Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu 01792 637314
Rhif | Eitem | |||
---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datgeliadau o fuddiannau - Chris Holley ac Alyson Pugh |
||||
Nodiadau o'r Cyfarfod a Gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017 PDF 77 KB Cofnodion: Nodwyd |
||||
Trosolwg o'r blaenoriaethau a'r heriau allweddol i'r Gwasanaethau i Oedolion yn Abertawe Cyflwyniad gan Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion Cofnodion: Rhoddodd Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, gyflwyniad
i'r panel (dosbarthwyd ar wahân). Dosbarthwyd copïau
caled o ddiagram Strwythur y Gwasanaethau i Oedolion i'r
panel yn y cyfarfod, yn ogystal â manylion
cyswllt. Cynghorwyd aelodau'r panel i gysylltu ag Alex Williams yn y lle cyntaf. Camau Gweithredu: • Alex
Williams i gadarnhau lleoliad 5 safle mewnol a 3 safle allanol gwasanaethau dydd • Cyflwyniad a roddwyd yn y digwyddiad hyfforddiant i gynghorwyr ar 8 Awst 2017 ar y Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant i'w ddosbarthu i'r panel • Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol a godir yn sgîl achos
llys diweddar i'w ddarparu
i'r panel - disgwylir Chwefror 2018 • Alex Williams i ddarparu map o ffiniau'r hwb integredig i'r panel. |
||||
Rôl y panel gan gynnwys y Cylch Gorchwyl a'r Rhaglen Waith Ddrafft PDF 111 KB Cofnodion: Cytunwyd: • Cytunodd y panel ar yr amserau a'r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd 2017/18. • Cytunodd y panel i wahodd cyfetholwr arall i'r panel - Katrina Guntrip. • Cytunwyd ar Raglen Waith Arfaethedig ar gyfer 2017/18 gydag un eitem wedi'i hychwanegu. Adroddiad am sut mae nodau polisi'r cyngor yn trosglwyddo i nodau’r Gwasanaethau i Oedolion i'w gyflwyno yng nghyfardod 10 Hydref. • Cytunwyd ar gylch gorchwyl gyda dau newid arfaethedig: - Dan bwynt 1, ychwanegu pwynt bwled arall - 'Oherwydd perthnasoedd partneriaeth allweddol' - Dan bwynt 2, newid pwynt bwled 1 o 'dderbyn a cheisio adroddiadau perfformiad perthnasol' i ‘geisio a derbyn adroddiadau perfformiad perthnasol'. Camau Gweithredu: • Gwahodd Katrina Guntrip i fod yn rhan o'r panel fel cyfetholwr. • Newid y rhaglen waith fel a drafodwyd. • Gofyn i'r Pwyllgor Craffu gytuno ar ddau newid arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Panel Gwasanaethau i Oedolion. • Gwirio os oes mwy o wybodaeth am iechyd meddwl wedi'i darparu gan Fwrdd Iechyd PABM. Gofynnodd y panel am fwy o wybodaeth yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror 2017. Ansicr os yw'r wybodaeth hon wedi cael ei darparu. |
||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd. |