Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 22 Awst 2018 fel cofnod cywir.

 

21.

Cyflwyniadau - Benthyca Llog Uchel.

Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal

Julie Mallinson - Undeb Credyd Celtic

Cofnodion:

Darparodd Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal, gyflwyniad rhagarweiniol ar Gredyd Cost Uchel.  Roedd manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys credyd cost uchel a'r mathau ohonynt; The Young Foundation; rhesymau dros ddefnyddio credyd cost uchel; newidiadau i reoliadau; patrymau/effaith credyd cost uchel; dewisiadau amgen.

 

Cyflwynodd Julie Mallinson, Undeb Credyd Celtic, gyflwyniad rhagarweiniol i Undeb Credyd Celtic. Roedd manylion yn y cyflwyniad yn cynnwys hanes cryno; ffeithiau a ffigurau; ein rhwydwaith; Gwasanaethau Undeb Credyd Celtic, gan gynnwys cynilion a benthyciadau, cynilion y gyflogres, cynilwyr ifanc, addysg ariannol, cyllidebu, cefnogi cymunedau; mannau casglu cymunedol.

 

Trafododd y pwyllgor yr wybodaeth a ddarparwyd yn y ddau gyflwyniad.  Roedd y penderfyniadau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Arferion diegwyddor benthycwyr carreg y drws;

·         Hysbysebu'n ehangach y gwasanaethau a ddarperir gan Undeb Credyd Celtic a thargedu rhai ardaloedd;

·         Y dulliau hysbysebu gwahanol sydd ar gael e.e. taflenni, radio, drwy glybiau chwaraeon, drwy bapur newydd Arwain Abertawe;

·         Y system waled ddiogel a ddarperir gan Undeb Credyd Celtic a sut mae hyn wedi helpu pobl e.e. mewn achosion o gam-drin domestig;

·         Annog banciau i ddarparu cyfrifon banc sylfaenol i unigolion;

·         Addysgu unigolion, yn enwedig o ran penderfyniadau ynghylch ceisiadau am fenthyciad i Undeb Credyd Celtic yn cael eu gwneud o fewn 24 awr, a'u perswadio i beidio â chyflwyno cais am gredyd di-oed ar eu ffonau symudol;

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r ddwy am eu cyflwyniadau.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniadau;

2)    Cylchredeg y cyflwyniadau i'r pwyllgor;

3)    Cylchredeg manylion opsiynau cyflogres Undeb Credyd Celtic i gynghorwyr;

4)    Y bydd y Pennaeth Tlodi a'r Atal yn ymchwilio i opsiynau hysbysebu posib ar gyfer yr Undeb Credyd.

22.

Cyflwyniad - Cyflwyniad i Ddinas Hawliau Dynol.

Jane Whitmore - Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu

Cofnodion:

Darparodd Jane Whitmore, Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu, gyflwyniad rhagarweiniol ar Ddinas Hawliau Dynol.  Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys y cefndir; Hawliau dynol; y cynnydd hyd yma; pethau y mae modd eu cyflwyno; sut i gyflawni hyn; yr hyn y gwyddom ei fod yn gweithio; yr hyn nad yw'n gweithio (i'r rhan fwyaf o bobl); y camau nesaf.

 

Amlygodd bwysigrwydd cadarnhau pa wahaniaeth y byddai dod yn Ddinas Hawliau Dynol yn ei wneud i Abertawe. Ychwanegodd fod gweithdy wedi'i drefnu ym mis Tachwedd 2018 a fyddai'n trafod y sefyllfa bresennol a gwahoddwyd yr holl gynghorwyr iddo.

 

Trafododd y pwyllgor yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cyflwyniad.

 

Penderfynwyd -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Y byddai'r Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu'n cylchredeg dogfen 'Arweiniad Ymarferol i Gyfathrebu Hawliau Dynol'.

3)    Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor;

4)    Cylchredeg y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i'r pwyllgor er mwyn paratoi ar gyfer trafodaethau yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

23.

Llythyr y Cadeirydd at Aelodau'r Cabinet - Strategaeth Digartrefedd 2018 - 2022. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Darparwyd llythyr y Cadeirydd at Aelodau Cabinet ynghylch Strategaeth Digartrefedd 2018-2022 'er gwybodaeth'.

 

24.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Trafododd y pwyllgor ychwanegu'r Cynllun Rhoi'n Gall at y cynllun gwaith.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi'r cynllun gwaith wedi'i ddiweddaru;

2)    Ychwanegu'r Cynllun Rhoi'n Gall at y cynllun gwaith i'w drafod yn y cyfarfod nesaf a drefnir.