Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley fuddiant personol.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 320 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Gyda'n gilydd fe allwn ni' - Cydnerthedd a Hunanddibyniaeth Cymunedau pdf eicon PDF 274 KB

Gwahoddwyd:

Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet – Cymuned

Alyson Pugh, Aelod y Cabinet – Lles

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Lee Cambule, Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Aelod y Cabinet dros Gefnogaeth Gymunedol, Aelod y Cabinet dros Les a'r Rheolwr Gwasanaethau Trechu Tlodi i'r cyfarfod i friffio'r Panel.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Gofynnodd y panel sut mae tlodi'n cael ei ddiffinio a'i fesur a holwyd sut y bydd yn gweithio o ran adnabod pobl i ymgymryd â rhywfaint o'r gwaith a wnaed gan yr Awdurdod yn y gorffennol.   Daw'r diffiniad a ddefnyddir ar hyn o bryd gan yr Awdurdod o Strategaeth Trechu Tlodi 2017.  Mae'r strategaeth yn cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd i sicrhau bod y diffiniadau a'r mesurau cywir ar waith. 
  • Gofynnodd y Panel pam y mae pwyllgor archwilio yn ceisio ail-lunio'r ffordd y mae cymunedau'n gweithredu, ac a oes unrhyw wyddonwyr cymdeithasol neu arbenigwyr mewn theori rhwydwaith yn rhan o hyn. Fe'u hysbyswyd mai rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw sicrhau bod y sefydliad yn bwrw ymlaen ag argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a'i fod yn dilyn y protocolau cywir.  Nid yw'n asesu manylion yr hyn y mae'r Awdurdod yn ei gynnig. 
  • Roedd y Panel yn  bryderus ynghylch sut y bydd pobl sydd â'r grym i ymgymryd â'r rolau hyn yn y gymuned yn cael eu rheoli a sut bydd hunanddibyniaeth gymunedol yn cael ei ddatblygu. Fe'u hysbyswyd ei fod yn ymwneud â manteisio arno yn hytrach na'i reoli.
  • Gofynnodd y Panel pryd y bydd archwiliad o'r hyn sydd eisoes yn digwydd ym mhob un o'r wardiau yn cael ei gynnal. Fe'u hysbyswyd y bydd y Strategaeth wedi'i hadnewyddu, a hynny wedi'i wneud ar y cyd, yn rhoi'r blaenoriaethau a'r themâu i'w datblygu. 
  • Gofynnodd y Panel sut y bydd 'cymuned' yn cael ei ddiffinio a sut byddai swyddogion yn mynd ati i weithio gydag arweinwyr y gymuned honno.  Clywyd bod hyn yn rhan o'r gwaith diffinio y mae angen ei wneud yn ofalus iawn ac mewn ffordd gydlynus gyda chymunedau. 
  • Gofynnodd y panel pa mor hir y bydd yn ei gymryd a chlywsant y bydd yn cyd-fynd â chyhoeddi'r Strategaeth Trechu Tlodi ar ei newydd wedd.  Yr amserlen bresennol ar gyfer hyn yw y bydd fersiwn ddrafft ohoni'n destun ymgynghoriad cyhoeddus tua diwedd y flwyddyn galendr hon.

6.

Grantiau'r Gwasanaeth Trechu Tlodi 2022-23: Adroddiad Effaith pdf eicon PDF 391 KB

Gwahoddwyd:

Alyson Pugh, Aelod y Cabinet – Lles

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Lee Cambule, Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi

Anthony Richards, Rheolwr Strategaeth a Datblygiad Tlodi a'i Atal

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Les a Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tlodi ac Atal yn bresennol i roi trosolwg o effaith Grantiau'r Gwasanaeth Trechu Tlodi yn 2022/23 ac ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Mae'r Tîm Trechu Tlodi yn trin nifer o grantiau'n flynyddol.  Yn 2022-23 gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y grantiau a swm y cyllid grant (dros £500,000) a roddwyd i fynd i'r afael â thlodi.
  • Anogodd yr aelodau i ddarllen yr adroddiad blynyddol i weld y gwahaniaeth a wnaed yng ngeiriau'r sefydliadau eu hunain.
  • Gofynnodd panel am yr hyn sy'n cyfateb i 'Men's Sheds' i fenywod a chlywsant y gall menywod eu defnyddio hefyd a bod 'Women’s Sheds' i'w cael erbyn hyn.  

7.

Gwybodaeth Ychwanegol am Daliadau Uniongyrchol pdf eicon PDF 306 KB

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi a Richard Davies, Rheolwr Strategol y Tîm Taliadau Uniongyrchol yn bresennol i ateb cwestiynau'r Panel am wybodaeth ychwanegol am daliadau uniongyrchol a ddarparwyd ar ffurf astudiaethau achos.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Gofynnodd y panel am y gyllideb ar gyfer taliadau uniongyrchol yn y flwyddyn ariannol bresennol. Fe'u hysbyswyd fod y gwariant ar hyn o bryd rhwng £5.8 a £6 miliwn y flwyddyn ac mae'r rhan fwyaf o hyn yn mynd tuag at gynorthwywyr personol a darpariaeth arbenigol. 
  • Gofynnodd y Panel am ddadansoddiad o arian sy'n dod yn ôl i'r Awdurdod drwy ei wasanaethau yn hytrach na mynd y tu allan i'r Awdurdod. Dywedwyd wrthynt os oes rhywun yn defnyddio taliadau uniongyrchol, bydd y cyfan ar gyfer gwasanaethau allanol. Mae'r gyllideb gyffredinol ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion dros £100 miliwn ac mae tua £5.6 miliwn o hyn yn daliadau uniongyrchol.
  • Gofynnodd y Panel sut mae'r Awdurdod yn monitro neu'n atal taliadau uniongyrchol rhag cael eu defnyddio at y diben anghywir. Clywsant o ran monitro, fod pob gwariant yn cael ei fonitro'n agos, a bod naill ai ganddynt gyfrifon wedi'u rheoli neu gardiau talu, felly mae goruchwyliaeth.  

Gofynnodd y panel a all rhywun sy'n defnyddio gwasanaeth dydd am ddeuddydd ac sydd am fynd am ddiwrnod ychwanegol ddefnyddio taliad uniongyrchol ar ei gyfer. Dywedwyd ei fod yn dibynnu ar yr angen a aseswyd.  

8.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Trafododd y Panel y cynllun gwaith ac ychwanegodd yr eitem ganlynol:

 

  • Sesiwn friffio ar Llais i'w hychwanegu at y cyfarfod a gynhelir ar 31 Hydref.

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 7 Awst 2023) pdf eicon PDF 156 KB