Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Datgelu
buddiannau - Chris Holley ac Alyson Pugh.
|
2. |
Nodiadau cyfarfod 19 Rhagfyr 2017 PDF 107 KB
Derbyn nodiadau'r
cyfarfod blaenorol a'u cymeradwyo fel cofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel
ar un diwygiad i nodiadau'r cyfarfod blaenorol – Eitem 3, Pwyntiau Trafod,
pwynt bwled olaf i ddarllen fel a ganlyn:
‘Fel rhan o'r cynigion cyllidebol, mae'r Cabinet yn cynnig
buddsoddiad ychwanegol gwerth £3.5 miliwn yn y Gwasanaethau Cymdeithasol er
mwyn ystyried pwysau cyllidebol anochel.
Croesewir hyn ond bydd yr adran yn parhau i gael anhawster wrth fodloni
ei rwymedigaethau.’
Cytunwyd bod y
nodiadau'n gofnod cywir o'r cyfarfod.
Diweddariad gan yr
adran am arian ychwanegol sydd ar gael i'r rhanbarth drwy'r Bwrdd Iechyd i fynd
i'r afael â phwysau'r gaeaf (oddeutu £1.7 miliwn). Mae'r cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o
bryd, gyda chyfraniad y cyngor, i gael eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru. Angen penderfynu ar symiau ar gyfer gofal
cymdeithasol o hyd.
Camau gweithredu:
- Yr adran i roi cynnig terfynol i'r panel a
fydd yn mynd gerbron Llywodraeth Cymru.
|
3. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
Rhaid i
gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
Ymatebodd Dave
Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alex Williams, Pennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion, ar lafar i gwestiynau gan y cyhoedd a gaiff eu cynnwys
yn llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet yn gofyn am ymateb ysgrifenedig i'w
anfon yn uniongyrchol at aelod y cyhoedd.
Cwestiynau gan y
cyhoedd:
- Ydy'r awdurdod yn sylweddoli bod
gwrthwynebiad eisoes yn cynyddu yn erbyn y taliadau gormodol sy'n cael eu
cynnig?
- Ydy'r cyngor yn sylweddoli er bod awdurdodau
eraill wedi mabwysiadu strategaethau newydd, nid yw hynny'n ei wneud yn
iawn?
- Ydy nhw wedi holi defnyddwyr gwasanaeth a'r
hyn sy'n addas ar gyfer eu hanghenion?
- Ydy'r cyngor wedi ystyried y bydd y lleiafrif
yn talu am y mwyafrif os yw'r mwyafrif am gael eu heithrio?
- Ydy'r cyngor yn sylweddoli y bydd canolfannau
dydd yn cau os bydd y fath daliadau, sef £40 y dydd a £70 fesul deuddydd (nid
fesul wythnos), yn cael eu rhoi ar waith?
- Ydy hyn er lles pennaf y cleientiaid sy'n
defnyddio'r canolfannau dydd?
- Mae'n anochel y bydd y canolfannau dydd yn
cau – onid dyma sut bydd y cyngor yn osgoi ei gyfrifoldebau? Onid dyma yw
ei fwriad?
|
4. |
Adroddiad Monitro Perfformiad PDF 66 KB
Alex Williams,
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Aeth Alex
Williams drwy'r adroddiadau gan dynnu sylw at nifer o bwyntiau. Gwnaed nifer o sylwadau.
Pwyntiau trafod:
- Adroddiad Cryno tudalen 4 - Gofal cartref
tymor hir. Mae newidiadau i'r Pwynt
Mynediad Cyffredin a'r rhaglen barhaus o ailasesu pecynnau gofal wedi cael
effaith sylweddol ar leihau oedi wrth drosglwyddo gofal.
- Adroddiad Cryno tudalen 4 – Gofal
cartref. Mae'n ymddangos bod nifer
y bobl mewn cartrefi gofal yn cynyddu.
Mae'r adran wedi cadarnhau mai oddeutu 1,600 yw cyfanswm nifer y
gwelyau sydd gennym. Nid yw'r
gyfradd wacter yn uchel iawn. Mae'n
sector cymharol sefydlog yn Abertawe.
- Adroddiad Cryno tudalen 5 - Oedi wrth
drosglwyddo gofal. Mae oedi
oherwydd rhesymau Gwasanaethau Cymdeithasol wedi lleihau'n sylweddol. Mae'r panel yn falch bod cynnydd go iawn
wedi cael ei wneud.
