Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Pwyllgor
Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 23 Awst 2017 fel
cofnod cywir. |
|
Adborth/Cyflwyniadau gan Aelodau ar eu Hymchwil - Trawsnewid Cymunedau'n Gyntaf. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem
i gyfarfod yn y dyfodol gan mai dim ond heddiw oedd y pwyllgor yn cael eu
briffio ar drawsnewidiad Cymunedau’n Gyntaf. |
|
Trawsnewid Cymunedau'n Gyntaf. PDF 129 KB Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth
Tlodi a’i Atal adroddiad ‘er gwybodaeth’ mewn perthynas â Thrawsnewidiad
Cymunedau’n Gyntaf. Roedd yn amlinellu
manylion datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar 14 Chwefror 2017 a oedd yn trafod
y broses o ddileu Cymunedau’n Gyntaf yn raddol. Fel rhan o’r
cyhoeddiad, bydd gwerth bron £12m o gyllid ar gael ledled Cymru o fis Ebrill
2018 ar gyfer cefnogaeth cyflogadwyedd, gan gefnogi’r rhaglen Cymunedau am
Waith. Bydd gan awdurdodau lleol y cyfle i gyflwyno’r isadeiledd newydd hwn cyn
mis Ebrill 2018. Byddai’r cyllid hwn yn sicrhau isadeiledd ar gyfer cyflwyniad
parhaus Cymunedau am Waith yn ogystal â chefnogaeth barhaus ar gyfer rheoli,
costau adeiladau a swyddi mentora a chynnwys ychwanegol – Grant Cyflogadwyedd
yw’r enw ar hyn. Mae Abertawe wedi’i
gadarnhau fel un o bedwar awdurdod lleol ar draws Cymru a fydd yn ‘fabwysiadwr cynnar’ o’r Grant Cyflogadwyedd ac rydym yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i ddileu rhaglen Cymunedau’n
Gyntaf yn raddol erbyn 31 Rhagfyr 2017 a rhoi strwythur ar waith ar gyfer
cyflwyno’r Grant Cyflogadwyedd o 1 Ionawr 2018. Amlinellodd yr
egwyddorion a’r ystyriaethau allweddol canlynol ar gyfer y cynllun: ·
Amserlenni;
·
Staffio; ·
Sefydliadau
trydydd parti (Ffydd mewn Teuluoedd a Menter Chwarae Plant Bonymaen); ·
Adeiladau. Rhoddodd hefyd
fanylion am raglen Esgyn sydd wedi bod ar waith yng nghlwstwr y
gogledd-orllewin (Penderi). Roedd Llywodraeth Cymru
wedi cadarnhau y dylai’r rhaglen ESGYN yn Abertawe, fel mabwysiadwr
cynnar, fod yn rhan o’r broses drawsnewid ehangach fel bod staff yn cael cyfle
teg a chyfartal i ymgeisio, o bosib, am rolau a fydd ar gael drwy’r Grant
Cyflogadwyedd. Er y dyluniwyd rhaglen Cymunedau’n Gyntaf i gyflwyno ‘prosiectau’ cytunedig
yn lleol, ni fyddai’r Grant Cyflogadwyedd newydd yn cyflwyno prosiectau o’r
fath. Byddai’r Grant Cyflogadwyedd yn darparu mentora un-i-un dwys ar gyfer
cyfranogwyr. Gwahoddwyd cynghorwyr â chlystyrau Cymunedau’n Gyntaf yn eu wardiau i
gyfarfod ym mis Hydref i dderbyn diweddariad o ran y broses drawsnewid, gyda
chyfarfodydd bob yn ail mis hefyd wedi’u trefnu. Roedd y pwyllgor yn teimlo y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor Datblygu a chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y broses drawsnewid a chael gwahoddiad i unrhyw gyfarfodydd diweddaru perthnasol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
Tlodi a’i Atal a’r Rheolwr Hyfforddiant Budd-daliadau ac Ansawdd nodyn briffio
a oedd yn rhoi gwybodaeth am y newid i Gredyd Cynhwysol (CC) yn Abertawe. Roedd
yn cynnwys y canlynol: ·
Cefndir am y newid,
dyddiadau allweddol ac eithriadau; ·
Ymateb i’r gwasanaeth gan
yr Is-adran Budd-daliadau Tai a’r Tîm Hawliau Lles; ·
Y ffordd rydym yn gweithio
gyda phartneriaid mewnol ac allanol i ddarparu cefnogaeth bellach; ·
Gwybodaeth friffio gan yr
Adran Gwaith a Phensiynau sy’n disgrifio ei hymateb lleol. Nododd y Rheolwr Hyfforddiant Budd-daliadau ac Ansawdd y byddai angen
cefnogaeth ddigidol ar hawlwyr i’w helpu i gwblhau hawliad CC ar-lein yn
ogystal â chymorth i gynnal eu CC yn y dyfodol mewn perthynas â darparu
tystiolaeth am geisiadau swyddi, etc. Bydd y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion, y Tîm Budd-daliadau Tai, y Tîm
Hawliau Lles a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn archwilio cyfleoedd i ddarparu
dwy lefel o gefnogaeth ddigidol o’r Ganolfan Gyswllt, gan adeiladu ar y
gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. ·
Cymorth ar unwaith gyda
hawliadau CC ac ymrwymiadau; ·
Hyfforddiant a chefnogaeth
bellach, gan gynnwys cyfeirio i wasanaethau partner eraill i ddatblygu gallu
unigolion. Cynhelir hyfforddiant i staff Budd-daliadau Tai tua chanol mis Tachwedd cyn
rhoi’r gwasanaeth ar waith ym mis Rhagfyr. Roedd y gwaith partneriaeth ehangach a nodwyd i gefnogi’r mater yn cynnwys: ·
Mapio darpariaeth ar draws y bartneriaeth; ·
Deall dyblygu a gweithio ar y cyd i fwyafu’r
defnydd o adnoddau, arbed costau ac ailgyfeirio er mwyn llenwi bylchau mewn
gwasanaethau; ·
Cymryd ymagwedd bartneriaeth ehangach at gyflwyno
Cefnogaeth Cyllidebu Personol; ·
Darparu cyngor ar y cyd ac edrych ar ddeunyddiau hyrwyddo
ar y cyd i sicrhau y cyflwynir negeseuon cyson; ·
Gweithio’n rhagweithiol gyda staff rheoli a phersonél
lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau i’w helpu i ddarparu cyngor a gwaith ar
atebion cydweithredol er mwyn lliniaru’r problemau y mae hawlwyr yn eu hwynebu. Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau amrywiol i’r swyddogion a ymatebodd yn
briodol. Cafwyd trafodaeth hir wedyn gydag awgrymiadau amrywiol yn cael eu
gwneud, gan gynnwys syniadau ar sut gellid lledaenu cyngor i’r cyhoedd mor eang
â phosib. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 103 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2017-2018. Penderfynwyd nodi’r cynllun gwaith. |
|
Amserau Cyfarfodydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017-2018. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn
ôl gan fod y pwyllgor eisoes wedi cytuno y dylai cyfarfodydd ddechrau am 4pm. |