Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Datganiadau o
gysylltiadau – Chris Holley, Sue Jones ac Alyson Pugh
|
2. |
Nodiadau cyfarfod 16 Ionawr 2018 PDF 135 KB
|
Derbyn
nodiadau'r cyfarfod blaenorol a'u cymeradwyo fel cofnod cywir.
|
Cofnodion:
Cytunodd y panel
fod y nodiadau yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
3. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
|
Rhaid i
gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud.
|
Cofnodion:
Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd
|
4. |
Gofal Canolraddol gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl PDF 112 KB
Alex Williams,
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion
Mark Wade, Tai
Cofnodion:
Aeth Alex
Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, drwy'r adroddiad gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau ac ateb cwestiynau. Roedd Mark Wade, Tai, hefyd yn bresennol
yn y cyfarfod ar gyfer yr eitem a oedd yn ymwneud â Grantiau Cyfleusterau i'r
Anabl.
Pwyntiau trafod:
- Bu llawer o gynnydd gyda swyddogaeth y tîm
blaenoriaethu amlddisgyblaeth.
Mae'r holl weithwyr proffesiynol bellach yn eistedd wrth y drws
ffrynt, gan gynnwys nyrsys ardal.
- Yr Adran Iechyd sy'n arwain gofal
rhagweledol. Mae cynnydd yn
ddibynnol ar yr ymagwedd ranbarthol a chyllid.
- Gofal cartref mewnol – mae'r strwythur
uwch-reoli newydd wedi'i roi ar waith ac mae'n ymddangos bod yr ymagwedd
hon yn llwyddo. Mae angen mynd i'r afael â phroblemau o ran rotâu gwaith o
hyd. Y gobaith yw treialu hyn eleni.
- Mae Adolygiad Ailalluogi'n mynd rhagddo. Mae
problemau gyda chofnodi data o hyd.
- Llwybrau pobl drwy'r ysbyty – mae cefnogaeth
gwaith cymdeithasol ar y safle wedi lleihau gohirio trosglwyddo gofal o
ganlyniad i broblemau asesu gwaith cymdeithasol. Hoffai'r panel gael
gwybodaeth am faint o bobl sydd wedi osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty o
ganlyniad i'r gwasanaeth ymateb clinigol acíwt.
- Roedd achos yr Ombwdsmon wedi arwain at
adolygiad llawn o'r polisi ar gyfer rheoli stoc yn y storfa cyfarpar
cymunedol a thele-ofal. Roedd y panel yn falch bod cyfradd ailgylchu uchel
ar gyfer y storfa cyfarpar cymunedol.
- Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl – mae un
dangosydd ar gyfer y maes hwn sy'n lleihau, felly mae cynnydd yn cael ei
wneud. O ran therapyddion galwedigaethol, mae'r amser aros ar gyfer
prosesu grantiau wedi lleihau.
- Gweithio 24 awr – dyma ran o Fodel Optimwm
Bae'r Gorllewin. Hoffai'r panel weld dadansoddiad manwl.
- Cynigir treialu gweithio 7 niwrnod gan
therapyddion galwedigaethol. Mae peth gwrthwynebiad i hyn. Ymgynghorir
arno.
Camau Gweithredu:
- Bydd yr adran yn darparu gwybodaeth i'r panel
am nifer y bobl sydd wedi osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i'r
gwasanaeth ymateb clinigol acíwt.
- Bydd yr adran yn darparu copi o Fodel Optimwm
Bae'r Gorllewin.
|
5. |
Cyflwyniad am System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) PDF 168 KB
Steve Davies,
Rheolwr Gweithredu WCCIS
Tracey Bell,
Arbenigwr Cynnyrch WCCIS
Cofnodion:
Roedd Steve
Davies, Rheolwr Gweithredu WCCIS, a Tracey Bell, arbenigwr ar y system, yn bresennol
i roi cyflwyniad ar sut mae'r system yn gweithio ac i ateb unrhyw gwestiynau.
Pwyntiau trafod:
- Er ei bod yn system genedlaethol, fe'i
rhoddir ar waith yn lleol a gellir ei theilwra i ddiwallu anghenion lleol.
- Ar hyn o bryd, defnyddir y system ar gyfer
gwasanaethau cymunedol yn unig. Ni fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer
gofal cymunedol am nifer o flynyddoedd.
- Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr oedd y sefydliad
cyntaf i roi'r system ar waith yng Nghymru. Nid yw ar waith yn Abertawe ar
hyn o bryd.
- Rheoli'r system – ceir gweinyddwyr lleol,
rhanbarthol a chenedlaethol. Mae gan bob sefydliad 'byw' weinyddwyr.
- Mae pob sefydliad yn llofnodi cytundeb
mynediad data cyn mynd yn 'fyw'.
