Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley gysylltiad personol.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 322 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Adroddiad Blynyddol am Gwynion y Gwasanaethau I Oedolion 2021-22 pdf eicon PDF 249 KB

Sarah Lackenby, Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a Sarah Lackenby, Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ac atebwyd cwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

         Dywedodd Aelod y Cabinet fod yr adroddiad ar gyfer 2021/22, felly mae effaith COVID yn amlwg iawn, fodd bynnag, nid oedd wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn cwynion. Mae'n bwysig hefyd nodi'r ganmoliaeth a dderbyniwyd.

         Holodd y panel sut mae'r broses gwynion yn gweithio. Clywyd bod y broses ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i diffinio mewn deddfwriaeth, felly mae’n benodol iawn ac yn broses eithaf manwl a hir. 

         Holodd y Panel pam y mae COVID wedi effeithio'n fwy ar y Gwasanaethau i Oedolion na'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Clywyd bod y gallu i ddarparu gofal uniongyrchol ac effeithiau dramatig ar y gweithlu wedi cael gwahanol effeithiau yn y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.  Hefyd, mae'r Gwasanaethau i Oedolion yn cael eu heffeithio'n llawer mwy gan bwysau o’r gwasanaeth iechyd.

6.

Y diweddaraf am sut mae ymrwymiadau polisi'r cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn y Gwasanaethau I Oedolion pdf eicon PDF 315 KB

 

Gwahoddwyd:

Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Integredig

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi hyn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Pwyntiau i'w trafod:

         Nododd y Panel nad oedd digartrefedd yn cael ei grybwyll yn yr adroddiad, a'r rheini a all fod yn dioddef o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol a holodd a oedd unrhyw beth yn cael ei wneud i helpu o ran digartrefedd. Daw digartrefedd a hysbysir gan drawma o dan bortffolio Trawsnewid Gwasanaethau ond mae’n gorgyffwrdd â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gwasanaethau i Oedolion.Clywyd bod eitem (8) sef y diweddaraf am Adolygiadau Comisiynu, yn sôn am lwybr llety dros dro ar gyfer cymorth digartrefedd, sy’n rhan o weithgarwch a gomisiynwyd gan y Gwasanaethau i Oedolion. Cynigiodd Aelod y Cabinet gylchredeg adroddiadau ar dai a digartrefedd sydd wedi'u cyflwyno i bwyllgorau eraill i'r Panel.

         Gofynnodd y Panel a oedd unrhyw gynlluniau i ailedrych ar y cyfnod cymhwyso a'r gofynion mynediad ar gyfer gofal seibiant a phreswyl. Clywyd ei fod i gyd yn rhan o’r rhaglen trawsnewid, a fydd yn edrych ar y defnydd o wasanaethau dydd ac ailgomisiynu ac edrych ar y dull a ddefnyddir o ran cyfleoedd dydd. Mae'n bosib y bydd meini prawf yn cael eu hystyried ond nid ydynt yn rhagweld y bydd unrhyw newidiadau. Hefyd, o ran seibiant wedi'i gynllunio nid oes unrhyw newidiadau wedi'u cynllunio.

 

Camau Gweithredu:

         Adroddiadau ar dai a digartrefedd i'w dosbarthu i'r Panel er gwybodaeth.

7.

Y Diweddaraf am Gynnydd yr Adolygiadau Comisiynu pdf eicon PDF 269 KB

Gwahoddwyd:

Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Integredig

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi ddiweddariad ar y mater hwn.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

         Mae'r panel yn teimlo nad oedd pob adolygiad comisiynu gwreiddiol yn llwyddiannus ac mae cyfle nawr i ailedrych arnynt, yn enwedig gwasanaethau seibiant a gofal dydd. Dywedwyd wrthynt fod pethau wedi newid ac o ran gwasanaethau dydd, maent yn hynod werthfawr ond nid yw pawb eisiau’r model gwasanaeth dydd traddodiadol. Mae angen edrych ar sut y gall y gwasanaeth gyflawni, defnyddio Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a gwneud defnydd o bethau yn y gymuned. 

         Cadarnhaodd swyddogion nad ydynt yn edrych arno yr un ffordd ag ar gyfer adolygiadau comisiynu blaenorol.  Gwneir hyn drwy'r rhaglen trawsnewid, y rhaglen wella a'r cylch comisiynu. 