- Adroddiad Cryno tudalen 5 – Adolygu
cleientiaid a neilltuwyd. Problemau
gyda'r gwasanaeth Anableddau Dysgu'n adolygu ei gleientiaid. Mae'r adran wedi gosod targedau ar gyfer
gwelliant. Hoffai'r panel weld y
tueddiadau ar hyn yn cael eu cyflwyno yn yr adroddiad monitro perfformiad
nesaf.
- Adroddiad Cryno tudalen 6 – Ailalluogi
preswyl. Gall cynnydd yn hyd
arhosiad adlewyrchu problemau yn y farchnad gofal cartref. Bydd y panel yn monitro hyn wrth fynd
ymlaen.
- Adroddiad Cryno tudalen 7 – Amseroldeb ymateb
i faterion diogelu. Mae'r canran
mewn 24 awr a 7 niwrnod yn gwella.
Mae'r panel yn falch o weld hyn.
Mae'r adran yn ystyried newidiadau i brosesau i wella cysondeb yr
ymagwedd o ran trothwyon. Mae angen
sicrhau bod popeth yn cael ei gofnodi ar PARIS i wella prosesau adrodd.
- Adroddiad Cryno tudalen 7 – Amseroldeb
asesiadau diogelu rhag colli rhyddid.
Mae problem gydag amseroldeb asesiadau. Mae'r adran yn parhau gyda gwaith i
sefydlu tîm penodol. Mae'r swyddi'n
cael eu hysbysebu ar hyn o bryd.
- Prif Adroddiad tudalen 10 – Cydlynu Ardaloedd
Lleol. Problemau gyda chofnodi
data. Mae gwaith wedi dechrau ar
system newydd.
- Atodiadau'r prif adroddiad, tudalen 48 –
Dangosyddion perfformiad, Mesur 19: Oedi wrth drosglwyddo fesul 1,000 o
bobl 75+ oed. Panel yn bryderus
ynghylch y ffigur gan fod yr adran ymhell o allu bodloni'r targed. Serch
hynny, mae perfformiad wedi gwella yn ystod y flwyddyn.
|
5. |
Trefniadau ar gyfer codi tâl am Ofal Cymdeithasol i Oedolion yn Abertawe PDF 56 KB
Dave Howes,
Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol

6. |
Cyflwyniad ar System Rheoli Gwybodaeth DEWIS PDF 1 MB
Alex Williams,
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion
Simon Jones,
Swyddog Perfformiad a Gwella, y Gwasanaethau Cymdeithasol
Cofnodion:
Daeth Simon
Jones, Rheolwr Perfformiad a Gwella, i'r cyfarfod i roi cyflwyniad, gan dynnu
sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau.
Prif bwyntiau:
- Uned Ddata Llywodraeth Leol sy'n berchen ar y
system
- Bydd y lansiad cenedlaethol o gwmpas mis
Gorffennaf 2018.
- System gwybodaeth lles ar gyfer y cyngor ydy
hi, nid y Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Dylai gynnwys elfen mynediad uniongyrchol.
- Mae ganddi broses adolygu osodedig a
rheolaeth olygyddol.
- Mae gan Abertawe 100 o adnoddau arni ar hyn o
bryd. Y nod yw iddi gynnwys oddeutu
1000.
- Mae ymagwedd fesul cam at ei rhoi ar waith yn
Abertawe.
- Mae gwaith yn cael ei wneud yn genedlaethol i
gysylltu'r systemau gwybodaeth gwahanol.
|
7. |
Amserlen Rhaglen Waith 2017-2018 PDF 70 KB
Cofnodion:
Derbyniwyd ac
ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.
Camau Gweithredu:
- Ychwanegu 3 eitem i raglen waith y dyfodol:
-
Adroddiad
Blynyddol ar Gwynion y Gwasanaethau i Oedolion 2016/17 (dyddiad i'w drefnu)
-
Cyflwyniad
ar y Fframwaith Arfer Gwaith Cymdeithasol (dyddiad i'w drefnu)
-
Esbonio
Allbynnau'r Gyllideb (Mai 2018)
- Anfon llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn y
cyfarfod er gwybodaeth.
|
8. |
Llythyrau PDF 146 KB
Llythyr y
Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 10 Hydref 2017)
Cofnodion:
Cafodd sylwadau
yn llythyr y cynullydd o gyfarfod 10 Hydref 2017 eu hystyried wrth edrych ar yr
adroddiad monitro perfformiad diweddar.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 167 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 290 KB
|