Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley fuddiant personol.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 321 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Awst 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 179 KB

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ychwanegodd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal ac Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi sylwadau i friffio’r Panel ar yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Gorffennaf 2023.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Derbyniodd Tŷ Bôn-y-maen arolygiad gwych ym mis Gorffennaf 2023.  Roedd y Panel yn falch o glywed hyn.
  • Mae pob tîm yn y Ganolfan Ddinesig bellach wedi symud draw i Neuadd y Ddinas gan helpu i wella cydweithio.
  • Holodd y Panel a oedd y lleoliad newydd ar gyfer y Pwynt Mynediad Cyffredin yn addas i’r diben, fel problemau gydag acwsteg.  Clywodd y Panel fod staff wedi derbyn clustffonau gwrthsain gwell i helpu gyda hyn a bydd swyddogion yn edrych ar ddefnyddio byrddau sain i wella hyn.
  • Gofynnodd y Panel am faterion staffio a recriwtio a chlywsant ei fod yn her gan fod diffyg gweithwyr cymdeithasol ledled Cymru. 
  • Trafododd y Panel iechyd meddwl a lles staff a chlywsant fod pob tîm yn y Gyfarwyddiaeth yn y broses o lunio asesiad lles a chynlluniau gweithredu unigol.
  • Darpariaeth gofal cartref allanol - nododd y Panel y bydd yr awdurdod yn ailgomisiynu gwasanaethau yn ystod y 12 mis nesaf. Trafodwyd deiliadaeth isel barhaus mewn rhai cartrefi gan greu ansefydlogrwydd ariannol i rai darparwyr a bod angen edrych ar hyn. 
  • O ran cartrefi gofal allanol lle mae pryderon cynyddol, holodd y Panel a oedd opsiwn i rai preswylwyr gael eu trosglwyddo i gartrefi eraill.  Clywsant ei bod yn well i iechyd a lles pobl pe na baent yn cael eu symud gan mai dyma yw eu cartref.
  • Trafododd y Panel sut mae'r awdurdod yn codi mwy o daliadau trydydd parti am ddarpariaeth gofal allanol.  Dywedodd Aelod y Cabinet nad oes gan yr awdurdod bolisi ar gyfer hyn ar hyn o bryd ond ei fod yn bwriadu datblygu un. 
  • O ran diogelu, nododd y Panel fod nifer cynyddol o atgyfeiriadau, a gofynnodd am enghreifftiau o rai o'r problemau hyn.  Clywodd y Panel ddadansoddiad o'r math o atgyfeiriad y gellir ei gynnwys mewn adroddiadau monitro perfformiad yn y dyfodol. 
  • Gofynnodd y Panel am wybodaeth ynghylch Amddifadu o Ryddid, gan gynnwys faint o bobl sydd wedi bod drwy'r broses yn y 12 mis diwethaf a gwybodaeth am y math o hawlydd.  Cytunwyd y bydd hwn yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad i'r Panel ym mis Hydref ar y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
  • Gofynnodd y Panel am gymorth cyfreithiol a sut mae'r adran yn trefnu hynny drwy gontract allanol.  Clywywyd bod mwy o alw a chostau uwch.  Cytunodd y Panel a swyddogion fod angen cadw llygad ar hyn.

 

Camau Gweithredu:

  • Gwybodaeth am fathau o atgyfeiriadau diogelu i'w cynnwys mewn adroddiadau monitro perfformiad yn y dyfodol.
  • Cynnwys yr wybodaeth am amddifadu o ryddid y gofynnir amdani yn adroddiad mis Hydref i'r Panel.

 

6.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - 'Cyfle wedi'i golli' - Mentrau Cymdeithasol pdf eicon PDF 274 KB

Lee Cambule, Rheolwr Gwasanaeth Trechu Tlodi

Peter Field, Prif Swyddog Atal, Lles a Chomisiynu 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Les, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi a Rheolwr y Gwasanaethau Trechu Tlodi yn bresennol i friffio'r Panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Holodd y Panel am y diffiniad a ddefnyddir ar gyfer 'tlodi'.  Bydd diffiniad gwybodus yn cael ei adolygu fel rhan o adnewyddu'r Strategaeth Trechu Tlodi.
  • Gofynnodd y Panel am restr o fentrau cymdeithasol. Clywyd y bydd ymarfer mapio yn cael ei gynnal i wella data sydd gan yr awdurdod am fentrau cymdeithasol.  Bydd y Panel yn derbyn diweddariad ar gynnydd unwaith y bydd cynllun gweithredu ar waith ac ymarfer mapio wedi'i gwblhau.
  • Gofynnodd y Panel am eglurhad ar linell yn yr adroddiad ynghylch un awdurdod yn gweithio gyda 60% o fentrau cymdeithasol.  Eglurodd swyddogion nad yw 60% o fentrau cymdeithasol yn gweithio y tu allan i'w hardal leol, mae canran lai yn gweithio'n rhanbarthol ac mae rhai yn gweithio'n genedlaethol.
  • Holodd y Panel sut y mesurir perfformiad ar gyfer mentrau cymdeithasol y mae'r awdurdod yn gweithio gyda nhw ac yn rhoi grantiau iddynt, ac a ydynt yn cael eu harchwilio.  Clywodd y Panel fod gan yr Awdurdod ffyrdd o fesur canlyniadau a pherfformiad ar gyfer grantiau unigol, ond ni fyddai hyn yn canolbwyntio ar berfformiad fel menter gymdeithasol. Bydd yr adran yn datblygu fframwaith perfformiad ar gyfer mentrau cymdeithasol yn y dyfodol.
  • Trafododd y Panel sut mae’r adroddiad yn sôn am ‘fwriad a chyfeiriad strategol’ a sut aeth GIG Cymru ati sawl blwyddyn yn ôl i lunio dogfen o gwmpas hyn.  Holodd y Panel ai dyma'r math o fframwaith y mae'r awdurdod yn bwriadu ei gymhwyso gyda phartneriaid a chlywodd mai'r nod yw bod yr holl bartneriaid yn gweithio tuag at yr un blaenoriaethau a chamau gweithredu.

 

Camau Gweithredu:

  • Ychwanegu ‘Diweddariad ar Gynnydd gydag Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cyfle wedi'i Golli’ at gynllun gwaith y dyfodol (Ionawr 2024). 

 

7.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 5 Medi 2023) pdf eicon PDF 151 KB