Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd C Richards gysylltiad personol â chofnod rhif 54 – Cynllun Gwaith ar gyfer 2018/19 – Llywodraethwr Ysgol Gyfun Penyrheol.

52.

Cofnodion. pdf eicon PDF 114 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

53.

Digartrefedd. pdf eicon PDF 137 KB

1.            Y diweddaraf i Aelodau ar ymchwil;

2.            Archwilio Digartrefedd ymhellach - eitemau i’w nodi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Steve Porter, Rheolwr Gweithrediadau Tai, gyflwyniad ar gynllun Tai'n Gyntaf.

 

Yn dilyn cais yn y cyfarfod diwethaf, rhannwyd 2 ddogfen ag aelodau'r pwyllgor a chawsant eu cynnwys yn y pecyn agenda hefyd:

 

·       Tai'n Gyntaf – atebion ar gyfer cysgu ar y stryd a digartrefedd a arweinir gan dai (wedi'i lunio gan y Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol);

·       Tai'n Gyntaf (HF) – Egwyddorion ac Arweiniad Cenedlaethol ar gyfer Cymru.

 

Esboniodd y Rheolwr Gweithrediadau Tai gefndir Tai'n Gyntaf (HF), pam y dylai'r awdurdod lleol ei ystyried, ei fanteision, gan gynnwys yr heriau sy'n gysylltiedig, a sut gellid ei ddatblygu yn Abertawe.

 

Roedd sylwadau gan y pwyllgor yn cynnwys:

 

·                 Pryder am sut byddai cymunedau'n ymateb i gael pobl ddigartref yn eu hardaloedd, fodd bynnag mae'r mwyafrif o gymunedau'n tueddu i "ofalu am eu pobl eu hunain";

·                 Mae defnyddio cynllun HF yn golygu bod yr angen yn cael ei ledaenu ar draws y ddinas yn hytrach na bod yn yr un lle;

·                 Cydnabuwyd na fyddai'n addas i bawb sydd mewn angen, ond o leiaf byddai'r rheiny sydd yn manteisio ar y cynllun yn cael eu lletya mewn ardal maent yn ei dewis yn hytrach nag un sy'n cael ei dewis iddyn nhw neu orfod mynd i hostel;

·                 Bydd angen i dimau iechyd meddwl chwarae rôl bwysig yn y gwaith partneriaeth y bydd angen ymgymryd ag ef;

·                 Mae angen rhoi'r holl egwyddorion ar waith er mwyn iddo weithio;

·                 Gall fod yn anos i HF weithio ar gyfer pobl ifanc;

·                 Mae angen hefyd ymagwedd ar y cyd ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal;

·                 Bydd angen i gynghorwyr lleol gael y diweddaraf lle bo'n bosib - gan ystyried y rheolau GDPR newydd;

·                 Mae gwaith da yn mynd rhagddo o hyd gyda'r Uned Hawliau Lles mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol; 

·                 Cyhoeddwyd newidiadau i gefnogaeth llog morgeisi'n ddiweddar – sut byddai hyn yn effeithio ar y cynllun? 

·                 Mae angen sicrhau y nodir y “bobl ddigartref gudd” hefyd, gan gynnwys pobl ifanc sy'n aros ar soffas cyfeillion;

·                 A fyddai'r cyllid gan LlC yn ddigon ar gyfer y cynllun?  Oddeutu £12,000 y flwyddyn i letya person gan ddefnyddio cynllun HF.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

54.

Cynllun Gwaith ar gyfer 2018/19. (Llafar)

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor y gwaith yr ymgymerwyd ag ef yn ystod blwyddyn ddinesig 2017-2018. 

 

Awgrymwyd bod angen mynd i'r afael â'r materion hyn o hyd – cost gwisg ysgol, prydau ysgol am ddim, banciau bwyd a chyflogau isel yng Nghymru i deuluoedd sy'n gweithio sy'n arwain at bobl dlawd sy'n gweithio.  O ystyried y materion hyn, hoffai'r pwyllgor argymell bod y pwyllgor yn ystyried "Pobl Dlawd sy'n Gweithio" fel thema ar gyfer Cynllun Gwaith 2018/19.

 

Penderfynwyd y byddai "Pobl Dlawd sy'n Gweithio" yn cael ei argymell fel thema ar gyfer pwyllgor y dyfodol yn 2018/19.