Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganiadau o gysylltiadau - Chris Holley, Jeff Jones a Mark Child. |
|
Cwestiynau'r Cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 20 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau yn y cyfarfod. |
|
Canlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hyn PDF 60 KB Y Cynghorydd
Mark Child, Aelod y Cabinet dros
Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda Dave Howes, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y panel i Aelod y Cabinet a'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad ac am fod yn bresennol yn y cyfarfod i drafod Canlyniadau Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn. Amlinellodd y
panel y materion canlynol: Gofal Preswyl 1.
Mae'r panel yn fodlon bod y broses ymgynghori a
ddilynwyd yn un drylwyr. 2.
Rydym yn pryderu a yw'r Bwrdd Iechyd wedi llwyr
ymrwymo i'r model a'r ffigurau rhagolygol wrth symud ymlaen gyda gofal
cymhleth. 3.
Mae gennym bryderon ynglŷn â'r diffiniad a
ddefnyddir ar gyfer anghenion cymhleth.
Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd bydd rhagweld nifer y gwelyau yn pennu
capasiti wrth symud ymlaen. 4.
Mae'r panel yn falch bod yr ymgynghoriad yn cynnwys
nifer helaeth o unigolion a grwpiau ond yn siomedig gyda chyn lleied o
ymatebion. 5.
Teimlai'r panel y byddai wedi bod yn ddefnyddiol i
nodi ffynhonnell yr ymatebion - yn unigolyn neu yn gorff/sefydliad. 6.
Hoffai'r panel eich sicrwydd pe bai'r awgrymiadau yn
cael eu derbyn a bod Parkways yn cau, y bydd lles y preswylwyr yn flaenoriaeth
a bydd amser digonol yn cael ei roi i gysylltu â nhw, ac i asesu'r holl
breswylwyr a'u teuluoedd er mwyn eu symud i lety amgen. 7.
Teimlwn y dylai Strategaeth Comisiynu Bae'r
Gorllewin fod wedi ei chynnwys yn yr adolygiad hwn ac rydym yn dymuno cael
sicrwydd y bydd unrhyw awgrymiadau pellach yn cael eu hystyried ochr yn ochr
â'r awgrymiadau hyn. 8.
Mae'r panel yn siomedig ni chafwyd ymateb ffurfiol
gan yr undebau llafur i'r ymgynghoriad hwn o ystyried yr effaith ar staff y
cyngor. Gwasanaethau
Dydd 9.
Ychydig iawn o wybodaeth a gafwyd yn y cynigion am
rôl a model Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a darpariaeth gymunedol yn y
dyfodol. Hoffai'r panel gael cadarnhad bod
cynnig i ehangu cyfleusterau cymunedol os yw'r cynnig i gau dwy ganolfan yn
mynd rhagddo. 10.
Eto, mae'r panel yn siomedig gan gyn lleied o ymateb
a gafwyd i'r ymgynghoriad ac ni fu ymateb ffurfiol gan yr undebau llafar i'r
cynnig i gau dwy ganolfan chwaith. |
|
Trafodaeth a Chwestiynau a) Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau b) Barn y Panel i'r Cabinet Cofnodion: Bydd Cynullydd y panel yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet ar 20 Medi 2018 a bydd llythyr yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet sy'n amlinellu barn y panel. |
|
Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Medi 2018) PDF 466 KB |
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Medi 2018) PDF 325 KB |