Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganiadau o gysylltiad - Joe Hale, Chris Holley a Gloria Tanner

2.

Nodiadau cyfarfod 17 Gorffennaf 2018 pdf eicon PDF 111 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

4.

Adroddiad Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 65 KB

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, yr Adroddiad Amlygu Monitro Perfformiad gan ganolbwyntio ar y brif faterion ac ateb cwestiynau.  Roedd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol hefyd.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Pwynt Mynediad Cyffredin (tudalen 7) - hoffai'r panel weld graff yn yr Adroddiad Perfformiad fel y gellir gweld amrywiadau.
  • Gofalwyr sydd wedi'u Nodi ac a ydynt am gael asesiad gofal (tudalen 7) - ers i'r system gofnodi newid, mae'r data'n dangos canran uwch sy'n cael cynnig i wneud yr asesiad.
  • Gofal Cartref Tymor Hir (tudalen 8) - mae hyn mewn sefyllfa lawer gwell nag yr oedd 12 mis yn ôl. 
  • Mae'n debygol y bydd gorwariant gwerth oddeutu £4 miliwn ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion yn y flwyddyn ariannol hon. Mae Iechyd Meddwl yn ymddangos ychydig yn well. Y pryder mwyaf ar hyn o bryd yw Anableddau Dysgu, yn enwedig byw â chymorth a gofal preswyl.
  • Mynegwyd pryder am y Bwrdd Iechyd yn trosglwyddo costau ynghylch pobl ag anableddau dysgu i'r cyngor, sydd wedi cyfrannu at y gorwariant yn y maes hwn.
  • Mae'r cyngor a'r Bwrdd Iechyd yn cael trafodaethau ynghylch gofal iechyd parhaus.  Mae angen trefniad cydweithredol gwell, gan gynnwys cyllidebau cyfun.
  • Trosglwyddo Gofal Gohiriedig (tudalen 9) - cynhwysir Ysbyty Gorseinon yn y ffigurau hyn ac mae'r rhan fwyaf o'r gohiriadau yng Ngorseinon a Chefn Coed ar hyn o bryd.  Cynnig wedi’i gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau cyllid am weithiwr cymdeithasol arall ar gyfer Gorseinon ac, os cytunir ar hyn, y gobaith yw y bydd yn lleihau oedi.
  • Adolygiadau o Gleientiaid a Glustnodir (tudalen 9) - cafwyd gwelliant sylweddol mewn ffigurau diweddar, yn enwedig yn y Tîm Anableddau Dysgu a oedd yn destun pryder cyn hyn.
  • Ailalluogi Preswyl (tudalen 10) - trafodir y meini prawf ar gyfer ailalluogi, yn enwedig ym Môn-y-maen.
  • Ymateb yn Brydlon i Faterion Diogelu (tudalen 11) - mae'r ganran ar gyfer ymatebion prydlon wedi cynyddu'n sylweddol.  Roedd y panel yn falch o glywed hyn.
  • Ymateb yn Brydlon i Asesiadau Colli Rhyddid (tudalen 11) -  dylid gweld gwelliant mawr mewn perfformiad yn yr adroddiad perfformiad chwarterol nesaf oherwydd y rhoddwyd trefniadau gweithio newydd ar waith.
  • Datblygiadau Arfaethedig i'r Adroddiad yn y Dyfodol (tudalen 58) - hoffai'r panel weld amserlen ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol wedi'i chynnwys yn yr adroddiad perfformiad nesaf.  Teimlai aelodau'r panel hefyd y byddai'n ddefnyddiol i gynnwys gwybodaeth ariannol yn yr adroddiad a hoffent ychwanegu hyn at y Rhestr Ddymuniadau.

 

5.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Bu'r panel yn ystyried y rhaglen waith.

 

Camau Gweithredu:

 

·       Ychwanegu eitem at y rhaglen waith ar gyfer cyfarfod 20 Tachwedd 2018 - 'Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Comisiynu Gwasanaethau Llety i Oedolion ag Anableddau Dysgu yn Strategol'

·       Cytunodd y panel y gall Chris Holley gymryd rôl y cynullydd ar gyfer cyfarfod ychwanegol y panel ar 17 Medi 2018 gan na fydd Peter Black yno.

 

 

Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Awst 2018) pdf eicon PDF 190 KB