicr o'r amserlen. Mae targedau integredig ac rydym yn gobeithio y bydd CCISC yn helpu i fonitro'r rhain.
  • Cyfanswm yr adnoddau ar gyfer Partneriaeth Gorllewin Morgannwg yw £15m a £15.5m ar gyfer dwy raglen.
  • Roedd y panel am wybod o ble y daw aelodau ar gyfer Panel y Dinasyddion. Hysbyswyd y panel fod hwn yn grŵp strwythuredig h.y. rhanddeiliaid â diddordeb, ond mae'r aelodaeth yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bydd y panel yn dod yn ôl at y cwestiwn hwn yn y dyfodol.
  • Gwneir mwy o ymdrech i gynnwys dinasyddion wrth wneud penderfyniadau yn y bartneriaeth hon. Mae aelod enwebedig o'r fforymau'n eistedd ar y byrddau. Mae'r panel yn teimlo os ydym yn ceisio cynnwys rhanddeiliaid, dylem hefyd fod yn ystyried cynnwys cynghorwyr gweithredol wrth gydgynhyrchu.
  • Yn nhermau tryloywder, dylai cofnodion byrddau trawsnewidiol fod ar gael ar wefan y bartneriaeth. Hysbyswyd nad oeddent ar y wefan ar hyn o bryd ond mae cofnodion y Bwrdd Gweithredol ar gael. Mae'r wefan yn cael ei hailddylunio fel y gallent gael eu cynnwys yn y dyfodol.
  • Mae gan y Panel ddiddordeb mewn gweld astudiaethau achos lle mae'r bartneriaeth yn llwyddo a heb fod yn gwneud cystal.
  • Mae'r panel yn teimlo bod angen iddynt wneud darn o waith ar graffu ar rai o'r prosiectau rhanbarthol.

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd y panel yn cael ei friffio ar sut mae'r gwaith i fesur cyfoeth cynyddol o les, iechyd a gofal yn datblygu, ynghyd â'r fethodoleg.
  • Caiff eitem ei threfnu ar gyfer y Panel mewn 6 mis ar 'Bartneriaeth Gorllewin Morgannwg - 3 astudiaeth achos sy'n dangos lle mae'r bartneriaeth yn llwyddo a heb fod yn gwneud cystal'.

 

6.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 73 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r panel ynghylch yr adroddiadau monitro perfformiad ar gyfer Mai/Mehefin 2019. 

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Tudalen 37 - Gofalwyr sydd wedi'u nodi ac a ydynt am gael asesiad gofalwr - Peth tystiolaeth bod cynnydd mewn cynnig asesiad gofalwyr i ofalwyr. Roedd y panel yn teimlo os ydym yn nodi gofalwyr yn seiliedig ar gefnogaeth gofalwyr, ni chaiff yr holl ofalwyr eu nodi.
  • Tudalen 38 - Gofal Cartref Tymor Hir - Mae'r ffigyrau'n aros tua'r un peth. Gallwch ddisgwyl gweld gwahaniaeth y flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r newidiadau a wnaed. Mae'r Panel wedi gofyn o'r blaen am weld tueddiadau yn hytrach na ffigurau'r 2 fis diwethaf. Byddant yn mynd yn ôl ac yn gofyn a ellir cynnwys hyn yn adroddiadau'r dyfodol.
  • Holodd y Panel ynghylch sut y blaenoriaethir Gofal Cartref Tymor Hir. Fe'u hysbyswyd bod cyfres o ddangosyddion. Bydd mater diogelu yn y cartref yn derbyn blaenoriaeth dros rywun yn yr ysbyty, ond byddai hyn yn derbyn blaenoriaeth dros rywun sydd allan yn y gymuned (os nad oes mater diogelu).
  • Tudalen 50 - Oedi wrth drosglwyddo gofal - mae problem sylweddol. Lefelau uchaf o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Mehefin 2019 am 24 o fisoedd.

 

Camau Gweithredu:

  • Darparu tueddiadau ar gyfer Gofal Cartref Tymor Hir yn adroddiadau'r dyfodol.

 

7.

Adolygiad o Alldro Terfynol y Gyllideb pdf eicon PDF 74 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi briffio'r Panel am Alldro Terfynol Cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion ar gyfer 2018/19 ac atebodd gwestiynau'r panel.

 

8.

Adolygiad o Berfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru'r Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 104 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Dave Howes wedi briffio'r panel ar yr eitem hon gan gynnwys roi  trosolwg o'r adolygiad perfformiad blynyddol a gynhelir gan AGC a'r llythyr at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n crynhoi gwerthusiad perfformiad y gwasanaethau cymdeithasol yn ystod 2018/19. Mae trefniadau newydd yng nghynllun adolygiad perfformiad blynyddol AGC ar gyfer 2019/20. 

 

Yn y Gwasanaethau i Oedolion, bydd AGC yn edrych ar drefniadau'r awdurdod sy'n cyd-fynd â'r arolygiadau thematig i bobl sy'n derbyn gwasanaethau gofal a chefnogaeth.

 

9.

Amserlen Rhaglen Waith 2019/20 pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

10.

Llythyrau pdf eicon PDF 198 KB

a)    Llythyr at Aelod y Cabinet Mark Child (cyfarfod 20 Mehefin 2019)

b)    Llythyr at Aelod y Cabinet Andrea Lewis (cyfarfod 20 Mehefin 2019)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 193 KB