Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganwyd buddiant gan Chris Holley.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 323 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
Dan Materion yn Codi, cododd y Panel ymholiad mewn perthynas â chwestiwn
cyhoeddus ynghylch anableddau dysgu. Gofynnodd yr Aelodau faint o bobl yn
Abertawe sydd yn yr un sefyllfa â'r person a grybwyllwyd yn y cwestiwn
cyhoeddus, a'r mathau o lety y gallai pobl â'r anghenion hynny fynd iddynt. Roedd swyddogion yn meddwl bod 52 unigolyn yn
fras yn Abertawe sydd yn yr un sefyllfa ond bydd yn cadarnhau ar ôl y
cyfarfod. O ran y mathau o lety,
dywedodd swyddogion fod cymysgedd cyfan o opsiynau tai, boed y rheini'n unedau unigol lle caiff pobl eu cefnogi neu'n
unedau byw â chymorth. Teimlai'r Panel y byddai'n ddefnyddiol gwybod yr hyn y
mae'r awdurdod wedi gallu'i wneud ar gyfer yr
unigolion hyn a’r ystod o anghenion ar sail unigol neu gyfunol.
Camau Gweithredu:
Bydd y Panel yn cael cadarnhad ynghylch nifer yr unigolion
ag anableddau dysgu yn Abertawe sydd yn yr un sefyllfa, gwybodaeth am yr hyn y
mae'r awdurdod wedi gallu'i wneud iddynt a'r ystod o
anghenion.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Camau gweithredu yn dilyn Adroddiad SAC (Ebrill 2022) - Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion PDF 183 KB
Richard Davies, Rheolwr Strategol,
Tîm Byw’n Annibynnol
Cofnodion:
Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal ynghyd â
swyddogion perthnasol, yn bresennol i friffio'r Panel ar ymateb yr awdurdod i
argymhellion cyhoeddedig SAC yn dilyn eu hadolygiad o daliadau uniongyrchol ar
draws y gwasanaethau i oedolion yng Nghymru ym mis Ebrill 2022.
Pwyntiau Trafod:
- Roedd y Panel yn falch o glywed, o'r 10
argymhelliad, fod y cyngor yn bodloni'i ofynion ac yn rhagori arnynt mewn
rhai meysydd.
- Mewn perthynas ag argymhelliad 1, gofynnodd y
Panel i weld y daflen Gofalwyr ac Ymarferwyr a ddatblygwyd. Cytunwyd y caiff hon ei chylchredeg i'r
Panel unwaith ei bod yn barod i'w chyhoeddi.
- Holodd y Panel ynghylch pwy sy'n gwirio a
yw'r daflen yn hawdd ei darllen. Cadarnhawyd mai aelodau o'r Fforwm
Taliadau Uniongyrchol sy'n darparu arsylwadau ac adborth ar yr holl
gyfathrebiadau.
- Mewn perthynas ag argymhelliad 2, gofynnodd y
Panel a oes gan y tîm gofal ehangach yr wybodaeth ddiweddaraf am daliadau
uniongyrchol ac a ydynt yn deall sut y gellir eu defnyddio. Clywyd, o ran ymarferwyr, fod y Tîm
Taliadau Uniongyrchol yn mynd yn rheolaidd i sesiynau gwybodaeth etc. ond
mae'n broses araf. Mae’r tîm TU yn cynhyrchu rhywfaint o ddata ansoddol
ond mae hefyd yn gobeithio cynyddu ei ddata ansoddol h.y. adrodd straeon
pobl. Roedd y Panel yn awyddus i
weld y data ansoddol hwn.
- Holodd y Panel a oedd Cydlynwyr Ardaloedd
Lleol yn rhan o hyn. Clywyd bod y
tîm TU yn gweithio'n agos iawn gyda'r tîm CALl
yn enwedig wrth nodi cynorthwywyr personol a phobl y mae angen cefnogaeth
arnynt o fewn yr ardal.
- Mewn perthynas ag argymhelliad 9, gofynnodd y
Panel a oes gan y Gwasanaeth ddarlun o'r categorïau o'r rheini sy'n
defnyddio'r gwasanaethau TU.
Hysbyswyd y Panel fod lefel uwch o wybodaeth am hyn yn yr Adroddiad
Monitro Perfformiad a gellir dadansoddi hwn ymhellach os yw'r Panel yn
dymuno hynny.
- Holodd y Panel sut mae'r Gwasanaeth yn nodi
popeth y defnyddir taliadau uniongyrchol ar eu cyfer, gan ei fod yn
ymddangos yn hynod hyblyg.
Ymatebodd Aelod y Cabinet mai dyma lle y gellir defnyddio data
ansoddol h.y. straeon personol, ac y byddai'n ddefnyddiol iawn i bobl
rannu'r hyn y maent yn defnyddio taliadau uniongyrchol ar ei gyfer.
Camau Gweithredu:
- Caiff y daflen ei chylchredeg i'r Panel pan
fydd yn barod i'w chyhoeddi.
- Bydd straeon personol am sut y defnyddir TU
yn cael eu rhannu â'r Panel os a phryd y byddant ar gael.
- Caiff gwybodaeth yn yr adroddiad monitro
perfformiad am gategorïau o ddefnyddwyr gwasanaethau TU ei mireinio a'i
rhannu â'r Panel.
|
6. |
Sesiwn Friffio ar Adroddiadau Arolygu Diweddar AGC PDF 203 KB
Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau
i Oedolion a Threchu Tlodi
Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau
Cymunedol Integredig
Cofnodion:
Briffiwyd y Panel ar yr eitem hon
ac atebwyd eu cwestiynau gan Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal a
Phenaethiaid Gwasanaeth y Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau Cymunedol
Integredig.
Pwyntiau Trafod:
- Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at 4 arolygiad
nas trefnwyd ac 1 adolygiad a drefnwyd.
Cynhaliwyd pob arolygiad yn ystod COVID.
- Canfu Arolygiaeth Gofal Cymru nad oedd unrhyw
achos o beidio â chydymffurfio â rheoliadau ac ni roddwyd hysbysiadau o
gamau gweithredu sy'n flaenoriaeth.
Nodwyd 11 o feysydd i'w gwella ar draws y gwasanaethau gwahanol ac
mae gan y Gwasanaeth gynllun gweithredu i weithio tuag at y meysydd i'w
gwella.
- Holodd y Panel a oedd AGC yn glir ynghylch y
fframwaith dadansoddol sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr arolygiad i
gymharu un rhan o sefydliad ag un arall ac un awdurdod lleol ag un arall,
oherwydd prin oedd y cyfeiriad yn yr adroddiad at fewnbynnau, prosesau neu
allbynnau. Dywedodd swyddogion na allent wneud sylw dros AGC ond arolygwyd
yr awdurdod yn yr un fframwaith ag ym mhobman arall ac arolygwyd 4 maes
o'i gymharu â'r rheoliadau.
- Nododd y Panel nad oedd unrhyw ddeialog yn yr
adroddiad gan AGC i ddangos y ffactorau allanol lleihaol a oedd ar waith
neu'r rhai yr oedd yr awdurdod yn adfer ohonynt yn ystod yr
arolygiadau. Clywodd y Panel fod yr
awdurdod wedi cael ei arolygu yn yr un ffordd â phob awdurdod arall ledled
Cymru, a gweithiodd pob un ohonynt drwy'r pandemig. Fodd bynnag, cafwyd llawer o
gydnabyddiaeth yn y sesiwn friffio llafar gan AGC.
- Roedd y Panel yn bryderus am y pwynt a godwyd
gan AGC ynghylch meddyginiaeth ac roeddent am gael eglurhad fod hyn wedi'i
nodi a bod yr holl sefydliadau'n ymwybodol o hyn. Sicrhawyd y Panel gan
swyddogion fod prosesau a dulliau monitro cadarn ar waith yn wythnosol ar
draws yr holl safleoedd o ran rhoi meddyginiaeth
- Dywedodd y Panel mai'r broblem gyda llawer o
arolygiadau yw mai cipolygon ydynt ar yr hyn sy'n digwydd ac mewn
gwirionedd, mae angen cael nifer ohonynt er mwyn cael darlun mwy gwir ar draws
un i ddwy flynedd. Mae'r Panel yn
teimlo bod y materion a godwyd yn fân faterion o'u cymharu â gofal
cyffredinol y bobl yr edrychwyd arnynt yn yr adroddiad hwn.
|
7. |
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22 PDF 177 KB
David Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd David Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i friffio'r Panel ar yr
eitem hon.
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
8. |
Rhaglen Waith 2022-23 PDF 119 KB
Cofnodion:
Trafododd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y
cyfarfod nesaf.
Nododd y Panel fod yr eitem Diweddariad ar Raglen Trawsnewid Gorllewin
Morgannwg wedi'i threfnu ar gyfer y cyfarfod a gynhelir ar 21 Mawrth 2023, a
gofynnwyd am y diffiniad o 'Ofal Cymhleth'.
Cytunodd swyddogion i roi'r diffiniad i'r Panel yn dilyn y cyfarfod.
Camau Gweithredu:
- Diffiniad o 'Ofal Cymhleth' i'w ddarparu i'r
Panel
|
|
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 8 Tachwedd 2022) PDF 130 KB
|