Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2019 fel cofnod
cywir, yn amodol ar y diwygiadau canlynol: - Ychwanegu enwau'r
Cynghorwyr C Richards a K Roberts at y rhestr o ymddiheuriadau. Cofnod Rhif 12 - Comisiwn Gwirionedd Tlodi - rhoi 'grŵp cychwyn' yn lle 'Grŵp Tasg a Gorffen, a newid Mr A Gravell i Mr Grinnell. |
|
Cyflwyniad - Tai Teuluoedd: Cynllun "Cynnwys Tenantiaid" - Gwaith ar Lythyrau. Cofnodion: Hysbyswyd y
pwyllgor gan Jo Ashford a Paul Burge
o Tai Teulu ynghylch y broses graffu yr ymgymerwyd â hi o ran diwygio cynnwys y
llythyrau a anfonwyd gan eu sefydliad.
Dosbarthwyd enghreifftiau defnyddiol o'r llythyrau i'r pwyllgor: Amlinellwyd y
pwyntiau canlynol: - ·
Roedd y tîm craffu wedi nodi bod y llythyrau a oedd yn
cael eu hanfon yn ymosodol/llym o ran eu naws ac argymhellwyd ymagwedd fwynach: ·
Roedd
rhai llythyrau wedi'u hysgrifennu flynyddoedd ynghynt; roeddent yn ymosodol ac
yn cynnwys gwallau ond roedd staff wedi'u copïo ers blynyddoedd lawer; ·
Archwiliwyd
134 o lythyrau gan Tai Teulu. Roedd
angen gwneud mân newidiadau i 35 o lythyrau a rhoddwyd y newidiadau arfaethedig
i adrannau unigol, gan dderbyn bod y newid yn angenrheidiol. ·
Nid
oedd llythyrau a anfonwyd yn flaenorol yn cydnabod anableddau rhai unigolion
e.e. ni all y rheiny ar y sbectrwm awtistig ddarllen inc coch/brawddegau llawn
priflythrennau; ·
Roedd
y llythyrau a luniwyd ar ôl y broses graffu mewn iaith glir ac yn esbonio'n
glir i'r tenant pam yr anfonwyd y llythyr. Dosbarthwyd rhai
o'r llythyrau a luniwyd gan yr awdurdod. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Pwysigrwydd
ymgynghori'n iawn â dinasyddion a'u cynnwys mewn unrhyw newidiadau arfaethedig,
a gwreiddio polisi y mae dinasyddion yn ganolog iddo. ·
Cydnabod
y ffaith nad yw llawer o unigolion yn agor llythyrau sy'n ymddangos yn
swyddogol a nodi dulliau amgen o gyfathrebu â dinasyddion; ·
Sicrhau
bod dinasyddion yn deall cynnwys y llythyrau; ·
Defnyddio'r
enghraifft dda o sut mae Tai Teulu wedi newid eu llythyrau/sut maent yn ymdrin
â thenantiaid; ·
Cydnabod
y dasg enfawr a wynebir gan yr awdurdod wrth adolygu llythyrau a anfonir gan yr
holl adrannau; ·
Yr angen
i lythyrau fod mewn iaith glir i egluro pam y cawsant eu hanfon; ni ddylent fod
yn ddatganiad ariannol yn unig, a dylent gynnwys rhestr termau ·
Sut
roedd lefelau ôl-ddyledion wedi gostwng o ganlyniad i'r llythyrau
diwygiedig/creu swydd benodol i ymdrin â'r mater; ·
Cydnabod
pwysigrwydd cysondeb ar draws yr awdurdod; ·
Sefydlu
gofynion deddfwriaethol ar gyfer llythyrau. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolwyr Tai Teulu am ddod i'r cyfarfod. Penderfynwyd: - 1)
Sefydlu
gweithgor i archwilio llythyrau a gyhoeddir gan yr awdurdod; 2) Y bydd y gweithgor yn cwrdd â'r Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau i drafod y 5 llythyr a gyhoeddir fwyaf gan y gwasanaeth. |
|
Cyflwyniad - Achrediad Cyflog Byw. Cofnodion: Rhoddodd Adrian
Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, gyflwyniad i'r
pwyllgor ar yr Achrediad Cyflog Byw. Roedd y manylion
a ddarparwyd yn cynnwys Cyfraddau Cyflogau'r DU a oedd yn amlinellu manylion yr
isafswm cyflog, y cyflog byw cenedlaethol a'r cyflog byw gwirioneddol a hefyd sut yr effeithir ar weithwyr a
gweithwyr asiantaeth yng Nghyngor Abertawe.
