Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

12.

Cwestiynau gan y Cyhoedd. pdf eicon PDF 77 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd y cwestiynau canlynol drwy e-bost gan Dereck Roberts:

 

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn cyfeirio at ddarpariaeth toiledau cyhoeddus a chludiant cyhoeddus da a'u pwysigrwydd i bobl hŷn (ac yn fwy cyffredinol).

 

Nid yw'r Fargen Ddinesig yn cynnwys datblygu cludiant cyhoeddus.  Sut mae cludiant cyhoeddus yn mynd i wella yn ardal Be Abertawe?

 

Mewn ymatebion blaenorol, cydnabu'r BGC fod mynediad i doiledau cyhoeddus yn bwysig.  Sut mae hyn yn cael ei gyfeirio ato yng nghynigion ailddatblygu canol y ddinas ac yn fwy cyffredinol?

 

Byddai Phil Roberts yn rhoi ymateb ysgrifenedig i Mr Roberts yn ei absenoldeb.

13.

Cofnodion cyfarfod Grwp Craidd y BGC 17 Awst 2017.

Cofnodion:

Cytunwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Grŵp Craidd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel cofnod cywir.

14.

Y diweddaraf ar y Cynllun Lles. pdf eicon PDF 89 KB

Chris Sivers

Cofnodion:

Roedd Penny Gruffydd, ar ran Chris Sivers, wedi rhoi'r diweddaraf am y Cynllun Lles Lleol.

 

Nododd y cynnydd a wnaed hyd at heddiw i ddatblygu'r amcanion lles drafft ac amlinellodd y cam nesaf a fyddai'n cynnwys llunio ac ysgrifennu'r cynllun.

 

Cafwyd trafodaeth am y canlynol:

 

Ø    Y posibilrwydd o ddefnyddio'r cydlynydd rhanbarthol i gydlynu'r broses ymgynghori i osgoi dyblygu;

Ø    Byddai trafodaeth mewn perthynas â chydlynu amcanion gyda CBS Castell-nedd/Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn fuddiol oherwydd y posibilrwydd o weithio rhanbarthol;

Ø    Effaith bosib rhoi Credyd Cynhwysol ar waith a'r angen am fwy o waith ar y cyd, gan ganolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar;

Ø    Defnyddio'r diagramau ysgogi i fapio'r gofynion amrywiol fe l sail i'r holl amcanion.

 

Camau gweithredu:

 

1)              Dylai'r partneriaid gysylltu ag Arweinwyr yr Amcanion os hoffent gael eu cynnwys yn y broses o ddatblygu amcanion penodol;

2)              Dylai'r partneriaid ddarparu gwybodaeth am rwydweithiau/llwyfannau y maent yn eu cynnal ac y mae'r BGC yn gallu ymgysylltu  nhw yn ystod y broses ymgynghori (erbyn diwedd mis Medi);

3)              Dylai Penny Gruffydd ddosbarthu'r rhestr bresennol o Arweinwyr Trefniadol fel bod pobl yn gallu ychwanegu eu cysylltiadau allweddol ati (mae angen ymatebion erbyn diwedd yr wythnos).

15.

Cyflwyniad a Thrafodaeth: Lles: Beth mae Adnoddau Naturiol erioed wedi'u gwneud drosom ni?

Peter Jordan (ar ran Martyn Evans)

 

Cofnodion:

Rhoddodd Hamish Osborn a Max Stokes o Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyniad o'r enw "Beth mae natur erioed wedi gwneud i ni?"

 

Yn dilyn y cyflwyniad, cafwyd trafodaeth am sut y gallai pob sefydliad wneud natur yn berthnasol o ran mannau gwyrdd a choed yn eu (cynlluniau/hamcanion?) er mwyn gwneud Abertawe yn lle gwell i weithio a byw ynddo ac i hyrwyddo iechyd a lles gwell.

 

Byddai'r sylwadau a wneir yn cael eu hystyried yng nghyfarfod tasglu a arweinir gan Max Stokes, Arweinydd Amcanion dros 'Gweithio gyda Natur'.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

16.

