Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Nodiadau cyfarfod 20 Tachwedd 2018 pdf eicon PDF 115 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

4.

Cyflwyniad ar y Diweddaraf am y Fframwaith Arfer Gwaith (Cymdeithasol)

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau i Oedolion

Rhoda Emlyn Jones a Kathryn Thomas, Ofal Cymdeithasol Cymru

 

 

Cofnodion:

Roedd Ffion Larsen o'r Gwasanaethau i Oedolion a Jessica Matthews o Ofal Cymdeithasol Cymru yn bresennol i gyflwyno'r eitem hon ac i ateb cwestiynau'r panel. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gofyn am newid mewn ymagwedd i wneud i'r gwasanaethau cymdeithasol ganolbwyntio'n fwy ar ganlyniadau. Mae'n gofyn am newid trawsffurfiol er mwyn cyflawni hyn. Bwriad y rhaglen hyfforddi Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol yw datblygu gweithwyr cymdeithasol i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio'n fwy ar ganlyniadau.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Nid yw'r awdurdod yn gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar hyn o bryd. Mae angen newid diwylliant a bydd angen hyfforddiant ar gyfer hyn. Dylai cynllun gweithredu fod ar waith ar gyfer hyfforddiant ar ddechrau'r flwyddyn nesaf a bydd yn cael ei weithredu dros dair blynedd.
  • Y Ddeddf sy'n gyrru hyn ymlaen. Mae'r 22 o awdurdodau i gyd ar gamau gweithredu gwahanol. Yn Abertawe, mae'r Gwasanaethau Plant wedi gwneud cynnydd da ar y daith i gael ymagwedd system gyfan. Mae'r Gwasanaethau i Oedolion ar ddechrau'r daith, ac yn gwneud gwaith paratoi. Fodd bynnag mae rhai pethau ar waith a fydd yn cyd-fynd â'r ymagwedd hon.
  • Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu dros ddeuddydd gyda gwaith dilynol am hanner diwrnod 4 - 6 wythnos wedyn.
  • Teimla'r panel fod y gwasanaethau cymdeithasol yn symud i'r cyfeiriad cywir gyda'r ymagwedd hon.
  • Mae gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yn ymddangos gyda'r sgiliau cywir eisoes.

 

5.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Bu'r panel yn ystyried y rhaglen waith.

 

Camau gweithredu:

 

  • Bydd aelodau'r panel yn darparu meysydd o ddiddordeb a fydd yn cael eu defnyddio i lywio ymweliadau panel posib yn y flwyddyn ddinesig newydd
  • Bydd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru am Addasiadau Tai yn cael ei ychwanegu at raglen waith y dyfodol
  • Angen ychwanegu eitem ar 'Arfer caffael a sicrwydd mewn gofal cymdeithasol' at raglen waith y dyfodol.
  • Bydd Dave Howes yn bresennol mewn sesiwn cyn cyfarfod y panel ym mis Ionawr.

 

 

6.

Llythyrau pdf eicon PDF 195 KB

a) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Tachwedd 2018)

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

 

Derbyniodd y panel y diweddaraf am sefyllfa Allied o ran tynnu'n ôl o'r farchnad gofal cartref. Mae'r holl fusnes a'r staff wedi symud i un darparwr. Ni chafwyd unrhyw effaith andwyol ychwanegol ar y farchnad.

 

 

Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 11 Rhagfyr 2018) pdf eicon PDF 131 KB