Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Chris Holley gysylltiad personol.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 332 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022
yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Diweddariad ar y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau i Oedolion PDF 210 KB
Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi
Lucy Friday, Prif Swyddog Trawsnewid
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Lucy Friday,
Prif Swyddog Trawsnewid, y diweddaraf i'r Panel ar yr eitem hon, gan gynnwys
sut mae'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni, y cynnydd ar
rai o'r rhaglenni a'r ffocws arfaethedig ar gyfer 2023/24.
Pwyntiau Trafod:
- Gofynnodd y Panel i ba raddau y mae
dadansoddiad o'r penderfynyddion cymdeithasol ar gyfer gofal yn cael eu
defnyddio ar draws cylch gwaith y cyngor. Clywsant mai'r ymagwedd yw
canolbwyntio ar y cynnig cymorth cynnar sy'n canolbwyntio ar incwm, cyflogadwyedd,
diogelu'r cyflenwad bwyd a phenderfynyddion cymdeithasol ehangach eraill o
iechyd a gofal.
- Roedd y Panel yn croesawu'r bwriad i weithio
ar y cyd â sefydliadau eraill a holodd y Panel a oedd gwybodaeth y
cyfeirir ati fel 'theori rhwydwaith' yn cael ei defnyddio. Clywodd y Panel
y byddai'r Adran yn bwrw ymlaen â rhai o'r egwyddorion a grybwyllwyd gan y
Panel, yn enwedig wrth ystyried y cynnig cymorth cynnar.
- Teimlai'r Panel fod y Rhaglen Trawsnewid yn
dibynnu'n fawr ar dechnoleg gynorthwyol. Cytunodd Swyddogion ei fod yn
hollbwysig i lawer o'r agenda drawsnewid, sy'n ymwneud â hyrwyddo
annibyniaeth a chaniatau i bobl fyw yn eu cartrefi eu hunain, fodd bynnag
un offeryn yn unig yw hwn ac mae angen iddo fynd law yn llaw â'r holl
ddatblygiadau eraill.
- Gofynnodd y Panel am y sefyllfa bresennol o
ran denu pobl i weithio i'r cyngor. Clywodd fod y Gyfarwyddiaeth yn
ystyried nifer o strategaethau gwahanol. Mae cadw staff hefyd yn elfen
allweddol o raglen y gweithlu.
- Mewn perthynas â'r strwythur gwaith cymdeithasol,
clywodd y Panel fod yr amserlen wedi'i diwygio, ac y cytunir ar y cynnig
erbyn mis Gorffennaf 2023 gyda'r gwaith o roi'r cynnig ar waith yn dibynnu
ar yr opsiwn y cytunir arno.
- Gofynnodd aelod newydd o'r Panel sut roedd yr
elfen ymarferol yn rhan o'r rhaglen, gan ei bod yn ymddangos yn
ddamcaniaethol ac yn strategol iawn. Fe'i hysbyswyd bod y Rhaglen
Trawsnewid yn ymwneud â gwelliannau a newid a gwneud pethau'n wahanol yn
hytrach na gweithgarwch busnes fel arfer. Rhoddodd Swyddogion sicrwydd ei
bod yn rhan o ymagwedd gyflwyno fawr at gefnogi unigolion.
|
6. |
Arfarniad Opsiynau ar gyfer Technoleg Gynorthwyol a Larymau Cymunedol PDF 217 KB
Peter Field, Prif Swyddog
Atal, Lles a Chomisiynu
Lucy Friday, Prif Swyddog Trawsnewid
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Lucy Friday,
Prif Swyddog Trawsnewid, ddiweddariad i'r Panel ar yr asesiad o'r gwasanaeth, y
gwaith gwerthuso opsiynau a gwblhawyd a'r penderfyniad a wnaed yn sgîl hynny ym
mis Ebrill 2022 ar gyfer opsiwn dau - cadw larymau cymunedol a thechnoleg
gynorthwyol yn fewnol a datblygu cynnig technoleg gynorthwyol.
