Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu
Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019 a'u llofnodi fel cofnod cywir,
yn amodol ar ddiwygio cofnod 8 (6) sef estyn y gwahoddiad i Andrew Davies,
cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ar gyfer naill ai un pwnc yn
unig (Tlodi) neu ar gyfer y flwyddyn gyfan. Bydd Mr Davies yn penderfynu ar
sail ei gyfetholiad yn seiliedig ar ei ymrwymiadau. |
|
Cyfethol Andrew Davies. Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019, lle cytunwyd
i gyfethol Andrew Davies, cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe,
i'r pwyllgor ar gyfer naill ai un eitem benodol (Tlodi) neu ar gyfer y Flwyddyn
Ddinesig 2019/2020. Penderfynwyd cyfethol Andrew Davies, cyn-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i'r pwyllgor ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019/2020 yn ei chyfanrwydd. |
|
Diweddariad ar y Comisiwn Gwirionedd Tlodi. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd y
Swyddog Tlodi a'i Atal fod y Cabinet wedi cwrdd ar 20 Mehefin 2019 a
chymeradwywyd cyfranogaeth y cyngor yn y Comisiwn Gwirionedd Tlodi. Dywedodd y
cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp tasg a gorffen. Rôl y grŵp tasg a
gorffen oedd sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi yn Abertawe a thrafod materion
ynghylch rolau a chyfrifoldebau, cefnogaeth swyddogion etc,
er mwyn trefnu lansiad cyhoeddus o fewn 6-9 mis. Manylodd ar aelodaeth y
grŵp a oedd yn cynnwys yr Arweinydd, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell
a chynrychiolwyr o'r trydydd sector. Cododd yr aelodau
faterion ynghylch: angenrheidrwydd derbyn adroddiadau ysgrifenedig cyn y
cyfarfod er mwyn rhoi ystyriaeth lawn i'r mater; trefniadau llywodraethu ac
adrodd; yr angen i sicrhau annibyniaeth o'r cyngor; cyngor Mr A Gravell ar
arfer gorau. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd: 1.
Y
bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg yr adroddiad i'r Cabinet
ar 20 Mehefin 2019; 2.
Y
bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg adroddiad gwreiddiol yr
Ymchwiliad Craffu; a 3.
Er na
nodwyd Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe fel pwnc ar gyfer y cynllun gwaith,
hoffai aelodau dderbyn diweddariadau rheolaidd er gwybodaeth. |
|
Cyflwyniad - Seilwaith Gwyrdd a'i Gysylltiadau ag Iechyd - Fran Rolfe, Cyfoeth Naturiol Cymru. Cofnodion: Rhoddodd Fran Rolfe, Cyfoeth Naturiol Cymru, gyflwyniad ar yr Isadeiledd
Gwyrdd a'i gysylltiadau ag iechyd. Nododd y
cyflwyniad: ·
Esboniad
o'r Isadeiledd Gwyrdd. ·
Y Naw
Ffin Blanedol. ·
Heriau
Trefol Abertawe. ·
Gwasanaethau
Ecosystem yr Isadeiledd Gwyrdd. ·
Busnes
fel arfer. ·
Bioamrywiaeth ·
Egwyddorion
Gwyrdd. ·
SuDS. ·
Astudiaeth
Dichonoldeb - Y Gallu i Greu. ·
Mannau
gwyrdd trefol a iechyd. Roedd
trafodaethau'r aelodau'n cynnwys: diffyg mannau gwyrdd yn ward y Castell; y
dystiolaeth i gefnogi bod pobl sy'n gwella o salwch yn cael budd o fannau
gwyrdd; y gwahaniaeth rhwng ymrwymiad a pholisi; annog plannu coed mewn
cymunedau ledled Abertawe, yn enwedig cymunedau difreintiedig; rolau PDP eraill
wrth archwilio'r Isadeiledd Gwyrdd; archwilio rôl partneriaid wrth gynorthwyo'r
cyngor â'r strategaeth. Diolchodd y
Cadeirydd i Fran Rolfe am ei chyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Adborth gan y Fforwm Tlodi Mewnol. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd fod y fforwm wedi cwrdd ac ailffocysu er mwyn gwneud yr amcanion yn
rhai CAMPUS. |
|
Dyddiadau ac Amseroedd Cyfarfodydd y Dyfodol. (Trafodaeth) Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at drafodaethau blaenorol a dywedodd mai'r amser a'r diwrnod mwyaf
cyfleus ar gyfer y cyfarfod oedd 3.30pm ar ddydd Llun neu ddydd Iau. Penderfynwyd: 1)
Cynnal
y cyfarfod nesaf ddydd Llun 30 Medi am 3.30pm. 2)
Y
bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â'r Cadeirydd ynghylch
amserlen dyddiadau ar gyfer gweddill y Flwyddyn Ddinesig. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 99 KB Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd y byddai'n cysylltu â Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch
amserlennu pynciau ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig. |