Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliadau o gysylltiadau  – Chris Holley

2.

Nodiadau cyfarfodydd blaenorol pdf eicon PDF 117 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfodydd blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod y cofnodion yn gofnod cywir o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Awst 2018 ac 17 Medi 2018.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Cwestiynau a ofynnwyd gan aelodau'r cyhoedd:

 

Cwestiwn 1 - Diffyg Cyfathrebu a Chynnwys y Cyhoedd

 

a)    Pam nad yw agendâu/cyfarfodydd Bwrdd Bae'r Gorllewin yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe?

 

b)    Ni chaiff cylchlythyrau chwarterol Bae'r Gorllewin eu hargraffu, eu dosbarth na'u cyhoeddi ar wefan Cyngor Abertawe, Twitter/Facebook etc. i roi gwybod i'r cyhoedd.  Pam?

 

c)     Yn yr un modd, ni chaiff cyfarfodydd cyhoeddus Panel Dinasyddion Bae'r Gorllewin eu hysbysebu gan Gyngor Abertawe er mwyn darparu lleoliad sy'n addas i gynnwys mwy o aelodau'r cyhoedd.  Pam?

 

ch) Yn gyferbyniol i atebolrwydd agored a thryloyw Cyngor Abertawe, gwnaed sawl cais yn gofyn i Fwrdd Bae'r Gorllewin ganiatáu presenoldeb y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Bwrdd, a gwrthodwyd pob un ohonynt. Mae Rob Stewart, Rheolwr y Rhaglen a Chadeirydd Bae'r Gorllewin gynt, wedi gofyn am gyngor cyfreithiol o ran caniatáu'r cyhoedd i fod yn bresennol. Mae Cais Rhyddid Gwybodaeth diweddar a wnaed i Gyngor Abertawe yn gofyn am gynnwys y cyngor cyfreithiol a roddwyd i'r Cyng. Rob Stewart o ran mynediad cyhoeddus i gyfarfodydd Bwrdd Bae'r Gorllewin yn gwrthod cael ei ateb. A wnewch chi esbonio pam roedd angen gofyn barn corff ymgynghori allanol am y mater o ganiatáu'r cyhoedd i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd Bwrdd Bae'r Gorllewin. Ydy Cynghorwyr Abertawe sy'n mynychu cyfarfodydd Bwrdd Bae'r Gorllewin yn cytuno ar gyngor yr ymgynghorydd allanol 'nad yw'n angenrheidiol i aelodau'r cyhoedd fod yn bresennol yng nghyfarfodydd Bwrdd Bae'r Gorllewin' ac yn cefnogi'r cyngor hwn?  Allech chi nodi pa gynnwys/elfennau o gyfarfodydd Bwrdd Bae'r Gorllewin ddylai awgrymu bod angen gwahardd y cyhoedd rhag cymryd rhan ynddynt?

 

d)    Ydy Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion yn cytuno ar gofnod blaenorol Bwrdd Bae'r Gorllewin, 'nad yw'n addas i unrhyw Aelod etholedig Cynulliad Cymru fynychu cyfarfodydd Panel Dinasyddion Bae'r Gorllewin', ac yn ystyried bod hyn yn briodol?

 

Cwestiwn 2 - Adolygu ac Ailasesu Achosion Gofal Anghenion Cymhleth

 

Ers dechrau'r rhaglen yn 2014, cafwyd arbedion gwerth £4,527,053!

 

a)    A wnewch chi esbonio sut pennwyd y darged arbedion gwerth £1 miliwn?

 

b)    Faint o achosion anghenion cymhleth a adolygwyd hyd yn hyn, a faint sy'n aros i gael eu cwblhau yn ardal Cyngor Abertawe?

 

c)     A wnewch chi esbonio pa elfennau nodweddiadol o'r pecynnau gofal anghenion cymhleth presennol y'u lleihawyd yn sgîl ailasesiad sydd wedi cynhyrchu'r arbedion mwyaf?

Nid oedd Aelod y Cabinet yn bresennol yn y cyfarfod. Atebodd swyddogion gwestiynau ffeithiol yn y cyfarfod a gofynnodd y panel am ymateb ysgrifenedig llawn gan Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod.

 

 

 

 

Camau Gweithredu:

 

  • Aelod y Cabinet i roi ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau a rhoi copi i aelodau'r Panel.

 

4.

Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin - Cyflwyniad a Sesiwn Friffio pdf eicon PDF 2 MB

Kelly Gillings, Swyddog Arweiniol Dros Dro’r Rhaglen Ranbarthol

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Kelly Gillings, Swyddog Arweiniol Dros Dro'r Rhaglen Ranbarthol, drosolwg o Raglen Bae'r Gorllewin ac atebodd gwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Teimlodd y panel yn hapus y gwnaed arbedion ond roedd am wybod faint o arian a wariwyd eisoes a sut cafodd ei rannu rhwng yr awdurdodau a'r Bwrdd Iechyd
  • Teimlai'r panel nad oes angen ail-frandio Bae'r Gorllewin gan y bydd yn parhau i fod yn rhan orllewinol y bae ar ôl i Ben-y-bont ar Ogwr adael.
  • Hoffai'r panel wybod beth yw'r gost i Gyngor Abertawe a'r Bwrdd Iechyd o ran y newidiadau i PABM a cholli Pen-y-bont ar Ogwr i Gwm Taf. Caiff dadansoddiad o'r cyllidebau ei ddarparu
  • Mae'r arbedion sylweddol sydd wedi'u cadarnhau mewn gofal cymhleth yn seiliedig ar becynnau gofal felly rydym yn ymwybodol o union swm yr arbedion
  • Cadarnhaodd swyddogion fod gwahaniaethau o hyd rhwng tâl staff sydd wedi'u cyflogi'n lleol a staff sy'n gweithio'n rhanbarthol. Yn gyffredinol mae timau'n perfformio'n dda yn rhanbarthol.
  • Mynegwyd pryderon am ddwy agwedd ar drefniadau Bae'r Gorllewin. Cymhlethdod y siart rheoli ar dudalen 38 y papurau a'r diffyg llinellau atebolrwydd clir. Hefyd anfanyleb rolau grwpiau tasg amrywiol a nodwyd ar lefelau isaf y siart. Hefyd awgrymodd y panel efallai y byddai'n ddefnyddiol i gymhwyso dysgu theori rhwydwaith wrth ddatblygu'r trefniadau hyn. Cadarnhaodd swyddogion nad yw'n glir bod yna weledigaeth glir a bod angen symleiddio'r siart. Cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol i'r panel weld yr adolygiad o drefniadau Bae'r Gorllewin.
  • Gofynnodd y panel a fyddai'r un canlyniadau wedi bod pe bai'r Awdurdodau Lleol wedi derbyn yr arian yn hytrach na'r rhanbarth.  Teimlodd swyddogion y byddai rhai pethau wedi cael eu cwblhau'n gyflymach neu'n well, ond ni fyddai'r un canlyniadau wedi bod yn gyffredinol. Hefyd mae wedi gorfodi'r Bwrdd Iechyd a'r awdurdodau i gydweithio ar rai materion anodd. Nodwedd gadarnhaol arall o'r trefniad rhanbarthol yw bod cyfiawnder gwasanaeth ar draws y rhanbarth.
  • Bydd y panel yn cael gweld y cynlluniau gwaith sy'n cael eu cwblhau ym mis Rhagfyr.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Darperir dadansoddiad cyllidebau i'r panel er gwybodaeth
  • Ychwanegu'r diweddaraf am drefniadau Bae'r Gorllewin yn sgîl yr adolygiad at raglen waith y panel ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig nesaf (dyddiad i'w gytuno)
  • Cynnwys unrhyw gwestiynau pellach gan y panel am yr eitem hon mewn llythyr i Fae'r Gorllewin ar gyfer ymateb 
  • Darparu'r cynlluniau gwaith i'r panel.

 

5.

Trosolwg o Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 90 KB

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu Anita Evans, Swyddog Perfformiad a Datblygiad y Tîm Cefnogi Pobl, yn trafod yr adroddiad gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Teimlai'r panel bod angen i'r gwasanaeth prawf wneud mwy ac roedd y panel am wybod yr hyn oedd yn cael ei wneud er mwyn gwneud iddynt hwyluso'u rôl. Clywodd y panel fod adolygiad ar lefel genedlaethol ac y byddai gwybodaeth am hyn yn cael ei darparu i'r panel
  • Clywodd y panel y dylai cynllun hyblygrwydd helpu'r cyngor â chomisiynu ar y cyd.

 

Camau Gweithredu:

  • Cylchredeg yr wybodaeth am yr adolygiad i aelodau'r panel.

         

 

6.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y rhaglen waith.

 

7.

Llythyrau pdf eicon PDF 190 KB

a) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Awst 2018)

b) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Medi 2018)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Medi 2018) pdf eicon PDF 184 KB

Llythyr y cynullydd at Western Bay (cyfarfod 25 Medi 2018) pdf eicon PDF 134 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Medi 2018) pdf eicon PDF 247 KB

Ymateb gan Bae'r Gorllewin 1 (cyfarfod 25 Medi 2018) pdf eicon PDF 370 KB

Ymateb gan Bae'r Gorllewin 2 (cyfarfod 25 Medi 2018) pdf eicon PDF 217 KB