Trafododd y
pwyllgor: - ·
Nifer
y cynghorau yng Nghymru/y DU a oedd yn gyflogwyr y cyflog byw; ·
Y
cyngor yn cael ei achredu pe bai'n talu ei weithwyr ei hun ·
Posibilrwydd
nodi mewn dogfennau contract fod yn rhaid i gontractwyr dalu'r cyflog byw i'w
gweithwyr; ·
Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, gwobrwyo
cwmnïau sydd yn talu'r Cyflog Byw ac eglurhad ynghylch yr achrediad os nad yw
contractwyr yn talu'r Cyflog Byw i'w gweithwyr; ·
Rheolau
ynghylch ôl-ddyddio/peidio ag ôl-ddyddio taliadau Cyflog Byw; ·
Y
bwlch rhwng y Cyflog Byw gwirioneddol a gwaelod graddfeydd cyflog y Cyd-gyngor
Cenedlaethol; ·
Sut
roedd awdurdodau lleol nad oeddent wedi ymrwymo i'r achrediad yn aelodau o
gyrff eraill; ·
Sut
roedd yr awdurdod wedi hepgor cyfraddau cyflog is yn flaenorol; ·
Cyhoeddiad
y Llywodraeth y byddai'r Cyflog Byw yn cynyddu i £10.50 yr awr i bob gweithiwr
dros 21 oed, sut roedd hyn yn cymharu â'r Cyflog Byw Gwirioneddol, sut y byddai'n
cael ei ariannu gan y Llywodraeth a sut byddai cyfraddau cyflog y Cyd-gyngor
Cenedlaethol yn mynd bob yn gam â'r newidiadau; ·
Goblygiadau
cost gwerth £5m pe bai'r awdurdod yn talu'r Cyflog Byw; ·
Posibilrwydd
gofyn i sefydliadau partner y BGC ymrwymo i'r Cyflog Byw. Gofynnwyd i
Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol ddiweddaru'r Pwyllgor ar y
materion a drafodwyd. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad; 2) Y bydd y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol yn darparu adroddiad diweddaru yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd. |
|
Tlodi Bwyd: Y Diweddaraf am waith y Trydydd Sector. (Llafar) Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd fod Fareshare wedi bod yn trafod â'r
awdurdod ynghylch defnyddio meysydd
parcio'r cyngor fel rhan o'u model newydd.
