Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y diddordebau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd D Phillips ddiddordeb personol yng Nghofnod 47 "Gwastraff bwyd" - Trysorydd Banc Bwyd Eastside.

46.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2018 fel cofnod cywir.

47.

Gwastraff Bwyd.

- Cyflwyniad i archwilio gostyngiad treth posib ar gyfer banciau bwyd;

- Archwilio opsiynau eraill i gefnogi banciau bwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Tlodi a'i Atal gyflwyniad er mwyn archwilio potensial gostyngiad treth ar gyfer banciau bwyd.

 

Darparwyd yr wybodaeth gan weithwyr Cyllid, fodd bynnag, nid oeddent yn arbenigo yn y maes hwn ac fe'u cynghorwyd y dylai unrhyw ymholiadau mewn perthynas â gwybodaeth am dreth/tâl gael eu cyfeirio at un o'r canlynol:

 

·                 Trussell Trust

·                 Gwefan CThEM

·                 Ailgyfansoddiad SVCS

 

Yn ychwanegol, archwiliodd y pwyllgor opsiynau eraill o gefnogi banciau bwyd - y brif broblem a nodwyd oedd diffyg cyfleusterau storio oer, a oedd yn arwain at fwyd dros ben yn cael ei daflu gan archfarchnadoedd am nad oedd gan fanciau bwyd unrhyw ffyrdd o storio symiau mawr o eitemau oer neu wedi'u rhewi.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid cofnodi'r cyflwyniad:

2)              Y pwyllgor i drafod banciau bwyd a gweithio gyda sefydliadau eraill mewn perthynas â'r problemau ynghylch cyfleusterau storio oer mewn cyfarfod yn y dyfodol.

48.

Datblygu Strategaeth Digartrefedd Abertawe. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Steve Porter, Rheolwr Gweithredoedd Tai, a gefnogwyd gan Jane Harries, Rheolwr y Gwasanaethau Landlordiaid a Rosie Jackson, Uwch-swyddog Polisi a Lesddaliad, gyflwyniad i gyd-fynd â'r adroddiad i roi gwybod i'r pwyllgor am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i ddatblygu'r Strategaeth Digartrefedd ac i ddarparu cyfle i'r pwyllgor wneud sylwadau ar ddatblygiad yr amcanion drafft, yr egwyddorion allweddol, yr amcanion a'r camau gweithredu a dylanwadu arnynt.

 

Trafododd y pwyllgor:

 

·                   Y nod drafft - roedd y pwyllgor yn teimlo y gallai hyn gael ei gryfhau;

·                   Model Tai'n Gyntaf (Cyfeiriwyd at fodelau'r Ffindir a Dulyn hefyd);

·                   Cyfradd marwolaeth y digartref ar gyfartaledd;

·                   Os oedd cyllid ar gael, rhoi amcanion y strategaeth ar waith;

·                   Yr angen am ganlyniadau mesuradwy i'w cynnwys yn y cynllun gweithredu.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cyflwyniad a'r adroddiad;

2)              Y pwyllgor i edrych ar yr argymhellion a amlinellwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a grëwyd ym mis Ionawr 2018 - Sut mae Llywodraeth Leol yn rheoli galw – Digartrefedd https://www.wao.gov.uk/cy/system/files/publications/local-government-homelessness-2017-welsh_0.pdf

3)              Cyflwyno'r Cynllun Gweithredu i'r Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a drefnir ar gyfer mis Gorffennaf 2018.

49.

Gofyn i Aelodau Ymchwilio i Ddigartrefedd. (Llafar)

Cofnodion:

Gofynnodd y pwyllgor beth yn union a oedd angen ymchwilio iddo, am fod digartrefedd yn faes eang iawn.  Beth fyddai canlyniad yr ymchwil?  Buont yn trafod a ddylent ymchwilio i arfer da yn yr awdurdodau cyfagos, neu a ddylid sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen.  Nodwyd bod y Panel Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi yn y broses o ymweld â chanolfannau amrywiol felly dylid osgoi dyblygu.

 

Nododd Pennaeth Tlodi a'i Atal, gan fod y Polisi Digartrefedd yn ei gyfnod datblygu, roedd gan y pwyllgor y cyfle i ystyried a oedd y polisi'n ddigon blaengar i gyflwyno amcanion y strategaeth.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd L R Jones at y papur ymchwil a gylchredwyd yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror mewn perthynas â Thai'n Gyntaf.

 

Penderfynwyd bod y pwyllgor yn ystyried yr adroddiad archwilio uchod ar Dai'n Gyntaf yn y cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 25 Ebrill 2018.

50.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith diwygiedig ar gyfer 2017-18.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cynllun gwaith;

2)              Cynnwys yr eitemau canlynol yn y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019:

a.               Digartrefedd - Cynllun Gweithredu (cyfarfod mis Gorffennaf 2018);

b.               Banciau bwyd (gan gynnwys gweithio gyda sefydliadau eraill a'r mater o gyfleusterau storio oer).