Y Diweddaraf ar Flaenoriaethau'r BGC. (Llafar)

·         Heneiddio'n Dda.

·         Cam-drin Domestig.

·         Dechrau da mewn bywyd.

·         Datblygiad Economaidd/Canol y Ddinas.

·         Canolfan Iechyd Da Canol y Ddinas.

 

Cofnodion:

Roedd y noddwyr wedi rhoi'r diweddaraf ar lafar ar Brosiectau Blaenoriaethau'r BGC.

 

Heneiddio'n Dda

 

Nododd Roger Thomas, ar ran Chris Sivers, y canlynol:

 

Cytunwyd ar Heneiddio'n Dda fel un o'r 4 amcan a nodir yng Nghynllun Lles Abertawe.

 

Disgwyliwyd i ddigwyddiad Diwrnod Cenedlaethol Pobl Hŷn y DU gael ei gynnal ar 19 Hydref 2017 yn Theatr y Grand Abertawe. Byddai hyn yn cael ei ddefnyddio fel cyfle ymgysylltu i helpu i lunio Cynllun Heneiddio'n Dda a Chynllun Lles Abertawe. 

 

Caiff y digwyddiad hwn ei ddilyn gan weithdy partneriaeth mwy penodol ym mis Tachwedd, er mwyn nodi cam nesaf y Cynllun Heneiddio'n Dda.

 

Drafftiwyd cynllun ymgysylltu Heneiddio'n Dda, sy'n nodi strwythur arfaethedig er mwyn cynnwys amrywiaeth eang o bobl hŷn ac ymgynghorir ynghylch hwn â grwpiau ar draws Abertawe.

 

Mae PABM a Chyngor Abertawe yn gweithio tuag at ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn. Mae PABM yn gobeithio lansio ei Siarter Pobl Hŷn ym mis Rhagfyr 2017 ac roedd Cyngor Abertawe yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i ddrafftio cynllun gweithredu.

 

Abertawe sy'n Ystyried Dementia

 

Llwyddodd pob aelod craidd lleol o'r BGC i ennill y safon BSI ac fe'u cydnabuwyd yn swyddogol gan y Gymdeithas Alzheimer yn gweithio tuag at fod yn Ystyriol o Ddementia.

 

Oherwydd roedd gan yr holl sefydliadau olion troed gwahanol, mae hi'n anodd bod yn gywir. Fodd bynnag, rydym yn amcangyfrif bod oddeutu 7,500 o aelodau staff sector cyhoeddus yn Abertawe yn Ystyriol o Ddementia, gan gynnwys dros 1,200 o aelodau staff rheng flaen y cyngor.

 

'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif'

 

Sefydlwyd tri grŵp tasg a gorffen er mwyn canolbwyntio ar Ddatblygu Hyfforddiant, Gwerthuso, Treialu, Hyrwyddo a Chyhoeddusrwydd. Cwrddon nhw am y tro cyntaf ym mis Medi ac maent yn gobeithio cael cynigion amlinellol wedi'u drafftio erbyn diwedd mis Tachwedd.

 

Mae llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar ymrwymiad yr holl bartneriaid i fabwysiadu'r ymagwedd hon a hyfforddi aelodau o staff penodol i hyrwyddo'r negeseuon priodol a bod disgwyliadau yn glir. Caiff Datganiad Cydsyniad ei ddrafftio a chaiff ei drafod yng nghyfarfod y grŵp llywio Heneiddio'n Dda.

 

Ehangu Cydlyniant Ardal Leol

 

Rydym yn recriwtio ar gyfer pum Cydlynydd Ardaloedd Lleol. Hysbyswyd yn gyhoeddus am bedair swydd a bydd un swydd yn cael ei recriwtio o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru drwy secondiad.

 

Cam-drin Domestig

 

Rhoddodd Jo Portwood y diweddaraf ar ran Chris Sivers:

 

Y diweddaraf am brosiect allweddol 3

 

·                 Sefydlwyd y Grŵp Llywio Prosiectau Amlasiantaeth ac mae'n rhoi'r prosiect ar waith yn weithredol

·                 Datblygwyd proses cyfeirio drafft, gan ddilyn yr un camau gwerth â'r Hwb Cam-drin Domestig - 1. Deall y broblem, 2. Deall yr opsiynau a ffyrdd o ddatrys y broblem, 3. Gwneud y gwaith, 4. Adolygu'r gwaith.

·                 Yn y model, bydd un asiantaeth yn arwain o ran darparu cefnogaeth ar gyfer yr unigolyn a 'brocera' cefnogaeth gan eraill fel y bo'n briodol.

·                 Y diben yw symleiddio'r gefnogaeth a sicrhau bod pobl y mae angen cefnogaeth arnynt yn cael mynediad iddi yn gynt, yn ogystal â lleihau niwed posib.

·                 Datblygwyd rhannu data (WASPI) ac mae yn y broses o gael ei gytuno.

·                 Mae cynnydd fel y disgwylir nawr ein bod ni wedi cyflogi rhywun i wneud y swydd hon.

 

Dechrau da mewn bywyd

 

Nododd Andrew Davies fod rhan helaeth o'r gwaith ar gyfer yr Ymgyrch Dechrau Gorau wedi bod yn ymwneud â theulu cartŵn Jac Abertawe a helpu teuluoedd i gael mynediad i wasanaethau sy'n gysylltiedig â'r ymgyrch, gan gynnwys meddygfeydd a fferyllfeydd.  Yn y dyfodol, canolbwyntir ar y 1000 o ddiwrnodau cyntaf. Trefnwyd digwyddiad ar gyfer 27 Tachwedd - byddai mwy o wybodaeth yn cael ei dosbarthu.

 

Roedd y prosiect Jig-so yn mynd o nerth i nerth ac yn derbyn proffil cenedlaethol. 

 

Byddai'r PABM yn ariannu gweithiwr Dechrau'n Deg Penderi.

 

Canol y Ddinas/Datblygu Economaidd

 

Nododd Phil Roberts fod cynllunio wedi'i sicrhau ar gyfer prosiect y Fargen Ddinesig a oedd yn cynnwys yr arena, gwesty a mannau cyhoeddus. Ymatebwyd yn gadarnhaol i'r hysbysiad caffael ar gyfer y gwesty. Byddai cam 1 yn cychwyn yn hydref 2018.

 

Byddai adroddiad yn cael ei anfon at y cabinet yn y dyfodol agos mewn perthynas ag ailddatblygu Gerddi'r Castell.

 

Cynlluniwyd gwaith Ffordd y Brenin a gwaith mannau cyhoeddus cyn i'r Nadolig ac ar ei ôl. 

 

Canolfan Lles Canol y Ddinas

 

Nododd Phil Roberts fod cyllid ar gyfer yr astudiaeth o ddichonoldeb wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru gydag argymhelliad i edrych yn fanwl ar safle canol y ddinas. Byddai'r Bwrdd Iechyd yn ystyried yr adroddiad maes o law.

17.

Adroddiadau er gwybodaeth: pdf eicon PDF 92 KB

·       Cofnodion Cyfarfod Grŵp Partneriaeth y BGC, Gorffennaf 2017.

·       Llythyr at Gadeiryddion y BGC- Asesiadau Lles Lleol: Trosolwg Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd:

 

1.               Cofnodion Grŵp Partneriaeth y BGC a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2017.

2.               Llythyr at Gadeiryddion y BGC - Asesu Lles Lleol: Trosolwg gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

18.

Unrhyw fater arall.

Cofnodion:

Camau gweithredu -  Ailadroddwyd yr angen i sicrhau bod disgrifiad o'r weithred yn cael ei gynnwys ar holl agendau'r BGC yn y dyfodol fel yr awgrymwyd yng nghyfarfod y Grŵp Partneriaeth a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2017 gan Jane Davidson.