Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2020 fel cofnod
cywir. |
|
Cyflwyniad - Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy - Arolwg. Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd gyflwyniad ar Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy a thrafododd gwestiynau
posib i'w cynnwys mewn arolwg cyhoeddus. Cynigiodd fod
angen newid y ffordd yr oedd pethau'n gweithio yng Nghyngor Abertawe, ar ôl clywed
bod gan rywun bryderon ariannol. Ar hyn o bryd, pan fydd pobl yn siarad â'r
cyngor am broblemau ariannol, efallai na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd, yn
enwedig os nad oedd y sgwrs yn ymwneud ag arian mewn gwirionedd. Er enghraifft,
pe bai rhywun yr oedd angen iddo gyrraedd lleoliad penodol yn sôn wrth Swyddog
y Cyngor na allai fforddio cludiant, efallai na fyddai’r swyddog yn gwneud nac
yn dweud dim am hynny. Amlinellodd fod
problemau ariannol yn rhywbeth yr oedd y cyngor am fynd ati i wneud rhywbeth yn
ei gylch a chefnogi pobl ag ef. Gallai unrhyw un gael trafferthion ariannol ac
nid yw problemau ariannol yr unigolyn yn effeithio arno ef yn unig. Ychwanegwyd bod y
gymuned leol yn ffynnu pan allai pobl fforddio bywydau iach, cefnogi'r economi
leol ac osgoi straen pryderon ariannol. Roedd yr awdurdod am i bawb a oedd yn
cynrychioli'r cyngor ddeall hyn a gwybod sut i sicrhau y gallai pobl â
phryderon ariannol gael cymorth annibynnol am ddim pe dymunent. Amlygodd fod
ffyrdd drud iawn o fenthyca arian. Roedd rhai siopau’n gwerthu eitemau gyda
chynlluniau ad-dalu hawdd, ond roedd cyfanswm y gost yn uchel iawn. Aeth rhai benthycwyr i mewn i gartrefi pobl i
gymryd ad-daliadau mewn arian parod, ond eto, roedd cost y benthyciadau hyn yn
uchel iawn ac roedd costau uchel yn mynd ag arian o bocedi pobl. Rhoddodd fanylion
ynghylch sut i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am ffyrdd gwell o fenthyca
arian, os mai dyna sydd ei angen arnynt. Roedd polisi a ysgrifennwyd gan y
cyngor yn egluro sut byddai hyn yn gweithio, a byddai barn y cyhoedd yn cael ei
cheisio ar y polisi. Rhestrwyd
cwestiynau posib ar gyfer yr arolwg fel a ganlyn: - (Gellir ateb Ydw/Nad ydw, Oes/Nac oes, Oedd/Nac oedd, Byddwn/Na fyddwn ac
mae lle am ragor o sylwadau) 1. Polisi yw hwn i gynrychiolwyr y cyngor, nid aelodau'r
cyhoedd. Ond ar ôl ei ddarllen, neu'r esboniad uchod, ydych chi'n deall yr hyn
y mae'n bwriadu ei wneud? 2. Ydych chi'n meddwl bod y polisi hwn yn syniad da? 3. Ydych chi erioed wedi siarad â chynrychiolydd o Gyngor
Abertawe am ei anawsterau ariannol eich hun, neu rai rhywun rydych chi'n ei
gefnogi? 4. Os ydych: a) Oedd ei ymateb yn ddefnyddiol? b) Ydych
chi'n meddwl y byddai'r polisi hwn wedi gwneud gwahaniaeth? 5. Oes unrhyw newidiadau eraill rydych chi'n meddwl y gallai
Cyngor Abertawe eu gwneud yn y ffordd y mae'n gweithio gyda phobl mewn
trafferthion ariannol? 6. Fyddech chi'n barod i weithio'n fwy gyda Chyngor Abertawe
ar ei waith i gefnogi pobl mewn trafferthion ariannol? Os felly, rhowch eich
manylion cyswllt:_______________________ Trafododd y pwyllgor y canlynol: - · Pam roedd y cyngor yn ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch un
o bolisïau mewnol y cyngor, yr angen i gynnwys holl gwestiynau'r arolwg a
