Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd Andrew Davies, Aelod Cyfetholedig, gysylltiad personol â Chofnod 28 "Polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy Drafft".

27.

Cofnodion. pdf eicon PDF 245 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 30 Medi 2019 ac 18 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

28.

Cyflwyniad - Polisi Drafft Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy.

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y gwaith y mae'r pwyllgor eisoes wedi'i wneud yn ystod cyfarfodydd y Gweithgor.  Nododd y byddai'r polisi'n cael ei anfon i'r Cabinet i'w fabwysiadu ar ôl i'r pwyllgor gytuno arno.

 

Darparodd Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi gyflwyniad a oedd yn amlinellu'r canlynol:

 

1.        Cyflwyniad 

 

Roedd benthyca'n angenrheidiol i nifer o breswylwyr.  Mae cwmnïau credyd cost uchel yn targedu'r rheini â chredyd gwael neu gadernid ariannol isel. Gallai hyn arwain at or-ddyledion, diffygdalu ac ansolfedd oherwydd gall preswylwyr dderbyn gormod o gredyd cost uchel.  Efallai bydd nifer o breswylwyr sy'n cael eu targedu gan ddarparwyr credyd cost uchel hefyd yn ddiamddiffyn, ac roedd gennym ddyletswydd penodol i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus wrth fenthyca.

 

Mae Strategaeth Trechu Tlodi Abertawe'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer Abertawe lle:

 

·                Nad yw tlodi incwm yn rhwystr i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol, cael bywyd iach a bywiog, datblygu sgiliau ac ennill cymwysterau a chael swydd foddhaus.

·                Mae preswylwyr yn mwyafu eu hincwm ac yn cael y mwyaf o'u harian.

·                Mae preswylwyr yn osgoi talu'r 'Premiwm Tlodi', sef y costau ychwanegol y mae'n rhaid i bobl ar incwm isel eu talu am hanfodion megis tanwydd a chludiant.

 

Mae Strategaeth Cynhwysiad Ariannol (2016) Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo cynhwysiad ariannol i holl breswylwyr Cymru.  Y nod cyffredinol yw darparu gwybodaeth a chyngor a sicrhau bod gan breswylwyr fynediad at wasanaethau ariannol addas a fforddiadwy.

 

2.        Diffiniadau

 

Mae Benthyca Cost Uchel yn cynnwys:

 

·                Credyd tymor byr cost uchel

·                Benthyciadau cost uchel heb eu gwarantu sy'n targedu cwsmeriaid â chredyd gwael

·                Benthyciadau gwarantwr

·                Benthyciadau ar garreg drws/wedi'u casglu o'r cartref e.e. Provident

·                Benthyciadau diwrnod cyflog e.e. Quick Quid

·                Benthyciadau llyfrau cofrestru/benthyciad car V5

·                Gwystlo

·                Rhentu i Brynu e.e. Bright House

 

Gallai hefyd gynnwys:

 

·                Benthycwyr anrheoledig e.e. Twyllwyr Credyd

 

Mae nodweddion Credyd Fforddiadwy'n cynnwys:

 

·                Cynnyrch credyd gydag ad-daliadau fforddiadwy

·                Cost glir y credyd a nodir

·                Gwiriadau fforddadwyedd a gynhaliwyd

·                Benthyca cyfrifol

·                Cynyddu gallu ariannol y benthyciwr

·                Cynnyrch credyd moesegol, fforddiadwy a hygyrch

 

3.        Datganiad Polisi

 

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu:

 

1)              Atal targedu credyd cost uchel,

2)              Atal benthyca cost uchel

3)              Hyrwyddo mynediad at gredyd mwy cytbwys a fforddiadwy.

 

Felly byddwn yn:

 

·                Hyrwyddo, annog a chefnogi pobl i ddefnyddio cyngor diduedd, am ddim ar ddyled drwy:

·            a) ymgyrchoedd cyffredinol, a

·            b) chynnig rhagweithiol pryd bynnag y bydd preswylydd yn datgelu ei fod mewn trafferth ariannol

·                Ymrwymo i weithio gydag Undeb(au) Credyd Abertawe

·                Hyrwyddo a sefydlu mannau casglu Undeb Credyd lle'n bosib.

·                Hyrwyddo ac annog aelodaeth ag Undeb Credyd i denantiaid newydd a phresennol

·                Hyrwyddo ac annog aelodaeth ag Undeb Credyd i staff newydd a phresennol.

·                Rhwystro gwefannau benthyciadau diwrnod cyflog ar gyfrifiaduron y cyngor a chyfrifiaduron cyhoeddus a chyfeirio pobl i Undeb/au Credyd Abertawe, Cyngor ar Bopeth a'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

·                Hyrwyddo cofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol o fenthycwyr rheoledig ar wefan y cyngor (https://register.fca.org.uk/).

·                Hyrwyddo rhoi gwybod am unrhyw weithredoedd gan fenthyciwr arian didrwydded i Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru a Safonau Masnach Abertawe.

·                Rhoi hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fenthycwyr Arian Didrwydded i staff a chynghorwyr y sir.

 

4.        Cynllun Gweithredu a Monitro

 

Byddai'r polisi'n cael ei weithredu drwy Gynllun Gweithredu tair blynedd, a chaiff ei adolygu'n flynyddol ym mis Ionawr. 

 

Byddai'r Cynllun Gweithredu'n nodi sut y byddai swyddogion ac aelodau'n sicrhau bod yr holl ymrwymiadau a restrir yn y datganiad polisi uchod yn cael eu cyflawni. Efallai y bydd hefyd yn cynnwys gweithredodd ychwanegol yr ystyriwyd eu bod yn amserol ac yn berthnasol i'r polisi hwn.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol:

 

·                Pe bai modd defnyddio canolfannau cymunedol i hyrwyddo cyngor i breswylwyr;

·                Er nad oedd y polisi wedi'i gyd-gynhyrchu mewn gwirionedd, defnyddiwyd gwybodaeth ac adborth helaeth i lunio'r polisi;

·                Byddai rhestr o dermau technegol yn ddefnyddiol;

·                Angen targedau SMART er mwyn gallu monitro a gwerthuso'r canlyniadau;

·                Angen gwella gwybodaeth y cyhoedd o Undebau Credyd fel dewis arall i fenthyca, a hyrwyddo'u manteision;

·                Pe dylai cyrff eraill megis Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe gofrestru ar gyfer y polisi.

 

Cydnabuwyd y byddai angen cynnal ymgynghoriad â'r holl gyrff perthnasol.  Yn dilyn mabwysiadu'r polisi gan y Cabinet, byddai gwaith cyhoeddi helaeth yn cael ei wneud.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cyflwyniad;

2)              Cyflwyno'r Polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy Drafft i'r Cabinet.

29.

Rhaglen Waith ar Gyfer 2019-2020. pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig 'er gwybodaeth’.