Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datgeliadau o gysylltiadau - Chris Holley ac Alyson Pugh. |
|||
Nodiadau'r cyfarfod ar 13 Chwefror 2018 PDF 118 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod. |
|||
Cwestiynau'r Cyhoedd
Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|||
Adroddiad Blynyddol am Gwynion y Gwasanaethau i Oedolion 2016-17 PDF 56 KB Andrew Taylor, Rheolwr Cwynion Corfforaethol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Aeth Andrew Taylor, Rheolwr Cwynion Corfforaethol, drwy'r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau. Pwyntiau trafod:
|
|||
Cyflwyniad Ateb gan Aelod y Cabinet a Sesiwn Holi ac Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles, yn bresennol i roi'r diweddaraf am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Gwasanaethau i Oedolion dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Pwyntiau trafod: · Cydlynu Ardaloedd Lleol - cyfarfu Peter Black â'i Gydlynydd Ardal Leol a wnaeth argraff fawr arno. Y llynedd, bu'r panel yn edrych ar fanteision posib CALl. Roedd y panel am wybod os yw'r adran wedi gallu edrych ar fanteision arian parod. Fe'i hysbyswyd nad oes gwybodaeth am hyn ar gael ar hyn o bryd. Nid oes gan yr awdurdod gytundeb cyfredol â Phrifysgol Abertawe i gynhyrchu tystiolaeth am ba mor effeithiol ydyw. Fodd bynnag, ar ryw bwynt yn y dyfodol, caiff gwybodaeth ei choladu. · Gofynnodd y panel am ddangosyddion perfformiad a fyddai'n dangos canlyniadau CALl. Hysbyswyd y panel y byddai'n anodd dangos budd ond bydd yr adran yn llunio rhywbeth i'w gynnwys yn ei adroddiadau perfformiad i'r panel. · Dywedodd y panel fod gwahaniaeth mawr i'r maes iechyd os yw'r Cydlynydd Ardal Leol yn dda neu beidio a bod angen iddo ddod i adnabod y gymuned yn ei ardal, oherwydd po fwyaf mae'n gwreiddio'i hun, gorau yw'r canlyniadau. Teimlai'r panel fod y rhai yn Abertawe'n dda iawn. · Roedd y panel yn falch o glywed bod y gwasanaethau cymdeithasol yn cyflwyno/cyfeirio pobl yn rheolaidd i Gydlynwyr Ardaloedd Lleol. Cânt eu cyfeirio gan ystod eang o weithwyr proffesiynol felly cânt eu defnyddio'n dda. · Clywodd y panel fod nifer o adolygiadau yn yr arfaeth yn adran y gwasanaethau cymdeithasol. O ran y gwasanaeth eiriolaeth, ni fydd adolygiad ar wahân ond bydd yr adran yn adolygu ei hymagwedd at eiriolaeth. Ailarchwilir y broses gyfredol felly mae gwaith yn parhau ar hyn. · Strategaeth Llety ar gyfer Pobl Hŷn - roedd y panel yn meddwl y byddai hyn yn manylu ar nifer y bobl hŷn a'u hanghenion tai ac roedd wedi synnu i glywed na fyddai adolygiad ffurfiol yn cael ei gynnal. Mae'n rhywbeth y mae angen edrych arno'n fanylach ond ar hyn o bryd rhoddir blaenoriaeth i adolygiadau comisiynu o ran amser staff. Mae'r panel yn teimlo y byddai'n fuddiol treulio amser yn cynnal adolygiad trawsbynciol o anghenion ar draws adrannau. · Mae enghreifftiau yn Ewrop o fyfyrwyr a phobl hŷn yn rhannu llety. Mae gan Aelod y Cabinet ddiddordeb mewn mynd ar drywydd hyn. · Roedd y panel am wybod yr hyn i'w ddisgwyl o ran cyllid ar gyfer Cefnogi Pobl. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu dosbarthu'r cyllid felly mae'n rhywbeth y bydd rhaid i'r awdurdod gadw llygad arno. Holodd y panel a oedd unrhyw waith wedi'i wneud ar sut i ddiogelu'n sefyllfa, o gofio y byddai Abertawe o bosib yn colli'r cyfle i gael gyllid. Mae'r awdurdod yn ceisio casglu tystiolaeth am yr hyn y mae wedi'i wneud a'r hyn y mae'n rhaid iddo ddelio ag ef, er enghraifft, digartrefedd. Mae'n gadarnhaol fod gan yr awdurdod Gyfarwyddiaeth Pobl a bod llawer o grantiau'n dod o fewn y gyfarwyddiaeth hon. Mae hyn yn galluogi ymagwedd o edrych ar sut gallwn ddefnyddio grantiau cyfan am y canlyniadau rydym am eu cyflawni. Mae hyn yn fater anodd iawn sydd ar gam cynnar ond mae peth gwaith yn cael ei wneud ar hyn. Bydd y panel am wirio cynnydd o ran hyn mewn 3 i 6 mis. Camau Gweithredu: · Ychwanegu 'Sut bydd yr awdurdod yn defnyddio ei grantiau drwy'r Rhaglen Cefnogi Pobl' mewn 3 i 6 mis. |
|||
Amserlen Rhaglen Waith 2017-18 PDF 78 KB Cofnodion: Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y
panel. Camau Gweithredu: ·
Trefnu cyfarfod rhwng Peter Black, Alex Williams a
Swyddog Cefnogi Craffu y Rhaglen Waith ddrafft ar gyfer 2018/19. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel. |
|||