Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

26.

Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018 fel cofnod cywir.

 

27.

Cyflwyniadau - Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Cofnodion:

Rhoddodd Jo Portwood, Swyddog Strategaeth a Pholisi, gyflwyniad ynghylch agweddau ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi.

 

Dyma'r manylion yn y cyflwyniad: -

 

·         Deddf Cydraddoldeb 2010;

·         Nod y ddyletswydd;

·         Nodweddion gwarchodedig;

·         Dyletswydd benodol ar yr awdurdod lleol;

·         Abertawe: Yn ymarferol beth mae hynny’n ei olygu;

·         Agenda Tlodi a Chydraddoldebau

 

Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.  Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Cynnig gofal plant diweddar Llywodraeth Cymru sy'n gwneud gwahaniaeth i blant anabl â ffocws ar annog rhieni sy'n gweithio;

·         Effaith y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2018;

·         Trosglwyddo goblygiadau os bydd awdurdodau lleol yn defnyddio gwasanaethau allanol.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad a'r trafodaethau;

2)    Ymchwilio i/cadarnhau nifer y plant anabl sydd wedi elwa o'r cynnig gofal plant diweddar gan Lywodraeth Cymru.

 

28.

Benthyca llog uchel - Opsiynau Sydd Ar Gael. (I'w trafod)

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at y cyflwyniad a roddwyd gan Julie Mallinson, Undeb Credyd Celtic, yn ystod y cyfarfod diwethaf ac amlygodd yr opsiynau sydd ar gael er mwyn i'r awdurdod gefnogi pobl.

 

Nododd y Pennaeth Tlodi a'i Atal fod Undeb Credyd Celtic eisoes yn hysbysebu ar slipiau tâl staff ac mae hyn eisoes yn cael effaith. Nododd fod Undeb Credyd Celtic yn awyddus i gael mwy o waith yn Abertawe ac y byddai'n ddefnyddiol pe bai pob cynghorydd yn ymwybodol o'i wasanaethau.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         mae opsiynau ar gael i hysbysebu'r gwasanaethau a ddarperir gan Undeb Credyd Celtic yn ehangach megis slipiau tâl ar-lein, staffnet, rhwydweithio, gweithio mewn partneriaeth a Blog Phil;

·         Yr effaith y mae rhai benthycwyr cost uchel yn ei chael ar unigolion;

·         Yr effaith y mae rhai cwmnïau benthyca cost uchel yn ei chael ar unigolion a'r dulliau a ddefnyddir i magu hyder yn eu gwasanaethau;

·         Y prif adegau benthyca sef mis Tachwedd a Rhagfyr, a'r gost i unigolion ym mis Ionawr ar ôl y Nadolig a'r angen i drosglwyddo'r neges ynghylch Undeb Credyd Celtic;

·         Twyllwyr credyd a'r effaith maent yn ei chael ar unigolion;

·         Hyrwyddo ffurfiau eraill o gredyd;

·         Newid delwedd Undeb Credyd Celtic;

·         Darparu mwy o gyfathrebu eang, e.e. The Wave, yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    y bydd y Cadeirydd yn anfon llythyr at Aelodau’r Cabinet ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan Undeb Credyd Celtic;

2)    y bydd y Pennaeth Tlodi a'i Atal yn ymchwilio i ddarparu cyfathrebu ychwanegol ynghylch Undeb Credyd Celtic cyn y Nadolig.

 

29.

Rhoi'n Gall. (I'w drafod)

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Tlodi a'i Atal gyflwyniad ynghylch y Cynllun Rhoi'n Gall.  Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·         Taflen hysbysebu am y Cynllun Rhoi'n Gall;

·         Siart Llif y Cynllun Rhoi'n Gall;

·         Cynnydd - gan gynnwys cynllun peilot yng nghanol y ddinas am 6 mis a estynwyd ar draws yr awdurdod cyfan, gan gynnwys 40 o stondinau yng nghanol y ddinas a 6 o siopau yn ardal Uplands;

·         Gosod blychau casglu a baneri bach mewn siopau;

·         Beth sydd nesaf?

·         Sut gall y cyngor helpu?

 

Trafodwyd y canlynol yn y cyfarfod: -

 

·         MARAC;

·         Mae BID yn ystyried pwyntiau digyffwrdd;

·         Casgliad yn ystod gêm y Gweilch yn erbyn Stade Français;

·         Newid y ffordd o wneud pethau;

·         Cyfeirio'r gefnogaeth gywir at bobl cyn y Nadolig;

·         Y daflen arfaethedig a fydd yn hysbysebu'r Cynllun Rhoi'n Gall a meddalu'r neges arfaethedig;

·         Adnabod cardotwyr 'go iawn' a'u cynghori ar y bobl y gallant siarad â nhw;

·         Sicrhau budd-daliadau i unigolion;

·         Mewnbwn gan Crisis/Shelter.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Bydd y Pennaeth Tlodi a'i Atal yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor ynghylch y cyngor a ddarparwyd i bobl ddigartref gan Opsiynau Tai;

3)    Gwneud diwygiadau i'r daflen arfaethedig am y Cynllun Rhoi'n  Gall fel y trafodwyd.

 

30.

Dinas Hawliau Dynol (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Jo Portwood, Swyddog Strategaeth a Pholisi, adroddiad 'er gwybodaeth' ar y gwaith a wneir gan Gyngor Efrog mewn perthynas ag ystyried a ddylai Dinas a Sir Abertawe fod yn Ddinas Hawliau Dynol.

 

Nododd y sefydliadau sy'n gweithio i hyrwyddo'r syniad o Ddinas Hawliau Dynol a rhoddodd enghreifftiau o Fforwm Hawliau Dynol y Byd, Wikipedia a Dinas Efrog Newydd.  Ychwanegodd yr ariennir y gwaith a wneir gan Efrog yn bennaf gan Sefydliad Joseph Rowntree.

 

Trafododd y pwyllgor ddiwrnod y gweithdy i drafod Dinas Hawliau Dynol a drefnir ar gyfer 27 Tachwedd 2018 a nododd y gallai digwyddiadau gwrthdaro.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Ymchwilio i'r posibilrwydd o'r digwyddiadau'n gwrthdaro;

3)    Trafodir dod o hyd i gyfleoedd cyllido ar gyfer Dinas Hawliau Dynol yn ystod trafodaeth y gweithdy a drefnir ar gyfer 27 Tachwedd 2018.

 

31.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Trafododd y pwyllgor eitemau sy'n perthyn i'r cyfarfod nesaf ar 28 Tachwedd 2018.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Rhoi adborth ar y Gweithdy Dinas Hawliau Dynol a gynhelir ar 27 Tachwedd 2018;

3)    Rhoi diweddariad ynghylch y Cynllun Rhoi'n Gall;

4)    Bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn egluro'r broses gymeradwyo mewn perthynas â llythyrau a anfonir gan y Cadeirydd ar ran y pwyllgor.