Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganiadau o gysylltiadau – Chris Holley, Alyson Pugh a Gloria Tanner.

 

2.

Nodiadau'r cyfarfod ar 17 Ebrill 2018 pdf eicon PDF 114 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

4.

Adroddiad Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 66 KB

 Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, yr Adroddiad Amlygu Monitro Perfformiad gan ganolbwyntio ar y brif faterion ac ymateb i gwestiynau.

 

Pwyntiau trafod:

 

·       Pwynt Mynediad Cyffredin – mae tuedd wella wedi bod.  Mae darpariaeth well o dimau aml-ddisgyblaeth wedi bod ers 1 Ebrill ac mae'r adran yn disgwyl i'r data ddangos cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau ers hynny.

·       Adnabod gofalwyr ac asesu gofalwyr – mae nifer ychydig yn newidiol o asesiadau'n cael eu cwblhau.  Mae gobaith y bydd hyn yn gwella gan fod blwch ticio wedi cael ei ychwanegu at y system TG ers 1 Ebrill y mae'n rhaid ei dicio'n unig er mwyn nodi a yw asesiad wedi cael ei gynnal ai peidio. 

·       Gofal Cartref Tymor Hir – bydd yr adran yn symud i rota newydd ar gyfer gofal cartref o 2 Gorffennaf felly bydd cynhwysedd mewnol yn sefydlog.  Bydd hyn yn arwain at lif gwell o lawer. Bydd y panel yn monitro hyn.

·       Gofal cartref i bobl hŷn – mae'r sefyllfa'n eithaf sefydlog.  Nid ydym yn gweld nifer llai o bobl yn mynd i ofal cartref. 

·       Oedi wrth drosglwyddo gofal – mae cynnydd mewn oedi yn Ysbyty Gorseinon ac mae hyn yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.  Mae'n bosib bod y data'n cael ei gofnodi'n anghywir. 

·       Adolygiadau o gleientiaid a glustnodir – nid yw hon yn sefyllfa dda.  Mae pryderon ynghylch perfformiad y Tîm Anableddau Dysgu a'r Tîm Ansawdd Cartrefi Gofal wrth adolygu anghenion cleientiaid. Mae targedau'n cael eu gosod ar gyfer gwella.  Bydd y panel yn awyddus i fonitro'r asesiadau 'dros flwyddyn'.  Dylai'r ffigur hwn fynd yn llai wrth i arian ychwanegol gael ei neilltuo yn y gyllideb at y diben hwn. 

·       Ailalluogi Cymunedol – problemau wrth gofnodi, nid yw'r holl ddata'n cael ei gofnodi ar hyn o bryd.  Mae camau gweithredu'n cael eu cymryd er mwyn gwella hyn.

·       Ymateb yn brydlon i faterion diogelu – mae sgrinio ymlaen llaw'n cael ei gyflwyno er mwyn ymdrin â materion lefel isel iawn mewn ffordd wahanol. Pwysleisiodd y panel bwysigrwydd ffigurau sy'n adlewyrchu'r unigolion hynny y mae angen cymorth arnynt.  Dylai fod gwelliant o ran 'ymateb mewn 7 niwrnod' erbyn diwedd y flwyddyn hon.

·       Cydlynu Ardaloedd Lleol – mae’r panel yn rhagweld y bydd yn rhaid i'r adran ddechrau mesur allbynnau rywbryd yn y dyfodol. Mae angen cymorth ar yr adran wrth ddylunio system a fydd yn cofnodi'r wybodaeth hon.  Hysbyswyd y panel y bydd cyfrifoldeb am Gydlynu Ardaloedd Lleol yn cael ei drosglwyddo o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Adran Tlodi a'i Atal.

·       Rhyddhau i Ofal Iechyd Parhaus – mae pryder ynghylch lefelau isel iawn o ryddhau pobl i leoliadau Gofal Iechyd Parhaus a ariennir.   

 

Camau Gweithredu:

 

  • Ar gyfer 'Adolygiadau o gleientiaid a glustnodir', hoffai'r panel weld y ffigyrau cyfartalog, yn achos pob tîm, ar gyfer yr amserau y mae cleientiaid wedi bod yn aros 'dros flwyddyn' ers eu hasesiad diwethaf.
  • Bydd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu data i'r panel ar y lefelau isel o ryddhau pobl i leoliadau Gofal Iechyd Parhaus a ariennir pan fydd ar gael.   
  • Bydd PABM yn cael ei wahodd i un o gyfarfodydd y panel yn hwyrach yn y flwyddyn er mwyn trafod y materion sy'n ymwneud â Gofal Iechyd Parhaus. 

 

5.

Eglurhad o allgynnyrch y gyllideb

Cyflwyniad gan Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Daeth Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, i'r cyfarfod i roi cyflwyniad, gan esbonio rhai o allbynnau'r gyllideb ac ymateb i gwestiynau'r panel. Roedd y panel yn fodlon ar yr wybodaeth a ddarparwyd. Hysbyswyd y panel nad yw gwybodaeth reoli wedi'i datblygu ar gyfer Lleoliadau Preswyl a Byw â Chymorth o ran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ac mae hyn yn destun pryder i'r adran ac i'r panel.

 

Camau Gweithredu:

  • Hysbysir Dave Howes am feysydd eraill yr hoffai'r panel iddo ganolbwyntio arnynt er mwyn esbonio allbynnau'r gyllideb. 
  • Cyflwyniad i'w ddosbarthu i'r panel yn dilyn y cyfarfod.

 

6.

Adolygiad o'r flwyddyn a chynllun ar gyfer y 12 mis nesaf o ran Craffu Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar Raglen Waith Ddrafft ar gyfer 2018/19.  Symudir yr adolygiad o'r flwyddyn i agenda'r cyfarfod nesaf.

 

Camau Gweithredu:

  • Aelodau'r panel i feddwl am y pedwar cwestiwn mewn perthynas â'u blwyddyn ar y panel cyn y cyfarfod nesaf. 

 

7.

Llythyrau pdf eicon PDF 137 KB

a) Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Ebrill 2018)

b) b) Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Ebrill 2018)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Camau Gweithredu:

  • Y Cynullydd i ysgrifennu at Aelod y Cabinet gan ofyn am ymateb i bwynt 4 yn y llythyr a anfonwyd ato yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill 2018.

 

Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Mai 2018) pdf eicon PDF 141 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Mai 2018) pdf eicon PDF 80 KB