Pwyntiau Trafod:
- Cytunodd y Panel mai opsiwn dau yw'r opsiwn
gorau. Cadarnhaodd Swyddogion fod y
papur yn dangos y sefyllfa ddiweddaraf ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2022 ac ar
hyn o bryd mae pwysau o hyd o ran goblygiadau'r gyllideb, ac mae angen
buddsoddi mewn adnoddau i dyfu'r gwasanaeth.
- Gofynnodd y Panel faint o dechnoleg
gynorthwyol fydd yn croesi'r ffin rhwng gofal cymdeithasol a'r GIG ac os
ymchwiliwyd i hyn. Clywodd y Panel fod y mwyafrif o atgyfeiriadau yn dod
gan dimau therapi a chyda gwybodaeth am berfformiad yn gwella, gellir
rhannu'r wybodaeth hon yn gyfrinachol â phartneriaid.
- Nid yw'r Panel yn glir am y berthynas fwriadedig
rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd a chredir bod y DU yn symud
tuag at fonitro cleifion gartref.
Gofynnodd y Panel os taw dyma'r fath o bartneriaeth y byddai'r
rhanbarth am symud tuag ati, sy'n ymddangos yn well nag opsiwn dau.
Clywodd y Panel fod y ffordd bresennol o weithio gyda phartneriaid Iechyd
yn canolbwyntio'n bennaf ar yr hyn maent yn ei wneud a phwy maent yn
gweithio gyda nhw, ond nawr mae cyfleoedd i wella hyn yn y dyfodol.
- Soniodd y Panel am yr ystafelloedd arddangos
ar gyfer larymau cymunedol a gofynnodd a oes cyfle i Gydlynwyr Ardaloedd
Lleol amlygu'r ddarpariaeth i bobl.
Bydd Swyddogion yn tynnu sylw at hyn ac yn sicrhau bod CALl yn
ymwybodol o'r ddarpariaeth.
|
7. |
Monitro Perfformiad PDF 75 KB
Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Gwnaeth Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi,
friffio'r Panel ar yr adroddiad perfformiad at gyfer mis Tachwedd 2022 a
dywedodd wrth y Panel fod perfformiad yn gwella ar ddechrau 2023.
Pwyntiau Trafod:
- Cadarnhaodd Swyddogion fod 90% o ofalwyr yn
cael cynnig asesiad i ofalwyr ond dim ond 50% o'r bobl sy'n cael cynnig
asesiad sy'n manteisio ar y cyfle ac mae rhesymau amrywiol am hyn.
- Gofynnodd y Panel a yw'r Gyfarwyddiaeth yn
cynnal asesiadau wyneb yn wyneb eto ers COVID. Clywyd bod cymysgedd o
asesiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, yn
dibynnu ar beth sy'n gweithio i'r unigolyn.
- Gofynnodd y Panel am salwch tymor hir ac a
oes llawer o staff wedi dioddef o COVID hir. Clywodd y Panel y bu
gwelliant mewn salwch tymor hir ac nid yw COVID hir yn un o'r prif
achosion mwyach.
|
8. |
Rhaglen Waith 2022-23 PDF 149 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf.
Mater a godwyd dan Unrhyw Fater Arall:
Roedd Aelod o'r Panel yn pryderu wrth glywed bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn
i awdurdodau lleol ryddhau pobl o'r ysbyty heb roi cynlluniau gofal ar waith, a
gofynnodd y Panel a oedd hyn yn gywir. Hysbyswyd y Panel nad yw'r awdurdod hwn
wedi derbyn unrhyw gyfarwyddid o'r fath.
Anfonwyd dogfen gyfathrebu i fyrddau iechyd ond nid awdurdodau lleol, a
oedd wedi arwain at bryder, trafodaethau amrywiol ac eglurhad. Sicrhawyd y
Panel nad oedd unrhyw beth wedi newid yn y rhanbarth hwn o ran prosesau
rhyddhau a chytunodd y Cyfarwyddwr i ddarparu gwybodaeth i'r Panel ynghylch y
ddogfen gyfathrebu.
Camau Gweithredu:
- Bydd y Panel yn derbyn gwybodaeth am bwy
anfonodd y cyfarwyddyd ac i bwy, o ran rhyddhau pobl o'r ysbyty.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 31 Ionawr 2023) PDF 121 KB
|