Eglurodd diben a nod Farshare a oedd yn casglu
bwyd dros ben gan gynhyrchwyr, gan gynnwys cynnyrch ffres. Dywedodd Rheolwr
y Gwasanaeth Trechu Tlodi fod cwmnïau â diddordeb, a bod cydweithwyr yn yr
adrannau hamdden a meysydd parcio yn gadarnhaol iawn ynghylch y cynigion. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Y
ffaith bod Ceiswyr Lloches Abertawe wedi colli arian grant sylweddol a diffyg
lle storio bwyd; ·
Y
gwahaniaeth rhwng Fareshare a banciau bwyd, h.y. mae Fareshare hefyd yn darparu cynnyrch ffres; ·
Datblygiadau'n
ymwneud â'r Gynghrair Tlodi Bwyd. Penderfynwyd y bydd Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi'n darparu diweddariad am Fareshare a'r gynghrair Tlodi Bwyd yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |
|
Cyflwyniad - Polisi Dyled Corfforaethol. Cofnodion: Rhoddodd Jo
Portwood, y Swyddog Strategaeth a Pholisi, gyflwyniad ar ddatblygu Polisi Dyled
Corfforaethol a helpu aelwydydd â lefelau uchel o ddyled. Roedd y manylion
a ddarparwyd yn cynnwys: - ·
Y
rhesymeg; ·
Arfer
da - cefnogi aelwydydd ag incwm isel a chanddynt lefelau dyled uchel; ·
Beth
yw Polisi Dyled Corfforaethol; ·
Cwmpas
Polisi Dyled Corfforaethol; ·
Defnyddio
Polisi Dyled Corfforaethol; ·
Buddion
Polisi Dyled Corfforaethol; Dywedodd y Cadeirydd fod llawer o enghreifftiau gweithredol yn y DU a chynigiodd fod y pwyllgor yn archwilio cyn-strategaeth
Dyled Deg y cyngor ar gyfer 1999-2007. Ychwanegodd mai'r prif bwrpas oedd
casglu dyled mewn ffordd wahanol, gan wneud i bobl deimlo eu bod yn rhan o'r
broses fel eu bod yn gweithio gyda'r awdurdod mewn ffordd adeiladol. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Byddai
datblygu Polisi Dyled Corfforaethol ar y cyd â dinasyddion yn neges glir am
ymrwymiad yr awdurdod; ·
Mae'r
modd y mae'r awdurdod yn cyfathrebu'n ehangach â phobl ynghylch dyled yn
bwysig; ·
Gweithio
gydag Undebau Credyd/ Cyngor ar Bopeth; ·
Canolbwyntio ar ddyled bersonol a'i chasglu mewn ffordd
deg a llawn parch. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad; 2)
Y
bydd y pwyllgor yn bwrw ati i ddatblygu Polisi Dyled Corfforaethol; 3) Y deuir o hyd i gyn-Strategaeth Dyled Deg y cyngor ar gyfer 1999-2007 i gynorthwyo â'r trafodaethau. |
|
Comisiwn Gwirionedd Tlodi. (Llafar) Cofnodion: Adroddodd Amy Hawkins,
Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi, y byddai CGGA Abertawe yn cynnal y Comisiwn
Gwirionedd Tlodi ac y byddai 2 is-grŵp yn cael eu creu i ymdrin ag ariannu
a chyfathrebu. Byddai manylion yn cael
eu cylchredeg i'r pwyllgor. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adborth Gan y Fforwm Tlodi Mewnol. (Llafar) Cofnodion: Adrodd Rheolwr y
Gwasanaeth Trechu Tlodi am y cynnydd gan y Fforwm Tlodi Mewnol. Ychwanegodd sut roedd y fforwm yn edrych ar
gyflogadwyedd, ysgolion, hyfforddiant, cyflogaeth, mwyafu
buddion, sut gall pobl ymuno â'r awdurdod, y defnydd o ddata, y cynnig gofal
plant, rhieni sengl a chredyd pensiwn. Gwnaeth y
pwyllgor sylw ar yr angen i gynnwys dinasyddion yn llawn ac ymgynghori â hwy'n
iawn er mwyn cael y safbwynt cywir. Ychwanegodd y
Cadeirydd fod y Fforwm Tlodi'n ymchwilio i ddatblygu Cynllun Gweithredu Tlodi a
byddai swyddogion sy'n gweithio'n agos gyda'r cyhoedd yn archwilio sut bydd y
Comisiwn Gwirionedd Tlodi yn mynd ati i gyfeirio camau gweithredu'r Fforwm. Penderfynwyd nodi cynnwys y diweddariad. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 126 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig 'er
gwybodaeth’. |