         Mae’r adroddiad yn nodi bod gwaith ar gomisiynu adolygiad o’r gwasanaeth arlwyo wedi’i gwblhau ym mis Rhagfyr 2019. Holodd y panel a gafodd y gwaith hwn ei gwblhau o ystyried y pandemig ar y pryd, ac os felly, a yw wedi'i ddiwygio ers hynny. Cadarnhawyd ei fod wedi’i gau fel adolygiad comisiynu a’i fod wedi’i sefydlu fel model busnes fel arfer ym mis Rhagfyr 2019 ac mae'r arbedion effeithlonrwydd a ganfuwyd i gyd wedi’u rhoi ar waith.

         Holodd y Panel pa allu sydd gan y cyngor yn fewnol i gefnogi rhyddhau pobl o'r ysbyty drwy wasanaeth camu i fyny camu i lawr, ac a yw'r sector preifat yn cael ei ddefnyddio os nad oes gan y cyngor y gallu, neu a yw'r sector preifat eisoes yn cael ei ddefnyddio. Cawsant wybod bod tua 150 o welyau ar draws yr holl wasanaethau - cymysgedd o ofal seibiant wedi'i gynllunio, cymhleth hirdymor, ailalluogi a lleoliadau camu i fyny camu i lawr dros dro. Ar hyn o bryd mae gwelyau dros dro'n cael eu defnyddio ar draws yr holl wasanaethau preswyl i ddarparu cymorth gyda phwysau mewn ysbytai.  Rydym yn ailedrych ar hyn nawr i weld a yw hwn yn gynllun tymor hir. 

8.

Adolygiad Panel y Flwyddyn 2022-23 pdf eicon PDF 220 KB

Cofnodion:

Adolygodd Aelodau'r Panel y flwyddyn 2022/23 ar y Panel Gwasanaethau i Oedolion a gwnaethant y sylwadau canlynol:

 

Beth aeth yn dda?

  • Mae ymgysylltu â swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol ac Aelodau'r Cabinet wedi bod yn dda.  Mae Aelodau'r Cabinet a'r Cyfarwyddwr wedi bod yn bresennol yn y rhan fwyaf o gyfarfodydd.
  • Mae swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol ac Aelod y Cabinet wedi bod yn gwbl onest gyda'r Panel.
  • Mae ansawdd y cyflwyniadau wedi gwella'n sylweddol dros y flwyddyn. Mae hyn wedi ei gwneud yn haws i'r Panel gael dealltwriaeth lawnach o'r egwyddorion y bu'n sôn amdanynt.

 

Beth, os o gwbl, y gellid ei wneud yn well?

  • Angen edrych yn fanylach ar rai o'r eitemau a godwyd e.e. adolygiadau comisiynu
  • Mae pryderon ynghylch darpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol gan yr Awdurdod i bobl. Pwysau ar bobl i ddarparu mwy a mwy drostynt eu hunain.  Mae angen i'r Panel edrych yn fanylach ar y mater hwn.

 

Ydy gwaith y panel wedi canolbwyntio ar y pethau cywir?

  • Mae'r panel o'r farn ei fod wedi canolbwyntio ar y pethau cywir.
  • Angen cadw mewn cof y berthynas rhwng Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol a sut mae hyn yn gweithio ac a oes unrhyw densiynau.

 

Beth rydym wedi'i ddysgu a fydd yn ein helpu i wella a datblygu gwaith craffu yn y dyfodol?

  • Rôl y Panel yw gwirio a yw gweithrediad y cyngor yn deg ac yn gyfartal ac er budd pobl Abertawe.
  • Fel Panel rydym yn gwrando ar bethau, rydym yn dadlau pethau, ac rydym yn deall beth yw pwrpas y Gwasanaethau Cymdeithasol yn hytrach na dibynnu ar swyddogion i ddweud wrthym beth mae'n ei olygu.
  • Y budd a gafwyd drwy gyflwyno Cydlynwyr Ardaloedd Lleol. Mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n dda ac mae'n dda clywed hynny.
  • Sut mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymdopi yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ni all y cyngor ddarparu popeth y byddai’n ei hoffi ond mae’n gweld swyddogion yn edrych o ddifrif ar faterion, ac nid yw’n ymwneud â chost yn unig, ond yr hyn sydd orau i’r unigolyn. 
  • Byddai cael mwy o aelodau yn ymuno â'r panel yn gwella'r broses graffu.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 2 Mai 2023) pdf eicon PDF 165 KB