Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

49.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

50.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

51.

Cyflwyniad - Cyflwyniad Abertawe'n Gweithio a'r Fargen Ddinesig.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad ar y cyd gan Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal ac Elliott Williams, Rheolwr Ariannu Allanol ar Adfywio Dinas Abertawe ac Abertawe'n Gweithio.

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·         Rhaglen adfywio'r ddinas;

·         Safleoedd blaenoriaeth allweddol;

·         Cynnydd yng ngham y sector preifat/cynigion hyd yn hyn;

·         Man cyhoeddus Ffordd y Brenin

·         Buddion rhaglen a buddsoddiadau adfywio canol y ddinas;

·         Abertawe'n Gweithio - sefydliadau ac adfywio.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.  Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Swyddi gwag yn cael eu llenwi gan bobl leol, nodi'r bwlch sgiliau a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyfateb er mwyn galluogi sgiliau;

·         Effaith - cael amgylchedd gwell a chyfoeth cyffredinol;

·         Cael y di-waith/rhai sy'n derbyn tâl isel i gyrraedd y lefel nesaf/cyflogaeth a chael eu hyfforddi'n well;

·         Canolbwyntio ar y bobl y maent yn anos eu cyrraedd;

·         Sefydliadau'n prynu eiddo yn ardal Ffordd y Brenin a gwella rhai hen adeiladau yn yr ardal.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor.

 

52.

Cyflwyniad - Gofal Plant Estynedig.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad ar Ofal Plant Estynedig gan Allison Williams, Rheolwr Adnoddau Teuluoedd,

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·         Y Cynnig Gofal Plant i Gymru;

·         Cyflwyniad;

·         Grantiau yn Abertawe;

·         Beth yw'r Cynnig Gofal Plant?

·         Ein hymagwedd;

·         Beth sydd ar gael, cyfalaf etc;

·         Anghenion Dysgu Ychwanegol;

·         Ffigurau hyd yn hyn/dadansoddiad o geisiadau o godau post;

·         Camau nesaf.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol.  Cafwyd trafodaethau am y canlynol: -

 

·         Costau penodol a gwersi a ddysgwyd o'r model a ddefnyddiwyd yn Lloegr;

·         Sut mae'r cynllun yn cefnogi rhieni sy'n gweithio;

·         Y swm enfawr o waith a gwblhawyd gan staff;

·         Dethol wardiau llwyddiannus yn Abertawe;

·         Rhesymau pam y bu rhai wardiau'n aflwyddiannus.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor.

53.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Rachel Moxey - Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

54.

Rachel Moxey - Pennaeth Tlodi a'i Atal.

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y pwyllgor, i Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal am ei gwaith gyda'r pwyllgor gan ddymuno'n dda iddi yn ei rôl newydd gyda Chyngor Sir Penfro.