Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datgeliadau o gysylltiadau - Chris Holley a Mark Child. |
|
Nodiadau cyfarfod 25 Medi 2018 PDF 235 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel fod y cofnodion yn gofnod cywir o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2018. |
|
Cwestiynau'r Cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Cyflwyniad ar Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion Cofnodion: Darparodd Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion y diweddaraf am Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ac atebodd gwestiynau. Pwyntiau i'w trafod:
Camau Gweithredu:
|
|
Mark Child, Aelod y Cabinet - Gofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda Cofnodion: Roedd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, yn bresennol i roi crynodeb i'r panel am y cynnydd a wnaed o ran ymrwymiadau polisi'r cyngor mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion. Hysbyswyd y panel na fydd diweddariad swyddogol ar gael nes ei fod wedi'i gymeradwyo gan y Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Cabinet. Cytunodd y Panel i ohirio'r eitem hon nes bod y diweddariad swyddogol ar gael. Camau Gweithredu:
|
|
Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 PDF 98 KB Cofnodion: Ystyriodd y panel y rhaglen waith. Rhoddwyd gwybod i'r panel y bydd Alex Williams yn dechrau absenoldeb mamolaeth yn fuan. Roedd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion a benodwyd yn ddiweddar, Deborah Reed, yn bresennol yn y cyfarfod. Croesawodd y panel Deborah Reed a dymunwyd yn dda iddi yn ei rôl newydd.
|
|
a) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Medi 2018) b) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Medi 2018) c) Llythyr at Bae Gorllewinol (cyfarfod 25 Medi 2018) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel. |