Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Medi 2017 fel cofnod cywir. |
|
Cyflogadwyedd - Rhaglen Abertawe'n Gweithio. (Cyflwyniad) Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi & Atal Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth
Tlodi a'i Atal gyflwyniad i amlinellu Rhaglen Waith Abertawe. Nod y rhaglen oedd
symleiddio'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd i bobl Abertawe
nad ydynt yn gweithio. Amlygodd y canlynol: Pecyn cefnogaeth -
Cynnig
model cyflogadwyedd ar draws y ddinas (a gynigir i
bawb, nid i'r ardaloedd targed yn unig); -
Pawb
i gael mynediad i gyfleoedd sy'n cael eu creu drwy adfywio; -
Adeiladu
ar waith cyflogadwyedd presennol (drwy 5 rhaglen a ariennir yn allanol); -
Cynyddu
gweithgarwch i wella cyfleoedd bywyd. Nodau -
Ymagwedd
gyfannol yn seiliedig ar bobl at gynnwys, cyflogadwyedd a chefnogaeth sgiliau; -
Llwybrau
cyflogaeth pobl leol i sectorau galw/twf; -
Gwneud
y mwyaf o ffyniant i leihau tlodi. Angen -
Mae
24,000 o bobl sy'n anweithgar yn economaidd yn Abertawe; -
Mae
tlodi'n uchel iawn ymhlith pobl sy'n gweithio; -
Mae
diweithdra tymor byr a chylchol yn uchel. Sectorau twf -
Gofal
cymdeithasol/iechyd; -
Digidol; -
Adeiladu; -
Diwydiannau
creadigol; -
Morol;
-
Lletygarwch; -
Canolfan
Alwadau. Ymagwedd -
Cyfuno
ymagweddau; -
Ymagwedd
gyson yw'r ffordd orau i'r dinesydd; -
Cyfuno
adnoddau'n fewnol ac yn allanol; -
Darparu
cefnogaeth hollgynhwysfawr; -
Nodi
a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth; -
Ehangu'r
targedau sy'n cael eu cyflawni ar hyn o bryd; -
Gweithio
gyda phartneriaid. Y model 5 cam: -
Nodi'n
gynnar a chynnwys; -
Cynllunio
a chydlynu unigol; -
Datblygu
sgiliau; -
Cyflogaeth; -
Datblygu
sgiliau mewn swyddi. Canlyniadau -
Cynyddu
cefnogaeth unigol; -
Cynyddu'r
gyfradd sy'n cael gwaith o 20% i 50%; -
Mwy o
grwpiau cleientiaid; -
Cysylltu
ffyniant i'r angen i drechu tlodi; -
Lleihau
effaith diwygio lles; Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau amrywiol ac ymatebodd y swyddog yn briodol. Rhoddodd Pennaeth
Tlodi a'i Atal wybod i'r pwyllgor am daflen a fyddai'n cael ei dosbarthu cyn bo
hir i gymdeithasau tai, llyfrgelloedd, etc, a
gofynnodd i gynghorwyr ei throsglwyddo i unrhyw grwpiau perthnasol eraill. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cyflwyniad; 2) Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf y flwyddyn nesaf (tua mis Mawrth 2018) am gynnydd y cynllun. |
|
Llwgu dros y Gwyliau - Adolygiad o Raglen yr Haf a Chynllun ar gyfer Gwyliau Ysgol yn y Dyfodol. (Cyflwyniad) Andrew Vie & Becky
Cole, Gwalia. Cofnodion: Cyflwynwyd
adolygiad gan Becky Cole o'r elusen Gwalia (rhan o Grŵp Pobl) o'r rhaglen
haf 'What's on Blaenymaes 2017' a gynhaliwyd yn ardal Blaenymaes. Nododd fanylion y
cynllun peilot 5 wythnos a oedd yn seiliedig ar ymateb CLlLC er mwyn mynd i'r afael â ‘diffyg bwyd dros y
gwyliau'. Rhaglen wella Hwyl a Bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol, a gafodd ei
llunio a'i threialu yng Nghaerdydd yn 2015, oedd yr enghraifft gyntaf yn y DU o
brosiect amlasiantaeth a oedd yn darparu prydau iach,
sgiliau maeth, chwaraeon a gweithgareddau
corfforol eraill yn ystod gwyliau'r ysgol. Roedd ardal Blaenymaes wedi'i dewis oherwydd bod ganddi'r crynhoad
uchaf o eiddo mewn un ardal a'r nifer mwyaf o bartneriaid yn yr ardal
ddaearyddol, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr 3ydd sector. Roedd tebygolrwydd
mawr na fyddai plant yn yr ardal yn derbyn prydau digonol yn ystod gwyliau'r
ysgol. Roedd hyn yn seiliedig ar y ffaith y cofnodwyd bod 284 o blant yn derbyn
prydau ysgol am ddim. Ar ôl 2 gyfarfod
cynllunio a oedd yn cynnwys 22 o asiantaethau partner, dyfeisiwyd y cynllun
mewn 10 wythnos yn unig a gwirfoddolodd 17 o bartneriaid i roi o'u hamser i'r
cynllun. Hysbysebwyd y cynllun
drwy bosteri a oedd yn cael eu harddangos mewn siopau, cyfleusterau cymunedol,
swyddfeydd tai rhanbarthol, cyfryngau cymdeithasol, ac ar wefan Gwalia (Pobl).
