Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi fel cofnod cywir. |
|
Rhannu Gerddi. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd
ar lafar fod y cyngor, yn dilyn y cyflwyniadau gan Brosiect Room to Grow a Lend and Tend yn y cyfarfod blaenorol, wedi edrych
ar sefydliadau eraill heblaw ei hun i sefydlu prosiect rhannu gardd. Tend and Lend oedd yr unig un a allai gynnal
y prosiect yn realistig. Ychwanegodd y
byddai'r cyngor yn chwilio am ffyrdd o gefnogi'r ddau brosiect ac yn argymell
bod pobl yn ymuno â nhw heb unrhyw atebolrwydd yn erbyn yr Awdurdod. Dywedodd yr
Is-gadeirydd fod diddordeb gwirioneddol yn y cynllun yn ei ward a thynnodd sylw
at y ffaith y dylid ymchwilio i wahanol opsiynau o gysylltu pobl. Dywedodd hefyd y byddai cyfyngiadau parhaus
COVID-19 yn achosi anawsterau nes iddynt gael eu llacio. Penderfynwyd y byddai trafodaethau pellach yn cael eu
cynnal mewn cyfarfod gweithgor. |
|
Tyfu Bwyd Cymunedol. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd ddiweddariad llafar a dywedodd fod Joanne Portwood, Swyddog
Strategaeth a Pholisi wedi drafftio polisi a oedd yn gofyn am drafodaethau
pellach yng nghyfarfodydd gweithgor y Cynghorwyr a'r Swyddogion. |
|
Ymgyrch Cynyddu Nifer Y Bobl Sy'n Hawlio Budd-daliadau. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd ddiweddariad llafar ynglŷn â'r Ymgyrch i Gynyddu'r Defnydd o Fudd-daliadau. Dywedodd fod
swyddogion, yn dilyn y cyflwyniad a ddarparwyd yn y cyfarfod blaenorol, wedi
adrodd bod nifer y bobl sy'n manteisio arnynt yn isel ac nad oedd y llinell
gymorth wedi derbyn nifer fawr o alwadau. Ychwanegodd fod
angen trafodaethau pellach mewn cyfarfod gweithgor i gytuno ar y dull gorau o
hyrwyddo'r defnydd o fudd-daliadau. Penderfynwyd y byddai trafodaethau pellach yn cael eu
cynnal mewn cyfarfod gweithgor. |
|
Tegwch o Fewn y Polisi Iechyd Gwyrdd. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd ar lafar fod y gwaith o ddatblygu'r polisi dan reolaeth Martin
Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd ar hyn o bryd a bod angen gwneud cynnydd pellach
er mwyn i'r polisi gael ei fabwysiadu. |
|
Polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Anthony
Richards, Rheolwr Strategaeth a Datblygiad Tlodi a'i Atal yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r pwyllgor ar lafar ynghylch Hyrwyddo Polisi Credyd Fforddiadwy. Amlinellodd fod y
Tîm Rheoli Corfforaethol wedi cytuno ar y polisi drafft a'i fod gyda
chyfieithwyr Cymraeg ar hyn o bryd cyn iddo gael ei ddosbarthu ar gyfer
ymgynghoriad. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Polisi Dyledion Corfforaethol. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd ar lafar y byddai'n rhaid cynnal trafodaethau pellach yn ystod
cyfarfod gweithgor yn y dyfodol er mwyn gwneud cynnydd. |
|
Rhoi'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar Waith. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ar lafar am Ddyletswydd
Economaidd-Gymdeithasol a sut y byddai'n effeithio ar benderfyniadau strategol
yn yr Awdurdod o 31 Mawrth 2021.
Ychwanegodd fod sesiynau briffio wedi'u trefnu i bob Cynghorydd fod yn
bresennol ynddynt er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol
ac y byddai'n dosbarthu dolen ynghylch canllawiau i'r pwyllgor. |
|
Cynllun Gwaith 2020-2021. PDF 127 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2020-2021. Dywedodd nad
oedd y pwyllgor wedi edrych ar Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol na Chludiant
Cyhoeddus. Ychwanegodd fod dau bwyllgor
arall yn archwilio cludiant cyhoeddus, pob un o'i safbwynt ei hunan ac roedd
posibilrwydd y dylid trefnu cyfarfod ar y cyd ar gyfer y tri phwyllgor i drafod
y pwnc. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |