Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Datgeliadau O Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

5.

Cofnodion. pdf eicon PDF 212 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Wedi’I gymeradwyo.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi fel cofnodion cywir.

6.

Hyrwyddo Polisi Drafft Credyd Fforddiadwy. pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Wedi’I gymeradwyo.

Cofnodion:

Cyflwynodd Anthony Richards, Rheolwr Strategaeth a Datblygiad Tlodi a'i Atal adroddiad a oedd yn gofyn am fabwysiadu polisi cyffredinol a oedd yn ymgorffori hyrwyddo credyd fforddiadwy.

 

Amlinellwyd bod fersiwn ddrafft o'r Polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy, sydd ynghlwm wrth Atodiad A, wedi'i chyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol ar 4 Tachwedd 2020 lle cytunwyd y gallai datblygiad y polisi symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus, cyn iddo gael ei fabwysiadu fel polisi. 

 

Lansiwyd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar fersiwn ddrafft y Polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy ar 26 Ebrill 2021 ac fe’i cynhaliwyd am gyfnod o bedair wythnos, gan gau ar 23 Mai 2021.  Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad i aelodau Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe, y Grŵp Llywio Cynhwysiad Ariannol a Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe a darparwyd rhestr o aelodau'r grwpiau hyn yn Atodiad B.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad a nodwyd bod cyfanswm o bump ymateb wedi dod i law, gyda thri ohonynt gan sefydliadau'r trydydd sector.  Ychwanegwyd bod yr holl ymatebwyr wedi darllen y polisi drafft a bod crynodeb llawn o ganfyddiadau'r ymgynghoriad wedi'i gynnwys yn Atodiad C.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Y nifer isel o ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd o gymharu â nifer y sefydliadau y cysylltwyd â hwy;

·         Proses Sgrinio Asesiad Effaith Integredig (AEI)/AEI Llawn / adroddiad i ddilyn pe bai'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor a'r amserlenni dan sylw;

·         Gofyn i'r sefydliadau hynny yr ymgynghorwyd â hwy pam nad oeddent wedi ymateb;

·         Yr adroddiad drafft yn gwneud materion yn anos nag y maent mewn gwirionedd.

 

Diolchodd y Cynghorydd L V Walton i'r Cynghorydd M Sherwood, Cadeirydd y Pwyllgor gynt, am ei gwaith ar y polisi drafft.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:  -

 

1)    caiff rhagor o waith ei wneud i nodi goblygiadau'r polisi drafft gydag Undebau Credyd;

2)    caiff rhagor o waith ei wneud i archwilio'r rhwystrau at gael gafael ar gredyd fforddiadwy a nodi amrywiaeth o opsiynau credyd fforddiadwy;

3)    Cynhelir proses sgrinio AEI / AEI llawn;

4)    caiff yr adroddiad polisi drafft ei gyflwyno i'r Pwyllgor cyn ei anfon i'r Cabinet i'w gymeradwyo.

7.

Cynllun Gwaith 2021-2022. pdf eicon PDF 121 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd adroddiad Cynllun Gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2021-2022.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Polisi Tegwch Gwyrdd;

·         Polisi Dyledion Corfforaethol;

·         Gweithio tuag at Ffyniant: Strategaeth Trechu Tlodi;

·         Rhannu Gerddi / Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol;

·         Canllawiau Ariannol Gofal Cymdeithasol;

·         Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi yn Abertawe;

·         Ymgyrch i gynyddu'r nifer sy’n hawlio Budd-daliadau.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:  -

 

1)    Bydd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a Joanne Portwood, Swyddog Strategaeth a Pholisi yn cyfarfod â Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd i drafod y Polisi Tegwch Gwyrdd ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ym mis Awst / Medi 2021;

2)    Bydd y Rheolwr Strategaeth a Datblygiad Tlodi a'i Atal yn cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 26 Gorffennaf 2021 yn amlinellu egwyddorion y Polisi Dyledion Corfforaethol cyn ymgysylltu / datblygu'r polisi;

3)    Caiff y Strategaeth Trechu Tlodi bresennol ei dosbarthu i'r Pwyllgor ac adroddir am yr amlinelliad / weledigaeth i'r Pwyllgor i'w hadolygu;

4)    Bydd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a Joanne Portwood, Swyddog Strategaeth a Pholisi yn cyfarfod â Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd i drafod datblygu Rhannu Gerddi ac egwyddorion Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol;

5)    Caiff adroddiad ar Ganllawiau Ariannol Gofal Cymdeithasol ei gyflwyno i'r Pwyllgor;

6)    Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynnydd o ran Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi yn Abertawe yn hydref 2021;

7)    Gofynnir i Jane Storer, Uwch-gynghorydd Hawliau Lles gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am yr Ymgyrch i gynyddu'r nifer sy’n hawlio Budd-daliadau yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 26 Gorffennaf 2021, os yw hi ar gael.