Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cadarnhau Cynullydd y Panel a'r Aelod Cyfetholedig

Cofnodion:

Cadarnhawyd y Cynghorydd Susan Jones fel Cynullydd y Panel ar gyfer 2023-24.

 

Cadarnhawyd Tony Beddow fel Aelod Cyfetholedig ar y Panel ar gyfer 2023-24.

 

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley gysylltiad personol.

 

3.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mai 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

5.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

6.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 180 KB

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Briffiodd Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Threchu Tlodi, a Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Integredig, y Panel ar yr Adroddiad Perfformiad ar gyfer Ebrill 2023 ac atebodd gwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Mae'r datganiad blynyddol i Lywodraeth Cymru 2022-23 yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd ac yn dangos y cyferbyniad o'r flwyddyn flaenorol a chynnydd yn y galw am y gwasanaeth.  Nid yw'n annisgwyl yn dilyn COVID a'r pwysau ar draws y system gyfan, ac mae hyn wedi llifo i Ebrill 2023.
  • Cyfeiriodd y panel at gyflogi gweithwyr cymdeithasol, gan nodi bod yr Awdurdod yn cyflogi pobl ond hefyd yn colli pobl.  Nodwyd bod prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol. Mae'r Awdurdod yn recriwtio ac yn cadw i fyny gyda'r niferoedd sy'n cael eu colli ond nid yw wedi'i sefydlu'n llawn ar hyn o bryd. 
  • Mae'r adroddiad yn nodi bod y gwasanaeth wedi bod yn cefnogi ei ddarparwyr allanol.  Gofynnodd y panel am y sefyllfa ar hyn o bryd a nodwyd, o ran y farchnad gofal cartref, mae'r tair blynedd diwethaf wedi bod yn ansicr ar adegau. Mae 20 darparwr gofal cartref allanol y mae'r gwasanaeth yn eu comisiynu ar hyn o bryd, dau yn fwy na'r llynedd.  Mae tua 750 o staff yn y sector gofal cartref allanol, felly maent yn gweld twf cyson. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth gofal cartref i 100 yn fwy o bobl na'r llynedd.
  • Gofynnodd y panel am restr termau cyffredinol oherwydd roedd llawer o acronymau yn yr adroddiad.
  • Nododd y panel broblemau blaenorol wrth ryddhau pobl o'r ysbyty a gofynnodd am y sefyllfa bresennol. Hysbyswyd y panel, mewn perthynas â phobl sy'n cael eu rhyddhau ac y mae angen gofal arnynt, mae'r niferoedd wedi gwella'n sylweddol.
  • Holodd y panel sut y mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty wedi effeithio ar y gwasanaeth o ran y gyllideb. Mae'r galw yn fwy ar hyn o bryd felly mae'r costau'n cynyddu.  Lle mae unigolion wedi cael eu hasesu ac mae ganddynt angen am gymorth gofal cartref, mae hwnnw'n wasanaeth y byddai angen ei ddarparu beth bynnag, p'un a oes angen cymorth arnynt yn yr ysbyty neu yn y gymuned.
  • O ran trefniadau Amddifadu o Ryddid (DoL) nododd y Panel y bu problemau yn y DU yn ogystal â Chymru, a gofynnodd beth yw'r problemau. Clywodd fod y Gwasanaeth yn gweithio tuag at ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei chyflwyno o'r enw Trefniadau Amddiffyn Rhyddid, sydd wedi'i gohirio tan o leiaf 2025.  Mae'r Gwasanaeth yn gweithio o dan y ddeddfwriaeth bresennol, y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS). Nid oedd swyddogion yn teimlo bod problemau gyda hyn, ond mae'n gymhleth ac mae galw mawr.
  • Hysbyswyd y panel, o ran DoL, ar wahân i gartrefi nyrsio a chartrefi preswyl, mae lleoliadau eraill lle mae pobl yn herio'r hyn maent yn ei wneud i unigolion penodol yn cynnwys gwelyau ysbyty, lleoliadau dros dro, a llety byw â chymorth o bosib.
  • Cyfeiriodd y panel at adroddiad lle mae'n nodi nad yw taliadau uniongyrchol yn cael eu 'hoptimeiddio' a gofynnodd a oes rheswm penodol dros hynny.  Clywodd y panel fod hwn yn cyfeirio at ofalwyr di-dâl. Yn ystod y 18 mis diwethaf mae'r gwasanaeth wedi ceisio hyrwyddo'r cyfle i ofalwyr, pan fyddant yn cael asesiad gofalwyr, i ddefnyddio taliadau uniongyrchol, ac wedi'u hysbysu am yr hyn y gallant eu defnyddio ar eu cyfer.
  • Hysbyswyd y panel fod llai o ofalwyr yn ymgymryd ag asesiadau ac mae angen eu hannog i'w derbyn oherwydd mae'r cymorth yno i'w helpu. Mae'r gwasanaeth yn gwybod y gall wneud mwy o waith wedi'i dargedu ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau'r Trydydd Sector, y rhai y mae'n eu comisiynu ac yn uniongyrchol gyda gofalwyr.
  • Mae'r panel yn credu o'r adroddiad bod y 'Grŵp Tai Rhanbarthol' yn sefydliad sy'n darparu amrywiaeth o lety wedi'i deilwra i wahanol grwpiau o gleientiaid.  Holodd y panel sut mae'n gweithio a phwy y mae'n atebol iddo. Hysbyswyd ei fod yn rhan o Fwrdd Trawsnewid Gorllewin Morgannwg.  Dan y rhaglen o amgylch Trawsnewid Gofal Cymhleth mae is-grŵp yn edrych ar lety i bobl ag anghenion gofal cymhleth. 

 

Camau Gweithredu:

·       Adroddiadau Perfformiad yn y Dyfodol i gynnwys rhestr termau.

·        

7.

Cyfarfod briffio ar Adroddiadau Arolygu Cartrefi Gofal Diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) pdf eicon PDF 382 KB

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Briffiodd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal ac Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Threchu Tlodi'r Panel ar y mater hwn, gan nodi bod arolygiadau heb eu trefnu ar ddau Gartref Gofal, Rose Cross a Thŷ Waunarlwydd. 

 

Hysbyswyd y panel fod adborth gan breswylwyr, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a staff eu hunain yn gadarnhaol iawn gyda dim ond un argymhelliad ar gyfer Tŷ Waunarlwydd sef cwblhau arfarniadau blynyddol yn amserol, sydd eisoes yn cael ei ddilyn gan y tîm rheoli.

 

8.

Cynllun Waith Drafft 2023-24 pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

Trafododd a chytunodd y panel ar ei gynllun gwaith ar gyfer 2023-24 gyda'r ychwanegiad canlynol:

 

  • Ychwanegu sesiwn friffio ar Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS).

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Mehefin 2023) pdf eicon PDF 118 KB