Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Nodiadau cyfarfod 20 Medi 2017 PDF 110 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Fframwaith Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion PDF 12 KB Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau
i Oedolion Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at nifer o bwyntiau. Gwnaed nifer o sylwadau. Pwyntiau trafod: · Cwestiwn cyffredinol am y swm mawr o wybodaeth sydd yn yr adroddiad a pha mor hawdd ydyw i'w reoli. Sicrhawyd y panel ei fod yn hylaw. · Adroddiad Cryno tudalen 4 - Gofal cartref tymor hir. Pryderon ynghylch cynnydd mawr yn yr oriau a ddarperir a chyrraedd y nenfwd gweithredol yn gyflym o ran argaeledd oriau gofal. Mae'r adran yn ceisio lleihau nifer yr oriau contract a bydd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn adlewyrchu hyn. Angen sicrhau gostyngiadau wedi'u hysgogi gan angen yn hytrach na phwysau cyllidebol. Gallai digon o wybodaeth am Brexit hefyd gael effaith ar y mater hwn a gofal preswyl. · Adroddiad cryno tudalen 5 - Oedi wrth drosglwyddo gofal. Pryderon am y cynnydd mawr ym mis Awst yn yr oedi wrth drosglwyddo gofal. Cafwyd cynnydd pellach ym mis Medi ond mae'r adran yn gobeithio y bydd hyn yn dechrau lleihau ym mis Hydref yn sgîl y mesurau a roddwyd ar waith. · Prif adroddiad tudalen 44 - diogelu oedolion diamddiffyn - pryderon am y targed 24 awr a'r targed 7 niwrnod - dylid anelu at darged llawer uwch. Mae'r adran yn canoli cyfrifoldeb er mwyn gwella cywirdeb y mesur. Bydd y panel yn monitro'r mesur perfformiad hwn wrth symud ymlaen. |
|
Sut caiff Ymrwymiadau Polisi'r cyngor eu rhoi ar waith yn y Gwasanaethau i Oedolion PDF 45 KB Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau
i Oedolion Cofnodion: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles. Dywedodd wrth y panel fod y cyngor wedi
cytuno ar yr ymrwymiadau polisi ym mis Gorffennaf 2017, felly cyfnod byr yn
unig a gafwyd i weithio arnynt. Mae'r nodau'n ehangach na nodau'r cyngor yn
unig, ac mae gan Aelodau'r Cabinet rôl i sicrhau y cyflawnir amcanion. Cytunwyd
ar y canlynol: ·
Os caiff statws CAG (Coch, Ambr, Gwyrdd) ei
ddefnyddio, mae angen mwy o gyd-destun ar y panel i asesu pa mor briodol yw pob
statws. ·
Hoffai'r panel pe bai amcanion swyddogion
allweddol yn cael eu nodi'n fanylach ac yn nhermau amser. Camau
Gweithredu: ·
Caiff yr adroddiad ei ailgyflwyno i'r panel
ym mis Hydref 2018, a dylai gynnwys mwy o strwythur o ran sut caiff yr amcanion
eu cyflawni, gan gynnwys amserlenni. |
|
Amserlen Rhaglen Waith 2017-18 PDF 67 KB Cofnodion: Cytunwyd ar y canlynol: · Caiff cyfarfod ychwanegol ei gynnal i ystyried cynigion cyllideb y cyngor cyn eu cyflwyno i'r Cabinet. · Mae angen i'r panel gael y gyllideb a nodwyd o ran symiau arian parod ynghyd â'r gweithgareddau a'r canlyniadau bras y bwriedir i'r symiau hynny eu cyflawni. Camau Gweithredu: · Trefnu cyfarfod ychwanegol ar gyllideb y cyngor ar 5 Chwefror 2018. Alex Williams i ddarparu gwybodaeth ychwanegol gyda chynigion y gyllideb i gynorthwyo'r panel. · Anfon llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod er gwybodaeth. |
|
a) Llythyr y cynullydd
at Aelod y Cabinet MC (cyfarfod
20 Medi 2017) b) Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet CL (cyfarfod 20 Medi 2017) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Llythyrau a
dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel. |
|