Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganiadau o gysylltiadau - Chris Holley

 

2.

Cadarnhau Aelodau Cyfetholedig y Panel

Cofnodion:

Cadarnhawyd Katrina Guntrip a Tony Beddow fel aelodau cyfetholedig y panel

 

3.

Nodiadau cyfarfod 19 Mehefin 2018 pdf eicon PDF 111 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

 

4.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

Y diweddaraf am Gydlynu Ardaloedd Lleol - Cyflwyniad

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Jon Franklin, Rheolwr Gweithredu CALl

Amy Hawkins, Rheolwr Ffyniant a Lles Oedolion, Tlodi a’i Atal

 

Cofnodion:

Roedd Jon Franklin, Rheolwr Gweithredu Cydlynu Ardaloedd Lleol, yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r panel ac i ateb cwestiynau ynghyd â Dave Howes ac Alex Williams.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Holodd y panel am argaeledd data gwaelodlin ar gyfer angen y gellir ei atal.  Nid yw angen gwybodus yn cael ei gofnodi ac mae'r ffocws ar gryfderau a'r pethau cadarnhaol ac annog pobl i gyfrannu at y gymuned.
  • Y prif reswm dros gyfeirio pobl i Gydlynu Ardaloedd Lleol yw unigrwydd. Mae cysylltiad cymdeithasol yn bwysig ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd a hapusrwydd.
  • Atgoffwyd bod y brifysgol wedi cynnal gwerthusiad o Gydlynu Ardaloedd Lleol ar ôl chwe mis.  Cael trafferth wrth nodi a yw ymyriadau CALl wedi gwneud gwahaniaeth am ei fod yn anodd iawn mesur yr angen hwn.
  • Pryder nad yw PABM wedi buddsoddi'n ariannol mewn CALl ac mae angen ymchwilio i hyn.
  • Angen dangos yr hyn y mae CALl yn ei wneud sy'n ychwanegu gwerth at unigolion.  Angen mwy o amser cyn gallu gweld a oes gwerth i'r ymagwedd hon neu a fyddai'n well buddsoddi arian yn rhywle arall.
  • Mantais CALl yw nad oes unrhyw feini prawf, gall CALl helpu unrhyw un, ni waeth beth yw ei anghenion.
  • Anodd iawn mesur osgoi costau ac ataliaeth.  Mae data'n cael ei gofnodi ac mae'r adran yn chwilio am y ffordd orau i gyflwyno hyn a sut mae'n cyd-fynd â'r egwyddorion lles cenedlaethol. 
  • Roedd y panel am wybod yr hyn sy'n cael ei weld mewn perthynas â chanlyniadau a pherfformiad ar gyfer CALl er mwyn gweld sut mae'r arian yn cael ei wario. Cefnogaeth allanol ar gyfer angen gwybodus er mwyn datblygu ffordd o fesur y manteision.
  • Mewn perthynas â sut mae pob CALl yn gweithio, mae gan bob CALl gohort o gleientiaid sy'n cael eu trafod dan oruchwyliaeth y rheolwr.  Mae un cydlynydd yn gweithio gyda rhwng 50 a 60 o bobl ar y tro. 
  • Holodd y panel a oeddem mewn safle i gael 2 grŵp rheoli - un sy'n cynnwys 10 ardal gyda CALl ac un sy'n cynnwys 10 ardal heb CALl.
  • Mae'r panel yn teimlo y gall y cynghorwyr ddysgu llawer oddi wrth Gydlynwyr Ardaloedd Lleol, ac i'r gwrthwyneb.
  • Ar gyfer y dyfodol, mae angen 10 cydlynydd arall i weithio ar draws yr holl ardaloedd pan ellir dod o hyd i fuddsoddiad. 

 

6.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Nododd y panel y rhaglen waith.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Gwahodd Cadeirydd a Phrif Weithredwr PABM i fod yn bresennol mewn cyfarfod i roi gwybod i'r Panel am eu gweledigaeth ar gyfer Abertawe unwaith bydd nifer yr awdurdodau PABM yn cael eu lleihau i ddau.
  • Y Panel i benderfynu yn dilyn cyfarfod mis Awst ar Fonitro Perfformiad a ydynt am wahodd cynrychiolydd o PABM i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn trafod materion ynghylch Gofal Iechyd Parhaus.
  • Cyfarfod 23 Hydref - aelodau'r Panel i ddarparu cwestiynau cyn y cyfarfod ar gyfer eitem 'Y diweddaraf am sut mae ymrwymiadau polisi'r cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn y Gwasanaethau i Oedolion'.

 

7.

Llythyrau pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd llythyr gan y panel.