Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Nodiadau cyfarfod 10 Hydref 2017 pdf eicon PDF 119 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod y nodiadau yn gofnod cywir o'r cyfarfod.  

3.

Rheoli Galw gan gynnwys Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid pdf eicon PDF 103 KB

 

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

 

 

 

Cofnodion:

Aeth Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at nifer o bwyntiau.  Gwnaed nifer o sylwadau.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Nid yw'r galw presennol am wasanaethau i oedolion yn gynaliadwy. Felly, mae rheoli'r galw bellach yn hollbwysig ac yn un o themâu craidd Cynllun Trawsnewid a Strategaeth Arbedion y Gwasanaethau i Oedolion.
  • Gofal cartref - mae nifer yr oriau gofal wedi cynyddu i lefelau digynsail. Yn ôl yr adran, mae cyflwyno oddeutu 67,000 o oriau'n gynaliadwy. Y cyfanswm presennol yw 70,000.
  • Mae cynllun gweithredu wedi'i roi ar waith ac yn cael ei fonitro'n rheolaidd. Mae dangosyddion perfformiad yn cael eu datblygu ar gyfer y gyllideb ac yn weithredol i fonitro hyn. Ym marn yr adran, bydd monitro perfformiad bellach yn gliriach. Bydd y panel yn parhau i fonitro hyn.
  • Mae recriwtio therapyddion galwedigaethol cymwys wedi bod yn broblem. Hysbyswyd y panel bod y broblem wedi'i datrys, yn rhannol drwy roi taliad atodol ar sail y farchnad i staff.
  • Gofal preswyl – mae panel wedi'i sefydlu ar gyfer derbyniadau i ofal preswyl. Dylai hyn arwain at nifer llai o leoliadau ac mae hyn wedi helpu i herio'r Adran Iechyd yn fwy o ran ariannu achosion ac ystyried lleoliadau.
  • Gofal Tymor Hir Integredig – gofyniad statudol ar yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd i gyfuno'r cyllid ar gyfer cartrefi gofal yn rhanbarthol. Roedd y panel yn pryderu bod ymgynghorydd allanol yn cael ei ddefnyddio i gytuno ar gyfraniad ariannol pob partner.
  • Gofynnodd y panel i Aelod y Cabinet geisio eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam mae cyllidebau a gydrennir yn statudol.
  • Nododd y panel y gallai gofal integredig arwain at fwy o effeithlonrwydd o bosib.
  • Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer Pobl Hŷn a Gofal Iechyd Parhaus o ran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu – mae nifer y bobl sy'n derbyn hyn wedi lleihau'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cyllid yn dibynnu ar p'un a oes angen gofal iechyd sylfaenol ar unigolyn ai peidio. Os oes, mae'r Adran Iechyd yn ei ariannu; os nad oes, mae'r awdurdod lleol yn ei ariannu. Mae'r awdurdod lleol yn herio achosion lle ceir gofal iechyd sylfaenol. Mae'r panel yn pryderu am ofal iechyd parhaus a pharheir i fonitro'r materion hyn.
  • Nodwyd bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn cael eu hadfer i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM). Hoffai'r panel gael cadarnhad y bydd yr awdurdod yn cael mewnbwn yn y broses hon.
  • Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid – mae tîm pwrpasol yn cael ei greu i ymdrin â'r broses a bydd ar waith yn gynnar yn 2018. Mae'r risg o ran her i'r awdurdod yn dderbyniol ar hyn o bryd. Mae'r panel yn pryderu am y gallu cyfreithiol i ymdrin â'r mater.

 

 

4.

Trosolwg o Raglen Bae'r Gorllewin gan gynnwys Llywodraethu

Cyflwyniad gan Sara Harvey, Cyfarwyddwr y Rhaglen

Cofnodion:

Roedd Sara Harvey, Cyfarwyddwr y Rhaglen, yn bresennol i roi cyflwyniad (a ddosbarthwyd ar wahân), gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Clywodd y panel am newid posib i drefn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) a allai olygu na fydd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Fae'r Gorllewin mwyach o fis Ebrill 2019.
  • Nid yw Bae'r Gorllewin yn gorff sy'n gwneud penderfyniadau. Rhaid i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud gan Gabinet awdurdodau lleol unigol a'r bwrdd iechyd.
  • Gwasanaethau cymunedol – roedd y panel yn pryderu am gysylltiadau â meddygon teulu. Cadarnhawyd bod y cysylltiadau cywir yn bodoli mewn gofal cymunedol, felly byddai'r panel yn cael gwybod am unrhyw broblemau.
  • Sleid am dderbyniadau nas cynlluniwyd i driniaethau dydd ar gyfer cyflyrau sensitif – nid yw'r panel yn siŵr beth yw ystyr hyn ac mae angen eglurhad.
  • Sleid am y cyflawniadau hyd yn hyn - arbedion ariannol blynyddol gwerth £2,155,454.  Ym marn y panel, osgoi gwario oedd hyn yn hytrach nag arbedion ariannol.
  • System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru – rhagwelwyd y bydd Abertawe'n cofrestru ar gyfer hon yn 2018. System gyfrifiadurol integredig newydd ar gyfer gwasanaethau cymunedol yw hi  Mae diddordeb gan y panel mewn cael gwybod mwy am y system.
  • O ganlyniad i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol  a Llesiant, mae Bae'r Gorllewin wedi cynnal asesiad poblogaeth. Mae Aelod y Cabinet yn annog aelodau'r panel i ddarllen y ddogfen hon.
  • Y cam nesaf o ganlyniad i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yw llunio Cynllun Ardal sy'n nodi'r blaenoriaethau ar gyfer gweithio rhanbarthol.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Bydd nodyn briffio ar fanyleb y system yn cael ei gyflwyno i'r panel, gan gynnwys ymarferoldeb, y data y mae'n ei gadw a'r hyn y gall ei wneud.

 

 

5.

Amserlen Rhaglen Waith 2017-18 pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cafodd y rhaglen waith ei derbyn a'i hystyried gan y panel.

 

6.

Llythyrau pdf eicon PDF 271 KB

a) Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 10 Hydref 2017)

b) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 10 Hydref 2017)

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Bydd llythyr y cynullydd o'r cyfarfod ar 10 Hydref yn cael ei gynnwys yn y pecyn agenda ar gyfer y cyfarfod monitro perfformiad nesaf ar 16 Ionawr 2018.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet