Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganiadau o gysylltiadau - Chris Holley a Mark Child.

 

2.

Nodiadau cyfarfod 23 Hydref 2018 pdf eicon PDF 115 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

Camau Gweithredu:

  • Anfon dymuniadau gorau'r panel i Tony Beddow, sy'n gwella ar ôl cael llawdriniaeth.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Derbyniwyd dau gwestiwn gan aelodau'r cyhoedd cyn y cyfarfod.  Eir i'r afael â'r rhain trwy e-bost.

 

4.

Adroddiad Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 66 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, yr Adroddiad Amlygu Monitro Perfformiad gan ganolbwyntio ar y prif faterion ac ateb cwestiynau. Roedd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol hefyd.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Datblygiadau Arfaethedig i'r Adroddiad yn y Dyfodol (tudalen 58) - cynhwysir amserlen ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol yn yr adroddiad perfformiad erbyn hyn. Gofynnwyd am hyn gan y panel yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Awst 2018.
  • Ymateb yn brydlon i faterion diogelu (tudalen 10) - ym mis Awst, ni chyrhaeddwyd y targedau oherwydd bod nifer o'r staff ar eu gwyliau.  Mynegodd y panel bryderon ac awgrymodd y dylai'r adran ystyried cyflwyno amserlen wyliau i sicrhau nad yw canrannau diogelu'n gostwng ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Sicrhawyd y panel yr eir i'r afael ag ymatebion brys ar yr un diwrnod. Fe'i hysbyswyd efallai ceir un tîm diogelu yn y dyfodol.
  • Cydlynu Ardaloedd Lleol (tudalen 21) - mae'r adroddiad yn nodi bod cyflwyniadau wedi'u hatal mewn un ardal.  Mae hwn yn bryder i'r panel.  Fe'i hysbyswyd bod hyn yn wir ers tro; mae aelod o staff yn absennol o'r gwaith ond rhoddwyd trefniadau ar waith.
  • Mae Cydlynydd Ardal Leol Tre-gŵyr ar secondiad o'r Gwasanaeth Tân.  Mae'r secondiad hwn yn dod i ben oherwydd pwysau cyllidebol. Mynegodd y panel ei fod yn siomedig.
  • Graff 'Prif Faterion Cyflwyno - Cydlynu Ardal Leol' (tudalen 21) - nododd y panel mai ynysu oedd y mater mwyaf o bell ffordd.  Mae hwn yn ffigur gofidus.
  • Oedi wrth drosglwyddo gofal (tudalen 24) - Cafwyd lleihad sylweddol yn nifer yr unigolion a brofodd oedi wrth aros am becyn gofal cartref, a gwaethygodd hyn yn ddifrifol ym mis Awst ac ym mis Medi. Mae hwn yn peri gofid i'r panel, sy'n teimlo nad yw'r gwasanaeth yn mynd i'r afael â hyn.
  • Mae Allied wedi tynnu'n ôl o'r farchnad gofal cartref yng Nghaerfyrddin a bydd y cwmni'n dod i ben ar draws y DU ar ôl 14 Rhagfyr 2018. Mae'r cwmni'n darparu dros 700 awr o ofal yn Abertawe ar hyn o bryd. Un opsiwn yw bod cwmnïau sy'n bodoli'n gweithio gyda'r awdurdod i gymryd y gwaith a'r staff sy'n gyfrifol am y gwaith. Mae'r gost o wneud hyn yn debygol o fod yn uwch, felly bydd mwy o bwysau ar y gyllideb.  Mae recriwtio a chadw staff yn y gwasanaeth hwn yn anodd iawn. Mae'n bryder mawr i'r panel, sydd am gael diweddariad ar y mater hwn yn y cyfarfod nesaf.

 

Camau Gweithredu:

  • Diweddaru'r panel ar sefyllfa Allied o ran tynnu yn ôl o'r farchnad gofal cartref yn y cyfarfod nesaf.

 

 

5.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Comisiynu Gwasanaethau Llety i Bobl ag Anableddau Dysgu yn Strategol pdf eicon PDF 68 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Deborah Reed y diweddaraf i'r panel ar adroddiad yr archwiliad ac atebodd gwestiynau'r panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

·       Hysbyswyd y panel ni ofynnwyd i'r awdurdod ddarparu unrhyw wybodaeth ar gyfer yr archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac ni ofynnwyd iddynt gymryd rhan yn yr archwiliad.

·       Bydd yr adran yn gweithio tuag at yr argymhellion dros y 15 neu 16 mis nesaf ac yn cynnig darparu ymateb ysgrifenedig i'r panel ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r argymhellion, ac yna cwblheir gwaith dilynol ym mis Mawrth/Ebrill 2019 er mwyn dangos y cynnydd a wnaed.

·       Mae peth tystiolaeth yn dangos fod y gwasanaeth yn dechrau lleihau gwariant yn y maes hwn eleni, ac mae'n cael fwy o reolaeth dros ei gyllideb.

 

Camau Gweithredu:

·       Dosbarthu nodyn briffio i'r panel ar adroddiad SAC - sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r argymhellion

·       Ychwanegu 'adroddiad SAC ar gomisiynu gwasanaethau llety i bobl ag anableddau dysgu - gwaith dilynol ar yr argymhellion' (mis Mawrth/Ebrill 2019) at y rhaglen waith

 

6.

Adoygiad Blynyddol y Cyfarwyddwr o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2018-19 pdf eicon PDF 75 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, y diweddaraf i'r panel ar yr argymhellion a wnaed i'r Cabinet er mwyn llunio rhestr newydd o daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer 2019/20 a hysbysodd y panel fod y Cabinet wedi cytuno ar yr argymhellion.  Bydd cynnydd chwyddiannol o 5% ar gyfer holl daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol.  Ni cheir unrhyw daliadau gwasanaethau newydd ar gyfer 2019/20.

 

Anfonwyd anfonebau ar gyfer gwasanaethau gofal preswyl a gofal dydd yn dilyn adolygiad y llynedd yn ddiweddar iawn felly mae'n rhy gynnar i farnu'r effaith eto.

 

7.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Bu'r panel yn ystyried y rhaglen waith.

 

Bydd PABM yn dod i gyfarfod y panel ym mis Ionawr. 

 

Camau Gweithredu:

·       Trefnu sesiwn cyn cyfarfod y panel ym mis Ionawr er mwyn paratoi.

·       Bydd y panel yn paratoi cwestiynau ar gyfer cyfarfod y panel ym mis Ionawr.

 

 

 

 

8.

Lythyrau pdf eicon PDF 247 KB

a) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Medi 2018)

b) Ymateb gan Bae Gorllewinol 1 (cyfarfod 25 Medi 2018)

c) Ymateb gan Bae Gorllewinol 2 (cyfarfod 25 Medi 2018)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Camau Gweithredu:

·       Bydd y panel yn ymateb i gwestiwn 1E a ofynnwyd gan y cyhoedd yng nghyfarfod y panel ar 25 Medi 2018.

 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Tachwedd 2018) pdf eicon PDF 195 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Tachwedd 2018) pdf eicon PDF 245 KB