Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganiadau o ddiddordeb - Chris Holley |
|
Nodiadau cyfarfod 8 Awst 2017 PDF 10 KB Cofnodion: Cytunodd y panel ar
y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Atal gan gynnwys (i) Y diweddaraf ar Gydlynu Ardaloedd Lleol (CALl) a (ii) Cefnogi Pobl PDF 41 KB Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Steve Porter / Jane Harries,Tai Cofnodion: Amlinellodd Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, yr ymagwedd at atal. Daeth Steve Porter o'r adran tai hefyd i'r cyfarfod ar gyfer ei eitem i ateb cwestiynau ar gefnogi pobl. Strategaeth
Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Pwyntiau trafod: · Pryder am fynediad i dudalennau'r Gwasanaethau Cymdeithasol o hafan gwefan y cyngor · Hoffai'r panel wybod mwy am y llwyfan gwybodaeth DEWIS Camau gweithredu: · Bydd llythyrau'n cael eu hanfon at Aelod y Cabinet ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes ynghylch mynediad i dudalennau'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wefan · Cyflwyniad byr ar y llwyfan DEWIS i'w drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. Cydlynu
Ardaloedd Lleol Pwyntiau trafod: · Risg i gynaladwyedd yr ymagwedd o ganlyniad i gyllid partneriaeth sy'n gyfyngedig o ran amser. · Bydd data perfformiad yn cael ei ddatblygu i ddangos cyfraniad Cydlynwyr Ardaloedd Lleol. Y panel i gael gwybod am gynnydd Cynadledda Grŵp
Teulu i Oedolion Cytunwyd ar y canlynol: · Hoffai'r panel gael mwy o fanylion am y newid hwn i'r ymagwedd a sut mae'n gweithio. Camau gweithredu: · Bydd Alex Williams yn darparu copi o'r Hyfforddiant Sefydlu ar Ddiogelu i Aelodau ar gyfer y 2 aelod cyfetholedig er gwybodaeth · Bydd Alex Williams yn rhoi mwy o fanylion i'r panel ar adran 6 yr adroddiad Ataliaeth, yn benodol 6.4 a 6.5 · Bydd Alex Williams yn darparu rhai senarios i helpu'r panel i ddeall Cynadledda Grŵp Teulu i Oedolion. Strategaeth
Gomisiynu Pwyntiau trafod: · Bydd Strategaeth Gomisiynu'n cael ei datblygu ar ôl cytuno ar y Strategaeth Ataliaeth. Bydd gwaith ar y Strategaeth Gomisiynu'n dechrau yn y flwyddyn newydd. Goblygiadau
Ariannol Pwyntiau trafod: · Teimla'r panel y byddai'n ddefnyddiol i ddefnyddio ymagwedd beilot wrth symud adnoddau o ddulliau mwy ffurfiol o ofal i ymagwedd fwy ataliol/ymyrryd yn gynnar. |
|
Trosolwg o Raglen Bae'r Gorllewin Cyflwyniad gan Sara
Harvey, Cyfarwyddwr y Rhaglen Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem
tan gyfarfod yn y dyfodol. . |
|
Rhaglen Waith 2017-18 PDF 9 KB Cofnodion: Camau gweithredu: ·
Aildrefnu
'Trosolwg o Raglen Bae'r Gorllewin' i'r cyfarfod ar 21 Tachwedd 2017. Cynnwys
'Llywodraethu' fel rhan o'r eitem ·
Ychwanegu
'Cyflwyniad ar Lwyfan DEWIS' i raglen waith y dyfodol. (Ychwanegwyd i gyfarfod
16 Ionawr 2018 dros dro) ·
Anfonwyd
llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod er gwybodaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet: Trawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes PDF 265 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet: Trawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes PDF 312 KB |
|