Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau.
|
2. |
Nodiadau cyfarfod 10 Hydref 2017 PDF 119 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod
blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel
fod y nodiadau yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
3. |
Rheoli Galw gan gynnwys Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid PDF 103 KB
|
Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion
|
|
Cofnodion:
Aeth Alex
Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, drwy'r adroddiad gan dynnu sylw
at nifer o bwyntiau. Gwnaed nifer o
sylwadau.
Pwyntiau trafod:
- Nid yw'r galw presennol am wasanaethau i
oedolion yn gynaliadwy. Felly, mae rheoli'r galw bellach yn hollbwysig ac
yn un o themâu craidd Cynllun Trawsnewid a Strategaeth Arbedion y Gwasanaethau
i Oedolion.
- Gofal cartref - mae nifer yr oriau gofal wedi
cynyddu i lefelau digynsail. Yn ôl yr adran, mae cyflwyno oddeutu 67,000 o
oriau'n gynaliadwy. Y cyfanswm presennol yw 70,000.
- Mae cynllun gweithredu wedi'i roi ar waith ac
yn cael ei fonitro'n rheolaidd. Mae dangosyddion perfformiad yn cael eu
datblygu ar gyfer y gyllideb ac yn weithredol i fonitro hyn. Ym marn yr
adran, bydd monitro perfformiad bellach yn gliriach. Bydd y panel yn
parhau i fonitro hyn.
- Mae recriwtio therapyddion galwedigaethol
cymwys wedi bod yn broblem. Hysbyswyd y panel bod y broblem wedi'i datrys,
yn rhannol drwy roi taliad atodol ar sail y farchnad i staff.
- Gofal preswyl – mae panel wedi'i sefydlu ar
gyfer derbyniadau i ofal preswyl. Dylai hyn arwain at nifer llai o leoliadau
ac mae hyn wedi helpu i herio'r Adran Iechyd yn fwy o ran ariannu achosion
ac ystyried lleoliadau.
- Gofal Tymor Hir Integredig – gofyniad
statudol ar yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd i gyfuno'r cyllid ar gyfer
cartrefi gofal yn rhanbarthol. Roedd y panel yn pryderu bod ymgynghorydd
allanol yn cael ei ddefnyddio i gytuno ar gyfraniad ariannol pob partner.
- Gofynnodd y panel i Aelod y Cabinet geisio
eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam mae cyllidebau a gydrennir yn
statudol.
- Nododd y panel y gallai gofal integredig
arwain at fwy o effeithlonrwydd o bosib.
- Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer Pobl Hŷn a
Gofal Iechyd Parhaus o ran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu – mae nifer y
bobl sy'n derbyn hyn wedi lleihau'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r cyllid yn dibynnu ar p'un a oes angen gofal iechyd sylfaenol ar
unigolyn ai peidio. Os oes, mae'r Adran Iechyd yn ei ariannu; os nad oes,
mae'r awdurdod lleol yn ei ariannu. Mae'r awdurdod lleol yn herio achosion
lle ceir gofal iechyd sylfaenol. Mae'r panel yn pryderu am ofal iechyd
parhaus a pharheir i fonitro'r materion hyn.
- Nodwyd bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a
Phobl Ifanc (CAMHS) yn cael eu hadfer i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe
Bro Morgannwg (PABM). Hoffai'r panel gael cadarnhad y bydd yr awdurdod yn
cael mewnbwn yn y broses hon.
- Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid – mae
tîm pwrpasol yn cael ei greu i ymdrin â'r broses a bydd ar waith yn gynnar
yn 2018. Mae'r risg o ran her i'r awdurdod yn dderbyniol ar hyn o bryd.
Mae'r panel yn pryderu am y gallu cyfreithiol i ymdrin â'r mater.
|
4. |
Trosolwg o Raglen Bae'r Gorllewin gan gynnwys Llywodraethu
Cyflwyniad gan Sara Harvey, Cyfarwyddwr y Rhaglen
Cofnodion:
Roedd Sara
Harvey, Cyfarwyddwr y Rhaglen, yn bresennol i roi cyflwyniad (a ddosbarthwyd ar
wahân), gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau.
Pwyntiau trafod:
- Clywodd y panel am newid posib i drefn Bwrdd
Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) a allai olygu na fydd
Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Fae'r Gorllewin mwyach o fis Ebrill 2019.
- Nid yw Bae'r Gorllewin yn gorff sy'n gwneud
penderfyniadau. Rhaid i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud gan Gabinet
awdurdodau lleol unigol a'r bwrdd iechyd.
- Gwasanaethau cymunedol – roedd y panel yn
pryderu am gysylltiadau â meddygon teulu. Cadarnhawyd bod y cysylltiadau
cywir yn bodoli mewn gofal cymunedol, felly byddai'r panel yn cael gwybod
am unrhyw broblemau.
- Sleid am dderbyniadau nas cynlluniwyd i
driniaethau dydd ar gyfer cyflyrau sensitif – nid yw'r panel yn siŵr
beth yw ystyr hyn ac mae angen eglurhad.
- Sleid am y cyflawniadau hyd yn hyn - arbedion
ariannol blynyddol gwerth £2,155,454.
Ym marn y panel, osgoi gwario oedd hyn yn hytrach nag arbedion
ariannol.
- System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru –
rhagwelwyd y bydd Abertawe'n cofrestru ar gyfer hon yn 2018. System
gyfrifiadurol integredig newydd ar gyfer gwasanaethau cymunedol yw hi Mae diddordeb gan y panel mewn cael
gwybod mwy am y system.
- O ganlyniad i'r Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant, mae Bae'r
Gorllewin wedi cynnal asesiad poblogaeth. Mae Aelod y Cabinet yn annog
aelodau'r panel i ddarllen y ddogfen hon.
- Y cam nesaf o ganlyniad i'r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yw llunio Cynllun Ardal sy'n nodi'r
blaenoriaethau ar gyfer gweithio rhanbarthol.
Camau Gweithredu:
- Bydd nodyn briffio ar fanyleb y system yn
cael ei gyflwyno i'r panel, gan gynnwys ymarferoldeb, y data y mae'n ei
gadw a'r hyn y gall ei wneud.
|
5. |
Amserlen Rhaglen Waith 2017-18 PDF 67 KB
Cofnodion:
Cafodd y rhaglen
waith ei derbyn a'i hystyried gan y panel.
|
6. |
Llythyrau PDF 271 KB
a) Llythyr y Cynullydd
at Aelod y Cabinet (cyfarfod
10 Hydref 2017)
b) Ymateb gan
Aelod y Cabinet (cyfarfod
10 Hydref 2017)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Llythyrau a
dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.
Camau Gweithredu:
- Bydd llythyr y cynullydd o'r cyfarfod ar 10
Hydref yn cael ei gynnwys yn y pecyn agenda ar gyfer y cyfarfod monitro
perfformiad nesaf ar 16 Ionawr 2018.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet
|