Anfonwyd negeseuon testun at bob tenant ac anfonwyd slipiau i gartrefi
disgyblion ysgol ar ddiwedd y tymor. Cynhaliwyd y
cynllun dros 25 o ddiwrnodau wrth i amrywiaeth o asiantaethau partner gyflwyno
gweithgareddau mewn lleoliadau amrywiol yn yr ardal, yn bennaf mewn adeiladau
yn y gymuned. Darparwyd brecwast a chinio (cinio pecyn yn bennaf). Daeth 32 o blant i
bob sesiwn ar gyfartaledd a bwydwyd yr holl blant (yr uchafswm oedd 70 ar un
diwrnod!). Roedd rhai plant hefyd yn gallu mynd â bwyd dros ben gartref i'w
teuluoedd. Bu'r cynllun yn
llwyddiant mawr a dysgwyd y gwersi canlynol: ·
Mae tlodi
bwyd yn bwnc sensitif; ·
Dywedodd
rhai plant nad oeddent wedi cael brecwast; ·
Gofynnodd
rhai plant am fwyd ychwanegol i fynd ag ef gartref i aelodau o'u teulu; ·
Mae
meithrin perthnasoedd yn hanfodol er mwyn cynnwys teuluoedd; ·
Mae
angen ymagwedd fwy penodol; ·
Nid
oedd rhai preswylwyr yn ymwybodol o'r cyfleusterau cymunedol amrywiol yn eu
lleoliad; ·
Hyrwyddodd
yr holl bartneriaid sesiynau a gweithgareddau eraill i annog cynnwys ehangach; ·
Roedd
partneriaid yn barod i ail-greu'r cynllun ar adegau eraill o'r flwyddyn; ·
Y
gobaith yw ehangu'r cynllun a'r nifer sy'n ei ddefnyddio. Byddai'r cynllun yn cael ei gynnal eto yn ystod hanner tymor yr wythnos
nesaf. Trefnwyd digwyddiad cynllunio ar gyfer mis Tachwedd a byddai'r Fforwm
Partneriaeth Tlodi'n trafod cynlluniau'r dyfodol mewn cyfarfod ddydd Gwener.
Hefyd, roedd Abertawe'n disgwyl bod yn rhan o
brosiect parhaus CLlLC, a fyddai'n cael ei gynnal yn
2018. Ar ôl i'r ddogfen werthuso gael ei chadarnhau, byddai'n cael ei dosbarthu
i'r pwyllgor er gwybodaeth. Bu Pennaeth Tlodi a'i Atal yn siarad ar ran Amanda Owen, Cydlynydd Agweddau
Iach, Abertawe, na allai ddod, i fynegi ein diolchgarwch i Gwalia am roi'r
cynllun at ei gilydd. Bu'n llwyddiant ysgubol a'r gobaith oedd y gellid llunio
pecynnau cyngor ar gyfer sefydliadau cymunedol/partneriaid eraill sydd am
gynnal cynlluniau tebyg o bosib. Roedd y pwyllgor yn llawn edmygedd o'r 'ymdeimlad cadarnhaol' a oedd wedi'i
greu gan yr asiantaethau amrywiol, gan arwain at 'godi calonnau' yn y gymuned.
Roeddent yn edrych ymlaen at gael y newyddion diweddaraf maes o law. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 103 KB Cofnodion: Cyflwynwyd y
Cynllun Gwaith ar gyfer 2017-2018 gan yr Is-gadeirydd. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynllun gwaith; 2) Darparu'r newyddion diweddaraf am Raglen Waith Abertawe ym mis Mawrth 2018. |