sicrhau bod y cwestiynau wedi'u geirio'n gywir; · Yr angen i ddarparu rhagor o wybodaeth er mwyn i'r arolwg
fod yn hawdd i'w ddeall; · Sicrhau ei bod yn amlwg at bwy yr anelir yr arolwg; · Enghreifftiau o drais gan fenthycwyr arian mewn rhai
rhannau o'r gymuned, gan sicrhau bod yr arolwg yn berthnasol i bawb a sicrhau
ein bod yn cael ymatebion gan bob rhan o'r gymuned; · Anhawster cael gwybodaeth gan bobl am fenthyca arian
anghyfreithlon; · Y cymorth presennol sydd ar gael i bobl, e.e. cymorth gan
y Gymdeithas Dai; · Hyrwyddo Undebau Credyd ymhellach; · Y weithdrefn adrodd ffurfiol sy'n ofynnol cyn cyhoeddi'r
arolwg ar gyfer ymgynghori. Penderfynwyd: - 1) Nodi cynnwys y cyflwyniad a'r trafodaethau; 2)
Y caiff
yr adroddiad ffurfiol drafft i'r Cabinet ei drosglwyddo iddo mewn cyfarfod yn y
dyfodol er mwyn cytuno arno. |
|
Cyflwyniad - Newidiadau i Drwyddedau Teledu a'r Cymorth Sydd ar Gael. Cofnodion: Anthony Richards, Rheolwr Datblygu Strategaeth Tlodi a'i Atal Rhoddodd
gyflwyniad i'r Pwyllgor ar newidiadau i drwyddedau teledu a'r cymorth sydd ar
gael. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol: - ·
Cyflwyniad; ·
Unrhyw un sy'n 75 oed neu'n hŷn sy'n derbyn Credyd
Pensiwn; ·
Unrhyw un sy'n 75 oed neu'n hŷn nad yw’n derbyn
Credyd Pensiwn; ·
Budd-daliadau sy'n ymwneud ag incwm; Amcangyfrifon o'r
nifer sy'n cofrestru; ·
Lledaenu'r gost: ·
Cynllun talu syml Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n
ymwneud â'r canlynol: - ·
Ffyrdd gwahanol o weithio Yr Adran Gwaith a Phensiynau; ·
Pryder ynghylch y broblem enfawr o bobl nad ydynt yn hawlio
Credyd Pensiwn a chyfeirio pobl at y cynllun talu syml; ·
Cysylltu â Thrwyddedu Teledu i amlygu'r broblem Credyd
Pensiwn a gofyn iddynt gynnwys manylion yn eu deunydd darllen; ·
Cynnwys manylion ynghylch Credyd Pensiwn mewn gohebiaeth
Treth y Cyngor yn y dyfodol; ·
Pryder nad oedd cynghorwyr yn cyfeirio materion Credyd
Pensiwn at y Tîm Hawliau Lles; ·
Pobl nad ydynt yn datgelu eu trafferthion ariannol i
gynghorwyr; ·
Hysbysu pobl am Gredyd Pensiwn ar gyfryngau cymdeithasol. Penderfynwyd nodi cynnwys y cyflwyniad. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 128 KB Cofnodion: Darparodd y
Cadeirydd adroddiad Cynllun Gwaith wedi'i ddiweddaru. Darparwyd
diweddariadau mewn perthynas â chynnydd ar y canlynol: - ·
Cynyddu Isadeiledd Gwyrdd mewn cymdogaethau
difreintiedig; ·
Polisi Dyledion Corfforaethol; ·
Llythyrau Treth y Cyngor at breswylwyr sydd ag ôl-ddyledion; Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau ei bod yn gyfnod anodd ac y
byddai'n gwaethygu pan fyddai cymorth y Llywodraeth yn dod i ben gan arwain at
lawer o bobl yn colli’u swyddi a chynnydd mewn ceisiadau am fudd-daliadau. Ychwanegodd fod llwyth gwaith y Tîm
Cyflogadwyedd wedi cynyddu gyda nifer y bobl sy'n cael eu cyfeirio atynt yn
cynyddu. Cyfeiriodd at y gwaith sy'n cael ei wneud gan Fentoriaid Abertawe ac
effaith y pandemig ar Ddysgu Gydol Oes. Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf Blwyddyn Ddinesig 2019-2020, diolchodd y
Cadeirydd i'r Pwyllgor a'r Swyddogion am eu cefnogaeth. Diolchodd hefyd i'r
Athro Andrew Davies am ei fewnbwn drwy gydol y flwyddyn. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |