Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 339 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar gofnodion y cyfarfod ar 2 Mawrth 2022 fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cwestiwn canlynol gan aelod o'r cyhoedd.  Gofynnodd y Cynullydd y cwestiwn i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal ar ei ran:

 

CWESTIWN:

 

Hoffwn ofyn beth sy'n cael ei wneud i ddarparu llety byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu yn ward yr Uplands? Mae fy mab wedi aros 11 mlynedd - mae'n gweithio'n galed, yn gwrtais ac yn dawel iawn, gan oresgyn ystod o anableddau e.e. syndrom Down, awtistiaeth, anawsterau cyfathrebu, anawsterau iaith a lleferydd ac mae ganddo feddyginiaeth ar gyfer gorbryder ac iselder. Mae'r biwrocratiaeth rydym wedi dod ar ei thraws yn ei gwneud hi'n amhosib dod o hyd i lety yn ward enfawr Uplands, sef yr ardal y mae wedi byw ynddi ar hyd ei oes a lle mae pawb yn gyfarwydd ag ef ac yn ei hoffi, lle mae'n mynd i feddygfeydd lleol (meddyg teulu, deintydd, optegydd, podiatrydd lleol). Roedd ei fam-gu a'i dad-cu yn cael eu parchu ac yn flaenllaw yn yr ardal, ei rieni - un yn ddarlithydd lleol a'r llall yn athro ysgol gyfun leol, ei frodyr a'i nithod i gyd wedi/yn byw yn yr ardal. Rwyf bellach yn 75 oed a hefyd yn gofalu am fy ngŵr felly bydd y sefyllfa'n dyngedfennol cyn bo hir gan fod fy iechyd fy hun yn dioddef.  Oes gobaith i rywbeth gael ei ystyried o ran yr hen Sancta Maria er enghraifft, sydd wedi ei brynu gan Coastal? Fodd bynnag, fy nghwestiwn i eto yw 'beth sy'n cael ei wneud i ddarparu llety byw â chymorth i bobl ag anableddau dysgu ar draws ward Uplands?'

 

YMATEB GAN AELOD Y CABINET:

 

"Mewn byd delfrydol byddem wrth ein boddau pe bai gan bobl lety yn eu hardal eu hunain, lle mae ganddynt lawer o gysylltiadau.  Darperir byw â chymorth ar draws y sir trwy lety â chefnogaeth yn ôl y galw, llety â chefnogaeth ar y safle, llety a rennir â chymorth ar y safle neu heb gymorth ar y safle, a threfniadau byw a rennir.  Ar hyn o bryd mae dros 280 o drefniadau byw â chymorth ar draws y sir ac yn Uplands mae 9 uned hunangynhwysol a 4 eiddo.  Rydym yn parhau i chwilio am lety addas ar gyfer byw â chymorth yn Uplands.  Rydym wedi nodi llety a oedd yn arwain at gael ei gaffael ond yn anffodus, tynnodd y gwerthwr yn ôl.  Mae Uplands yn anodd, does dim argaeledd eang o dir ar gael i adeiladu arno nac eiddo addas ond mae'r cyngor a phartneriaid yn parhau i edrych ar opsiynau yn yr ardal hon.  Rydym yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fel Coastal i ddatblygu eiddo presennol ac i adeiladu llety byw â chymorth newydd.  Mae manylebau ar gyfer eiddo i'w datblygu a thir yn seiliedig ar anghenion unigolion.  Lle y bo'n bosib, bydd mewn ardaloedd o ddewis ond mae blaenoriaeth ar addasrwydd y llety a'r gefnogaeth sydd ar gael i'r unigolyn hwnnw.  Ar hyn o bryd mae 8 uned yn cael eu hadeiladu yn y sir ac mae eraill wedi'u cynllunio wrth aros am gaffaeliad tir.  O ran Sancta Maria, yn amlwg mae Coastal yn annibynnol ar yr awdurdod, dwi'n meddwl bod eu cynlluniau ar gyfer Sancta Maria ar gam dylunio cynnar iawn a heb fynd i'r adran gynllunio eto, felly ni allaf wneud unrhyw sylwadau ar beth maen nhw'n bwriadu ei wneud yno."

 

Pwyntiau Trafod:

  • Holodd y Panel a allai'r person y soniwyd amdano fynd i Sancta Maria, a pha bartneriaid y mae'r cyngor yn gweithio gyda nhw.  Fe’i hysbyswyd bod Sancta Maria yn eiddo i Coastal.  Nid yw cynlluniau ar gyfer Sancta Maria yn hysbys eto.  Mae'r cyngor yn gweithio gyda nifer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan gynnwys Coastal, Pobl ac eraill.

