Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Derbyn Datganiadau o Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

36.

Cofnodion. pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Grŵp Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

 

37.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

38.

Cymeradwyo'r Cynllun Lles Lleol. pdf eicon PDF 829 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Suzy Richards, Cyngor Abertawe, Gynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe “Gweithio Gyda'n Gilydd i Adeiladu Dyfodol Gwell”.

 

Esboniodd y cytunwyd ar y Cynllun Lles Lleol yng nghyfarfod Grŵp Craidd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ar 9 Mawrth 2018. Ar hyn o bryd, roedd y cynllun gyda phob un o'r partneriaid statudol er mwyn i'w sefydliadau eu hunain ei gymeradwyo. 

 

Nodwyd gan y bwrdd fod y raddfa amser rhwng diwedd yr ymgynghoriad a chytuno ar y cynllun wedi bod yn dynn iawn.

 

Mae'n rhaid cyhoeddi'r cynllun erbyn 4 Mai 2018.

 

Cytunwyd nodi bod Cynllun Lles Lleol Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe wedi'i gymeradwyo yng nghyfarfod Grŵp Craidd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ar 9 Mawrth 2018.

 

39.

Cynllun Gweithredu Lles Lleol a'i roi ar Waith.

Cofnodion:

Nodwyd gan Suzy Richards, Cyngor Abertawe, yn ogystal â Chynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, a oedd yn cynnwys gweithredu ar lefel uchel, y byddai angen cynllun gweithredu manylach.

 

Cynghorodd y bwrdd am y dull arfaethedig ar gyfer llunio cynlluniau gweithredu. Byddai pob un o'r pedwar partner statudol yn arwain ar un o'r pedwar amcan a nodwyd yn y cynllun. Pan oedd cydweithio eisoes yn bodoli ar gyfer rhai o'r amcanion, sef Amcanion 1 i 3, byddai'r grwpiau presennol hynny'n cael eu defnyddio i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer pob un o'r amcanion hynny. O ran Amcan 4 - Cymunedau Cryf, cynigiwyd y byddai Grŵp Llywio'n cael ei greu i ddatblygu cynllun gweithredu a chytuno arno. 

 

Y cam nesaf fyddai nodi arweinwyr yr amcan a chreu Grŵp Llywio ar gyfer Amcan 4 - Cymunedau Cryf. Nodwyd er y byddai arweinwyr ar wahân ar gyfer yr amcanion, roedd hi'n hollbwysig bod pawb yn cyfrannu at yr holl amcanion.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch y graddfeydd amser ar gyfer llunio'r cynlluniau gweithredu. Bydd cydbwysedd rhwng caniatáu digon o amser i lunio cynlluniau o safon a chynnal momentwm a chynnydd.

 

Mynegwyd pryder gan y bwrdd ynghylch dyblygu gwaith, yn arbennig ar gyfer yr aelodau hynny a oedd yn rhan o gynlluniau lles lluosog. Roedd hi'n bwysig i'r bwrdd gysylltu â'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo.

 

Cydnabuwyd bod llawer o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Er mwyn cynnal diddordeb, roedd hi'n bwysig i barhau i gynnwys y cyhoedd a'u hysbysu am gynnydd y Cynllun Lles a'r amserlenni cysylltiedig.

 

Yn dilyn hyn, cafwyd trafodaeth ynghylch cydweithio rhanbarthol - Llywodraeth Leol yng Nghymru a pha effaith y byddai hyn yn ei chael ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Diolchodd y bwrdd i Suzy Richards a Penny Gruffydd am eu gwaith a'u hymrwymiad.

 

Cytunwyd y byddai'r sylwadau ar y cynllun gweithredu a'i roi ar waith yn cael eu nodi. 

 

40.

Cyfleu a Chyhoeddi'r Cynllun Lles Lleol.

Cofnodion:

Dywedodd Suzy Richards, Cyngor Abertawe, y byddai fersiwn statudol y cynllun yn cael ei chyhoeddi ar 4 Mai 2018 ynghyd â dogfen ymateb fer i'r ymgynghoriad. Dilynir hyn gan adroddiad ymgynghori manylach yn ddiweddarach. Byddai'r cynllun yn cael ei gyhoeddi ar wefan y bwrdd a'i ddosbarthu i'r bwrdd er mwyn i aelodau gyhoeddi'r cynllun ar eu gwefannau eu hunain.

 

Nodwyd y byddai fersiynau lluosog o’r cynllun ar gael: -

 

·                Y Fersiwn Statudol

·                Fersiwn Ieuenctid (i'w hailenwi i fod yn fwy cynhwysol - e.e. fersiwn hawdd ei darllen/gyffredinol/hygyrch)

·                Fersiwn Hawdd ei Darllen

·                Fersiwn Sganio Sgrîn ar gyfer y rhai â nam ar y golwg

 

Ni fyddai'r holl fersiynau ar gael erbyn 4 Mai 2018. Yn y dyfodol, roedd y posibilrwydd o archwilio gweithio gyda myfyrwyr i ddatblygu fersiwn fideo byr i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol. 

 

Cafwyd llawer o adborth cadarnhaol ar y 'Fersiwn Ieuenctid' a oedd y fersiwn a ffafriwyd gan lawer. Cafwyd trafodaeth yn dilyn hynny am y fersiynau amrywiol, graffeg a'r fersiwn fwyaf priodol i'w chyhoeddi. Cytunwyd er y byddai'r fersiwn statudol yn parhau i fod y ddogfen dechnegol lawn, byddai defnyddwyr yn cael eu cyfeirio i'r 'Fersiwn Ieuenctid' fel 'ein drws blaen'. Yn ogystal, cynigiwyd creu 'taflen grynodeb' o negeseuon allweddol, heb fod yn fwy na dwy dudalen, er mwyn cynnwys y negeseuon allweddol, yn arbennig ar y rheng flaen.

 

Cafwyd trafodaeth fer ar ymagweddau at hyrwyddo negeseuon allweddol ar gyfer y rheng flaen.

 

Cytunwyd i nodi'r sylwadau.

 

41.

Y Diweddaraf am Gais Cyllid Rhanbarthol 2018/19.

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf gan Chris Sivers, Cyfarwyddwr Pobl, Cyngor Abertawe ar Gais Ariannu Rhanbarthol 2018/19. Cymeradwywyd arian Llywodraeth Cymru ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer 2018/19 yn rhanbarthol, yn dilyn ôl troed y Bwrdd Iechyd Lleol.

 

Cyflwynwyd cais rhanbarthol ar y cyd ar gyfer y canlynol: -

 

·                Oddeutu £15,000 i ddatblygu ymagweddau ynghylch 'Hawdd ei Darllen'

 

·                Oddeutu £40,000 i ariannu’r staff presennol ym mhob awdurdod lleol (Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe) er mwyn parhau i gydlynu'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus perthnasol.

 

Cytunwyd i nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.