Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd
llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a
gynhaliwyd ar 25 Ebrill a 24 Mai 2018 a'u cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Cylch gorchwyl. (Er gwybodaeth) PDF 51 KB Cofnodion: Amlinellodd y Cadeirydd y Cylch
Gorchwyl i'r pwyllgor 'er gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019 (Drafodaeth). Cofnodion: Rhoddodd y
Pennaeth Tlodi a'i Atal gyflwyniad i'r pwyllgor am Gynllun Gwaith y Pwyllgor ar
gyfer 2018-2019. Trafodwyd y
canlynol yn y cyflwyniad: - ·
Ystyriaethau; ·
Cynigion
ar gyfer 2018-2019; ·
Comisiwn
y Gwirionedd am Dlodi/Cynllun Gweithredu Digartrefedd; ·
Benthyca
llog uchel; ·
Dinas
Hawliau Dynol; ·
Cyflogadwyedd. Trafododd y
pwyllgor waith sy'n parhau o'r PDChP diwethaf; canolbwyntio ar lai o bynciau; y
cynigion, y canlyniadau a'r rhaglen waith ar gyfer Comisiwn y Gwirionedd am
Dlodi/Cynllun Gweithredu Digartrefedd; y rhaglen waith a'r canlyniadau ar gyfer
benthyca llog uchel; y rhaglen waith a’r canlyniadau ar gyfer Dinas Hawliau
Dynol; ac, os oedd amser yn caniatáu, y rhaglen waith a’r canlyniadau ar gyfer
cyflogadwyedd. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad; 2)
Cynnwys
y pynciau canlynol yn Rhaglen Waith 2018-2019: -
Cynllun
Gweithredu'r Strategaeth Digartrefedd -
Benthyca
llog uchel -
Comisiwn
y Gwirionedd am Dlodi -
Dinas
Hawliau Dynol 3)
Cadw
pwnc cyflogadwyedd wrth gefn, os oedd amser yn caniatáu; 4)
Y
byddai’r Pennaeth Tlodi ac Atal yn cylchredeg sleidiau'r cyflwyniad diwygiedig
i'r pwyllgor; 5)
Adrodd
am gynllun gwaith diwygiedig yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019 Cofnodion: Penderfynwyd y byddai cyfarfodydd y pwyllgor yn ystod
blwyddyn ddinesig 2018-2019 yn dechrau am 4pm. |