Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley a Jeff Jones gysylltiad personol.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 330 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(yddblaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedigcyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellafRhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

 

5.

Y diweddaraf am Raglen Drawsnewid Gorllewin Morgannwg pdf eicon PDF 2 MB

Kelly Gillings, Rheolwr y Rhaglen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Kelly Gillings, Rheolwr Rhaglen yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r Panel ar gynnydd gan gynnwys y cefndir, trefniadau llywodraethu, Cynllun Ardal Gorllewin Morgannwg 2023-27, ymgysylltu a chyd-gynhyrchu.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Holodd y Panel ynghylch sut mae'r Bartneriaeth yn bwriadu annog gwirfoddolwyr yn y gymuned.  Clywyd bod staff o fewn sefydliadau partner eisoes yn gweithio gydag unigolion sydd am wirfoddoli.  Yn ogystal, mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot yn datblygu fframwaith gyda phobl sydd eisoes yn wirfoddolwyr i geisio annog rhagor o bobl i wneud hynny. 
  • Gofynnodd y Panel a oes modd rhagweld yr hyn y mae'r newid o ofalu am bobl mewn ysbytai i ofalu am bobl gartref yn ei olygu mewn gwirionedd o ran cost.  Fe'u hysbyswyd, ar gyfer y mwyafrif o unigolion y mae angen gofal 24 awr arnynt, y byddai'r cynnig yn debygol o fod yn lleoliad mwy sefydliadol o hyd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd maent yn chwilio am fwy o gyfleoedd i gefnogi mwy o bobl, a allai gael eu galluogi'n well gyda gofal gartref.
  • Gofynnodd y Panel am eglurhad am yr hyn a olygir gan 'wardiau rhithwir'.  Clywyd mai datblygiad Bwrdd Iechyd ydyw ac nid wardiau ffisegol mohonynt.  Maent yn gam i gefnogi pobl a chanddynt anghenion clinigol o hyd i ddod allan o'r ysbyty a darparu gofal parhaus gartref. 
  • Mae'r adroddiad yn nodi bod mwy o adnoddau wedi'u creu mewn gofal cartref gyda 1000 awr wedi'u credydu ond 600 awr wedi'u cynnwys.  Gofynnodd y panel beth mae hyn yn ei olygu.  Clywyd bod cynlluniau ar waith i gynyddu adnoddau gofal cartref yn fewnol a chyda darparwyr allanol.  Fodd bynnag, ni ellid defnyddio pob awr ychwanegol i gefnogi pecynnau gofal newydd gan fod yn rhaid i rai darparwyr roi pecynnau gofal presennol yn ôl i'r cyngor, oherwydd prinder staff, ac roedd yn rhaid eu darparu o hyd.
  • Roedd y Panel yn poeni bod mwy a mwy o gyfrifoldeb ar ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am bobl yn eu cartref eu hunain.  Clywyd bod ymgyrch tuag at gefnogi lefel fwy o annibyniaeth, ond mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd diwallu'r angen hwn mor gyflym ag yr hoffai ac, yn yr amgylchiadau hynny, mae gofalwyr di-dâl yn aml yn camu i'r adwy ac yn pontio'r bwlch. 
  • Nododd y Panel fod Cynllun Dementia i Gymru'n cael ei ddatblygu a gofynnwyd sut y gallai hyn fod yn wahanol i'r trefniadau cyfredol. Clywyd bod Safonau Dementia yn cael eu tynnu  ynghyd gan lawer o unigolion sy'n gofalu am bobl â dementia ac o'r hyn sydd wedi'i ddysgu yn y gorffennol.  Dylai'r gwersi o bob cwr o Gymru lunio fframwaith i'w ddefnyddio i gefnogi unigolion yn fwy effeithiol.    Teimlai'r Panel y byddai'n ddefnyddiol cael trafodaeth ar ddementia, gan gynnwys astudiaethau achos mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Camau Gweithredu:

  • Ychwanegu sesiwn friffio ar Ddementia at raglen waith y dyfodol.

 

6.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 74 KB

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig, grynodeb i'r Panel o'r adroddiad perfformiad ar gyfer mis Ionawr 2023 a rhoddodd ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol ym mis Mawrth 2023.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Gofynnodd y panel a yw canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar ofal nyrsio'n dechrau gwneud unrhyw wahaniaeth i'r ffordd y caiff adnoddau eu dwyn ynghyd os yw un am ddim ar y GIG a'r llall yn ofal y mae'n rhaid talu amdano. Clywyd, fod trefniadau ar y cyd rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol yn gweithio'n dda ar gyfer y gwasanaethau cymunedol integredig, ac yn sefydlu'r gefnogaeth a'r gofal mwyaf priodol gan sicrhau nad yw'r dadleuon ariannol yn peri rhwystr.  Nid yw'r Cyfarwyddwr yn credu y bydd y canllawiau diweddaredig yn gwella trefniadau'n fawr ac mae'n credu mai'r trefniant cronfa a rennir yw'r ateb go iawn.

 

7.

Y diweddaraf am Gydlynu Ardaloedd Lleol pdf eicon PDF 74 KB

Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Cymuned

Lee Cambule, Rheolwr Gwasanaeth Trechu Tlodi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Gymunedau a swyddogion perthnasol yn bresennol i ddiweddaru'r panel ar y mater hwn, gan dynnu sylw at berfformiad o'r ymagwedd hon yn 2022.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Roedd y Panel yn falch o glywed bod gan bob ardal yn Abertawe gydlynwyr ardaloedd lleol (CALlau) a bod y tîm CALlau canolog yn gweithio'n galed i ddarparu cadernid os oes unrhyw swyddi gwag.
  • Gofynnodd y panel sut mae CALlau yn nodi pobl sy'n ynysig. Clywyd bod CALlau yn treulio amser mewn lleoliadau cymunedol yn annog pobl i siarad â nhw am unigolion y gallant fod yn bryderus amdanynt, pobl ar eu pennau eu hunain sy'n ynysig ac yn agored i niwed.  Yna maent yn gallu creu cysylltiadau a darparu cefnogaeth.
  • Lluniwyd ''Arweiniad ar Gydlynu Ardaloedd Lleol yn Abertawe' er mwyn codi proffil ac ymwybyddiaeth o CALl.  Holodd y panel ynghylch y gynulleidfa darged ac a oes taflen y gellir ei phostio drwy ddrysau pobl.  Clywyd mai'r brif gynulleidfa ar gyfer yr Arweiniad yw aelodau etholedig.  Mae taflen sy'n cael ei defnyddio gan bob CALl i gyflwyno'u hunain i bobl yn eu hardaloedd ond meithrin perthnasoedd ag unigolion a gwneud cysylltiadau yw'r rhan hanfodol. 

 

8.

Papur briffio ar yr Adolygiad Blynyddol o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2022/23 pdf eicon PDF 164 KB

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Briffiwyd y Panel am hyn gan David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd wrth y Panel fod y cynigion wedi'u cymeradwyo  gan y Cabinet.  Nid oedd yr adroddiad yn cynnig y dylai'r cyngor rhoi unrhyw daliadau newydd ar waith ond roedd yn argymell y dylai gynnal ychwanegiad chwyddiannol o oddeutu 10% yn gyffredinol. 

 

9.

Rhaglen Waith 2022-23 pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf. 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Mawrth 2023) pdf eicon PDF 120 KB