Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliadau o gysylltiadau -  Chris Holley ac Alyson Pugh

2.

Nodiadau cyfarfod 20 Mawrth 2018 pdf eicon PDF 114 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

 

 

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Cwestiynau a ofynnwyd gan aelodau'r cyhoedd:

 

  • Gofynnwyd pam bod cartrefi'n cau nawr pan fo pobl yn cael eu sicrhau na fyddai unrhyw newidiadau i wasanaethau a reolir tan y flwyddyn nesaf.
  • Yn y gorffennol mae'r cyngor wedi ceisio cael pobl i fynd i wasanaethau dydd, ond nawr bod y rheiny'n cau, maent yn cael eu cadw yn eu cartrefi. 
  • Mae angen gofalwyr y gall pobl ddibynnu arnynt.  Mae gwahanol bobl drwy'r amser ac nid ydynt yn aros yn ddigon hir i siarad â phobl.  Rydych yn targedu'r bobl fwyaf diamddiffyn.

 

Ymateb Aelod y Cabinet:

 

Nid ydynt yn cau cartrefi nawr - y cynnig a gyflwynir i'r Cabinet yw bod yr awdurdod yn cynnal ymgynghoriad.  Os penderfynir bod angen cau cartref, nid ydynt yn rhagweld y byddai hyn yn digwydd tan y flwyddyn nesaf.

 

Ar hyn o bryd mae 5 canolfan dydd â lleoedd gwag ar hyn o bryd. Mae angen i ni wella gofal seibiant felly mae angen i ni wella'r ffordd rydym yn darparu Gwasanaethau i Oedolion.  Hoffem gynyddu gofal cartref ond nid oes gennym yr adnoddau i wneud hyn ar hyn o bryd.  Mae gwahaniaeth rhwng gofal a chael bywyd da.  Mae lleoedd eraill y gall pobl fynd iddynt. 

 

Rydym yn meddwl y bydd y cynigion hyn yn gwella'r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar hyn o bryd.

 

4.

Canlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hyn pdf eicon PDF 59 KB

Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles 

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y panel i Aelod y Cabinet a'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad ac am fod yn bresennol yn y cyfarfod i drafod Canlyniadau Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn.

 

Amlinellodd y panel y materion canlynol:

 

  1. Pryder bod yr adolygiad comisiynu wedi cymryd rhy hir i'w gwblhau a theimlwyd y dylai gofal preswyl a dydd fod wedi'u gwahanu am eu bod yn drysu pobl.
  2. Roedd y panel yn teimlo bod yr ymgynghoriad gwreiddiol yn 2016 yn rhy gymhleth ac nid oedd yn cyrraedd y bobl roedd i fod i effeithio arnynt.
  3. Nid oedd unrhyw wybodaeth am y cynigion nac unrhyw weledigaeth tymor hir o ran newidiadau dros amser i bobl sy'n symud i leoliadau gofal gwahanol a newidiadau i anghenion tymor hir a'r hyn mae'n ei olygu i'r cynigion.
  4. Pryder y byddai'r adolygiadau ar gyfer diffinio unigolion fel rhai ag anghenion cymhleth yn cael eu cynnal yn fewnol yn y model arfaethedig newydd. Mae'r panel yn teimlo'n gryf bod angen i'r Adran Iechyd gael ei chynnwys am fod ardal lwyd rhwng gofal cymdeithasol a gofal nyrsio ac nid yw staff y cyngor yn ddigon cymwys i ymgymryd â'r adolygiadau ar eu pennau eu hunain. Roedd pryder mawr hefyd ynghylch holl aelodau'r panel mewn perthynas â'r diffiniad o ofal cymhleth, a oedd yn crwydro i faes gofal nyrsio a byddai'n cynnwys staff meddygol hyfforddedig a chymwys er mwyn ei gyflwyno.
  5. Er yr hyder y gall staff ddatblygu eu sgiliau er mwyn ymdrin ag anghenion cymhleth, mae'r panel yn ddrwgdybus a hoffent gael sicrwydd ar lefel hyfforddi, dilysiad a goruchwyliaeth staff y mae gofyn iddynt ddarparu gofal ar y lefel hon.
  6. Mae'r panel yn nodi mai gweledigaeth tymor hir y cyngor yw dibynnu ar y sector preifat i gyflwyno gofal cyhoeddus safonol ac mae'n bryderus na fydd y cyngor yn cynnig opsiwn ar gyfer y sector cyhoeddus. Rydym yn teimlo bod angen i hyn gael ei gydnabod a chael ei egluro i'r cleientiaid.
  7. Hoffai'r panel weld peth o'r ddarpariaeth ar gyfer anghenion cymhleth yn cael ei rhannu â darparwyr eraill.
  8. Mewn perthynas â chau safle Parkway, teimlodd y panel nad oedd unrhyw eglurder o ran yr hyn bydd yn digwydd os bydd y safle'n cau. Nodwyd bod gwerth y safle wedi'i ystyried wrth asesu'r penderfyniad i'w gau, ond nid oedd yn bosib i'r tystion ddarparu unrhyw fanylion o ran yr hyn a oedd y prisiant yn seiliedig arno, ac a oedd yn gyson â'r cynigion yn yr adroddiad i'w gadw ar gyfer gofal preswyl preifat neu sut y byddai'r uchelgais hwnnw'n cael ei gyflawni.
  9. Roedd y panel yn teimlo y byddai posibilrwydd o wrthwynebiad cryf i'r cynigion gan breswylwyr Parkway a hoffent wybod sut bydd yr awdurdod yn symud ymlaen os yw preswylydd yn gwrthod gadael.
  10. Roedd y panel yn teimlo bod ffioedd ychwanegol ar gyfer gofal preswyl yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef. Roeddem yn teimlo y gallai fod yn ffactor i rai preswylwyr wrth iddynt ddewis lle maent am gael eu hailgartrefu, ond nid oedd hyn wedi'i drin o ddifrif yn yr ymatebion i gwestiynau ar y mater.
  11. Hoffai'r panel gael cadarnhad y bydd adolygiad blynyddol o bob preswylydd mewn gofal preswyl gan bobl gymwys er mwyn asesu eu hanghenion parhaus.
  12. Hoffai'r panel gael mwy o fanylion am ddarpariaeth gofal dydd arall ar gyfer cleientiaid nad oes ganddynt anghenion cymhleth na fyddai'n gallu parhau i gael mynediad i'r tair ganolfan dydd sydd ar ôl ar gyfer pobl hŷn mwyach.

 

 

5.

Trafodaeth a Chwestiynau

a) Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

b) Barn y Panel i'r Cabinet

 

Cofnodion:

Bydd Cynullydd y Panel yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet ar 19 Ebrill 2018 a bydd llythyr yn dilyn ar gyfer Aelod y Cabinet sy'n amlinellu barn y panel.

 

6.

Amserlen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

7.

Llythyrau pdf eicon PDF 68 KB

a) Ymateb gan Aelod y Cabinet Mark Child (cyfarfod 13 Chwefror 2018)        

b) Ymateb gan Aelod y Cabinet Rob Stewart (cyfarfod 13 Chwefror 2018)

c) Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Mawrth 2018)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 137 KB

Llythr o Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 182 KB

Llythyr dilynol i Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Ebrill 2018) pdf eicon PDF 196 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet i'r llythyr dilynol (1) (cyfarfod 17 Ebrill 2018) pdf eicon PDF 332 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet i'r llythyr dilynol (2) (cyfarfod 17 Ebrill 2018) pdf eicon PDF 284 KB