Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Nodiadau cyfarfodydd blaenorol pdf eicon PDF 238 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfodydd blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2018 ac 11 Chwefror 2019 yn gofnodion cywir o'r cyfarfodydd.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

4.

Adroddiad Blynyddol am Gwynion y Gwasanaethau i Oedolion 2017-18 pdf eicon PDF 143 KB

Julie Nicholas-Humphreys, Rheolwr Cwynion Corfforaethol

 

Cofnodion:

Roedd Julie Nicholas-Humphreys, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chwynion, yn bresennol i gyflwyno'r eitem hon ac i ateb cwestiynau'r panel. 

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y newid yn y broses ar gyfer cofnodi cwynion a chynnydd yn nifer y cwynion lefel 1 a dderbynnir. Ni chanfuwyd unrhyw reswm benodol dros y cynnydd yn nifer y cwynion. Fodd bynnag, mae llawer mwy yn cael ei wneud i annog pobl i gwyno os nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae'r awdurdod hefyd wedi cryfhau ei drefniadau eiriolaeth ar gyfer plant a bydd hyn yn cael ei wneud ar gyfer oedolion hefyd. Mae'r awdurdod wedi gweld cynnydd yn nifer y cwynion ond nid oes cynnydd yn nifer y cwynion a gadarnhawyd yn gyffredinol.
  • Mae gan yr awdurdod ddull ar gyfer cofnodi cwynion yn erbyn darparwyr trydydd parti. Os nodir unrhyw dueddiadau, rhoddir gwybod i Gyfarwyddwr/Pennaeth y Gwasanaeth.
  • Mae nifer uchel o gwynion wedi'u cadarnhau yn y timau cefnogi cymunedol.  Mae hwn yn faes anodd felly nid yw hyn yn syndod i'r Cyfarwyddwr. Mae hwn yn faes y gallai'r awdurdod ddysgu ohono.
  • Dewisir ymchwiliwr annibynnol gan y swyddog cwynion yn ddibynnol ar a ydynt wedi ymdrin â rhywbeth tebyg yn flaenorol etc. Mae'n tueddu i gael ei arwain gan achosion.

 

5.

Y diweddaraf am sut mae ymrwymiadau polisi'r cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn y Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 150 KB

Mark Child, Aelod y Cabinet - GofalIechyd a Heneiddio’n Dda

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda'n bresennol i gyflwyno'r adroddiad ac i ateb cwestiynau'r panel.  Mae Aelod y Cabinet yn teimlo bod yr awdurdod yn gwneud cynnydd da o ran yr holl ymrwymiadau.

 

Pwyntiau trafod:

 

·       Mae Aelod y Cabinet yn teimlo bod yr awdurdod yn cael problemau gydag ymdopi â dau faes mewn perthynas ag ymrwymiadau'r Gwasanaethau i Oedolion. Ymrwymiad 104 - anodd dod o hyd i ddarparwyr i ddod i ddarparu'r gwasanaeth; ac ymrwymiad 57 - gallu gweld twf sylweddol ond bydd yn anodd cael Cydlynydd Ardal Leol ym mhob ardal yn Abertawe. Mae'r panel yn pryderu am gysondeb am fod llawer o'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn cael eu hariannu gan bartneriaid felly nid yw'r cyllid yn barhaol a gellir ei golli ar unrhyw adeg.  Holodd y panel pam mae'r ymrwymiad hwn wedi'i nodi'n wyrdd pan nad yw Aelod y Cabinet yn meddwl y bydd gennym ddigon o Gydlynwyr Ardaloedd Lleol. Mae Aelod y Cabinet yn meddwl bod y statws gradd Coch/Ambr/Gwyrdd ar gyfer cynnydd. 

·       Ymrwymiad 95 - Holodd y panel a ydym mewn sefyllfa lle'r ydym yn deall cyfrifoldeb cyfreithiol ac ariannol. Mae Aelod y Cabinet yn teimlo y gwnaed cynnydd mewn rhai meysydd ond nid cymaint ag y byddai'n ei hoffi.