- Pan fydd pob awdurdod lleol yn 'fyw', gallwn
gymharu data'n lleol ac ar draws Cymru.
|
6. |
Cynigion Drafft Cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion
|
Isod ceir
dolen i bapurau’r Cabinet ar gyfer 15 Chwefror 2018, sy’n cynnwys cynigion y gyllideb. Dylai fod ar gael
ddydd Gwener 9 Chwefror 2018:
https://democracy.swansea.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=124&MId=7520&Ver=4&LLL=0
Gofynnir i’r
panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a
chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion er mwyn eu cyflwyno i’r
Cabinet.
Bydd
cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella
Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 14 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n
benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley,
Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i
gyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli
perfformiad craffu.
|
|
|
Cofnodion:
Roedd Mark Child,
Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles, Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau
Cymdeithasol, ac Alex Williams yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ac atebwyd
cwestiynau ganddynt.
Pwyntiau trafod:
- Mae'r sefyllfa bresennol yn heriol iawn. I
ddechrau, roedd angen gwneud £23 miliwn o arbedion yn 2018/19, ond mae hyn
wedi cynyddu.
- Roedd y Gwasanaethau i Oedolion £3m dros y
gyllideb y llynedd. Y rhagamcan yw y bydd £4m dros y gyllideb y flwyddyn
nesaf. Rhaid i'r Gwasanaethau i Oedolion newid y model gwasanaeth. Mae'r
panel yn credu na chafodd y gorwariant ei reoli y llynedd.
- Mae'r panel yn bryderus ynghylch peidio â
llwyddo i arbed arian eleni, er y dywedwyd wrtho y gellid gwneud hynny.
- Mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd i'r gyllideb yn
deillio o bwysau chwyddiannol, yn enwedig cyflogau, gorwariant y llynedd a
buddsoddi i wneud arbedion.
- Ceir anghysondeb yn y ffigurau – dywedwyd
wrth y panel fod cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion wedi cynyddu £3.5
miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Fodd bynnag, ar dudalen 118 o'r cynigion cyllidebol, dywed £2.7
miliwn ac ar dudalen 182 o'r cynigion cyllidebol, mae'n cyfateb i £4.5
miliwn. Mae angen egluro'r ffigur
cywir.
- Roedd y panel yn bryderus yr argymhellir y
dylid gosod taliadau newydd ar gyfer y canolfannau dydd, er gwaetha'r ffaith
bod dros 70% o'r ymgyngoreion yn eu gwrthwynebu.
- Roedd y panel yn ddiolchgar am yr wybodaeth a
ddarparwyd am y dadansoddiad o gost gwasanaethau dydd fesul uned y
gofynnwyd amdani ar 16 Ionawr ac am gadarnhau yng nghyfarfod heddiw nad
oes unrhyw staff sy'n gweithio i'r gwasanaethau preswyl a'r gwasanaethau
dydd.
- Diogelu/lles yw'r unig faes yn y gyllideb
arfaethedig sy'n lleihau. Mae'r panel am gael eglurder ynghylch ystyr hyn.
Yn seiliedig ar
ei drafodaethau, cytunodd y panel ar y farn a'r argymhellion i'w cyflwyno i'r
Cabinet ar y cynigion cyllidebol o ran y Gwasanaethau i Oedolion.
Yn dilyn y
cyfarfod hwn:
Bydd y cynullydd
yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â chynullyddion paneli eraill, i'r Panel
Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 14 Chwefror. Bydd cynullydd y
Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yna'n mynd i'r Cabinet ar 15 Chwefror i
gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at Aelod
y Cabinet.
|
7. |
Amserlen Rhaglen Waith 2017-2018 PDF 78 KB
Cofnodion:
Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y
panel.
Camau Gweithredu:
·
Symud y diweddariad am yr Adolygiad Comisiynu - Gofal
Cartref a Chaffael o'r cyfarfod ym mis Mawrth i fis Ionawr/Chwefror 2019.
·
Ychwanegu Cydlynu Ardaloedd Lleol at raglen waith y
dyfodol (dyddiad i'w drefnu)
·
Trefnu craffu cyn penderfynu ar yr Adolygiad o
Wasanaethau Dydd a'r Adolygiad o Ofal Preswyl, sy'n cael eu cyflwyno i'r
Cabinet ym mis Ebrill
·
Trefnu craffu cyn penderfynu ar yr Adolygiad o Larymau
Cymunedol yn y dyfodol
·
Bydd Swyddog Ymchwil Craffu'n llunio brîff ar gyfer
aelodau'r panel ar gyfer y sesiwn holi ac ateb Aelod y Cabinet ym mis Mawrth.
|
8. |
Llythyrau PDF 132 KB
|
a) Llythyr y
Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 19 Rhagfyr 2017)
b) Llythyr y
cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Ionawr 2018)
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Llythyrau a
dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 163 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 1 MB
|