Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

60.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

YnYn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

61.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

 

62.

Hunanasesiad - Adolygiad o 2018/19 (Comisiwn Gwirionedd Tlodi).

Cofnodion:

Rhoddodd Anthony Richards o’r Uned Ffyniant a Lles Oedolion y diweddaraf mewn perthynas â Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (SPTC). Cyfeiriodd at ddiweddariadau blaenorol i'r pwyllgor ar 25 Gorffennaf 2018 ac ar 22 Awst 2018.

 

Manylodd ar rôl Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe; ardaloedd eraill yn y wlad lle mae Comisiwn Gwirionedd Tlodi wedi bod yn llwyddiannus; egwyddorion; cynnydd a'r pedwar cam mewn perthynas â Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe.

 

Canolbwyntiodd trafodaethau aelodau ar ddatblygu canlyniadau/blaenoriaethau Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe; rôl y sefydliad cynnal (o ran staffio, cynnal annibyniaeth ac aelodaeth) ac amserlenni o ran y digwyddiad agoriadol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi'r cyflwyniad;

2)    Y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn dosbarthu copi o'r cyflwyniad i aelodau'r pwyllgor.

 

63.

Cyflwyniad - Llythyrau'r Cyngor i Breswylwyr.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Refeniw gyflwyniad ar lythyrau Treth y Cyngor i breswylwyr.

 

Nododd yr aelodau y cefndir; proses statudol; problemau; y sefyllfa bresennol; arferion da presennol; protocol treth y cyngor i Gymru; gwelliannau sy'n cael eu gwneud a heriau parhaus.

 

Canolbwyntiodd trafodaethau'r aelodau ar gynnwys a chynllun y lythyr (gan ystyried rheoliadau statudol); y broses a'r broses fonitro sy'n gysylltiedig â chasglwyr dyledion; archwilio arfer gorau ymysg awdurdodau lleol eraill a chynnal y cydbwysedd rhwng cynnig cyngor i unigolion a'u hannog i ymgysylltu â'r awdurdod lleol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Refeniw am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi'r cyflwyniad;

2)    Y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn dosbarthu copi o'r cyflwyniad i aelodau'r pwyllgor.

 

64.

Hawliau Dynol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaeth Ffyniant a Lles Oedolion at drafodaethau (yn y cyfarfod ar y 27 Mawrth 2019) ynghylch Dinas Abertawe yn dod yn Ddinas Hawliau Dynol. Nododd fod llythyr drafft i'r Cabinet/TRhC wedi'i ddosbarthu i'r pwyllgor er mwyn ei gymeradwyo.

 

Penderfynwyd anfon y llythyr (gan gynnwys pwyntiau gweithredu) at Aelod y Cabinet.

 

65.

Hunan-werthusiad - Adolygiad o 2018/19.

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth Ffyniant a Lles Oedolion yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ynghylch: y Cynllun Gweithredu Llog Uchel a llythyr at Aelodau'r Cabinet; diweddariad am statws Swyddog Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd y Swyddog Strategaeth a Pholisi drosolwg o'r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Tlodi yn ystod blwyddyn ddinesig 2018-2019.

 

Nododd yr aelodau: gylch gorchwyl; rôl a fframwaith; perthynas â chraffu; proses hunanfyfyrio; cynllun gwaith ar gyfer 2018/2019; cyflawniadau allweddol a hunanfyfyrio.

 

Trafododd yr aelodau yr angen am gysondeb ynghylch materion polisi, y gwersi a ddysgwyd a fformat cyfarfodydd y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd y swyddogion am eu cyflwyniadau addysgiadol a'u cefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

 

66.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai cynllun gwaith y Pwyllgor Datblygu Polisi Tlodi ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020 yn cael ei benderfynu yn y flwyddyn ddinesig newydd.