·       Ymrwymiad 102 - ni nodwyd unrhyw amserlen. Holodd y panel pryd y byddai'r siarter yn cael ei chwblhau. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet ei bod bron wedi'i chwblhau ond mae'n ddibynnol ar amserlen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

·       Rhoddwyd gwybod i Aelod y Cabinet nad oes unrhyw ddyddiadau targed yn yr adroddiad. Mae Aelod y Cabinet yn obeithiol y bydd popeth yn cael ei gwblhau yn y tymor etholiadol (erbyn 2022).

·       Ymrwymiad 105 - mae'n nodi yn yr adroddiad y bydd Cynllun Datblygu'r Gweithlu'n cael ei gwblhau erbyn mis Mai 2019. Bydd y panel yn edrych ar hyn yn hwyrach yn y flwyddyn.

·       Ymrwymiad 104 - Mae hwn yn rhan o hyn. Bydd angen edrych ar strategaethau comisiynu er mwyn nodi a gafwyd cynnig arall sy'n ddigon gwahanol. Byddai Aelod y Cabinet yn nodi hwn fel gradd ambr am fod peth cynnydd wedi'i wneud.

 

 

Camau Gweithredu:

·       Ychwanegu at eitem y rhaglen waith yng Nghynllun Datblygu'r Gweithlu (dyddiad i'w gadarnhau)

 

6.

Adroddiad Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 66 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r panel ynghylch yr adroddiadau monitro perfformiad ar gyfer Rhagfyr 2018/Ionawr 2019 ac i ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau trafod:

 

·       Gofal cartref tymor hir - y gobaith yw y bydd trefniadau comisiynu newydd yn gwneud gwahaniaeth o Fai 2019. Ddim yn sicr os bydd mwy o ofalwyr na sydd ar gael ar hyn o bryd.

·       Adolygiad o gleientiaid a glustnodwyd - dylem fod yn ceisio gwneud gwelliannau ym mhob maes. Mae pob tîm yn gwella ond ar gyflymdra gwahanol. Mae llawer i'w wneud o hyd.

·       Roedd y panel yn teimlo y byddai'n fwy defnyddiol i ddangos tueddiadau mewn adroddiadau perfformiad yn hytrach na mewn ffigurau. Mae'r cais hwn wedi'i gyfleu i'r adran

·       Ailalluogi preswyl - mae pryder y gall fod mwy o le na galw am y gwasanaeth hwn.

·       Ymateb yn brydlon i faterion diogelu - mae'r ffigurau'n peri pryder am eu bod wedi gostwng yn sylweddol. Yr angen i nodi pam mae hyn yn digwydd a rhoi gwybod i'r panel.

·       Lleoliadau dros dro - pryder ynghylch lefel isel iawn o ryddhau pobl i leoliadau a ariennir gan Gofal Iechyd Parhaus. Parhau i gysylltu â'r Bwrdd Iechyd i ddosbarthu cyllid Gofal Iechyd Parhaus yn decach ar draws Bae'r Gorllewin.  Hefyd yn ailedrych ar strategaeth yr awdurdod ar gyfer trafod cyllid ar gyfer lleoliadau newydd gyda HB.   

 

Camau Gweithredu:

·       Yr adran i roi gwybod i'r panel am y rheswm dros y gostyngiad mewn perfformiad ar gyfer 'ymateb yn brydlon i faterion diogelu'

·       Cais i'r adran i ddangos tueddiadau mewn adroddiadau monitro perfformiad yn hytrach na ffigurau.

 

 

7.

Amserlen Rhaglen Waith 2018-19 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Bu'r panel yn ystyried y rhaglen waith.

 

8.

Lythyrau pdf eicon PDF 131 KB

a)    Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 11 Rhagfyr 2018)

b)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Tachwedd 2018)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 19 Chwefror 2019) pdf eicon PDF 268 KB