 

  • Holodd y Panel os oes gan y cyngor unrhyw fewnbwn i'w portffolios h.y. pan fydd cynlluniau'n cael eu llunio, ydyn nhw'n gofyn a oes angen dyrannu llety penodol? Fe’i hysbyswyd, ydyn, byddai'r adran Tai yn gallu rhoi ateb llawn.  O ran Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth, edrychir ar adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad a'r hyn sydd ei angen yn y farchnad. 

 

5.

Rôl Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau rôl y Panel.  Cododd y Cynullydd nifer o bwyntiau dan yr adran ar Waith Effeithiol.

 

Cytunodd y Panel i wahodd Tony Beddow i eistedd ar y Panel fel aelod cyfetholedig ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2022/23. (Nodyn ar ôl y cyfarfod: Derbyniodd Tony Beddow y gwahoddiad hwn.)

 

6.

Cyflwyniad - Trosolwg o'r Gwasanaethau i Oedolion yn Abertawe pdf eicon PDF 74 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet – Gwasanaethau Gofal

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau i Integredig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, drosolwg o Wasanaethau i Oedolion yn Abertawe, gan gynnwys heriau a blaenoriaethau. 

 

Pwyntiau Trafod:

  • Holodd y Panel a fyddai angen aildrafod contractau presennol gyda'r sector preifat gan fod costau byw yn gwaethygu ac os oes digon o hyblygrwydd yn y gyllideb ar gyfer hyn, ac i gynyddu cyflogau staff er mwyn eu cadw. Fe’i hysbyswyd bod y cyngor yn gweithio gyda phartneriaid a gomisiynwyd ar hyn o bryd o ran gosod ffïoedd a thaliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ynghylch y cyflog byw go iawn a dyhead y cyngor i gefnogi hyn. 
  • Aeth y cyngor drwy broses ailgomisiynu fawr 4 neu 5 mlynedd yn ôl, holodd y Panel os yw'n mynd i fynd trwy un arall, os bu unrhyw ddadansoddiad o'r contractau hynny i weld a oeddent yn effeithiol cyn cael eu hailgomisiynu eto, ac os oedd unrhyw ddefnyddwyr yn rhan o'r adolygiadau.  Cadarnhaodd Swyddogion y cynhelir adolygiadau'r Gwasanaeth ar sail gylchol, ynghyd â'r prosiectau a'r mentrau y mae'n eu hariannu o ran perfformiad ac ansawdd.  Mae defnyddwyr yn rhan o'r broses adolygu ac mae cydgynhyrchu yn rhan bwysig iawn o'r Gwasanaeth.
  • Holodd y panel pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael ag absenoldeb salwch yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Fe’i hysbyswyd bod llawer o waith yn cael ei wneud i gefnogi hyn.  Bydd Aelod y Cabinet yn dosbarthu rhestr o'r hyn sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth o ran lles a chefnogi staff.  
  • Diolchodd y Panel i'r staff am bopeth maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf gan dalu teyrnged i Gydlynwyr Ardaloedd Lleol sydd wedi cefnogi pobl yn y cymunedau.   
  • Dywedodd y Panel fod gwasanaeth gwirfoddol gweithredol yn Abertawe y gellid ei ddefnyddio o bosib i leddfu straen staff sydd â llwyth gwaith ychwanegol yn sgîl darparu ar gyfer y rheini sy'n absennol.  O ran ymagweddau yn y gymuned a CALl, cytunodd Aelod y Cabinet eu bod yn wych am roi pobl mewn cysylltiad â gwasanaethau cymunedol lleol sy'n aml yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr. 
  • Clywodd y Panel fod y Gwasanaeth wedi llwyddo i recriwtio rhagor o weithwyr cymdeithasol ond holodd a oedd hyn ar draul awdurdodau eraill, neu a oedd pobl newydd a allai fod yn gymwys yn dod i mewn i'r diwydiant ar hyn o bryd.  Fe’i hysbyswyd bod y ddau beth yn wir a'i fod yn her genedlaethol, a bod angen gwneud rhywbeth ar lefel Llywodraeth Cymru i ddenu pobl i'r proffesiwn ar draws y wlad.

 

Camau Gweithredu:

  • Aelod y Cabinet i ddosbarthu rhestr i'r Panel o'r hyn sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth mewn perthynas â lles a chefnogi staff.  

 

7.

Rhaglen Waith ddrafft 2022-23 pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar y Rhaglen Waith ar gyfer 2022/23.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 27 Medi 2022) pdf eicon PDF 164 KB