Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

41.

Cofnodion. pdf eicon PDF 144 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

42.

Gwastraff Bwyd. (Cyflwyniad gan WRAP)

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rheolwr Ardal y Rhaglen o ran Atal Gwastraff Bwyd a Lleihau Tlodi (WRAP) Cymru gan y Swyddog Masnachol, Bwyd a Thyfu Cymunedol.

 

Dywedodd Rheolwr Ardal y Rhaglen (WRAP) Cymru na fyddai ei gyflwyniad yn sôn am wastraff plastig a byddai'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Cefndir a Gweledigaeth - WRAP Cymru

·       Ailgylchu Gwastraff Bwyd

·       Courtauld 2025

·       Caru Bwyd Casáu Gwastraff

·       Ailddosbarthu Bwyd Dros Ben

·       Cymryd Rhan

 

Nododd yr aelodau fod WRAP yn sefydliad nid er elw sy'n gweithio gyda llywodraethau, busnesau a dinasyddion er mwyn creu byd lle rydym yn dod o hyd i adnoddau a'u defnyddio mewn modd cynaliadwy. Mae arbenigwyr WRAP yn rhoi'r atebion sydd eu hangen, yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn gwarchod yr amgylchedd, adeiladu economïau cryfach a chefnogi cymdeithasau mwy cynaliadwy.

 

Mae gwaith WRAP yn effeithio ar bob elfen o'r bwyd rydym yn ei fwyta, o gynhyrchu i fwyta a thu hwnt.

 

Cyfeiriodd Rheolwr Ardal y Rhaglen (WRAP) at yr her sy'n gysylltiedig â newid ymddygiad; Ymgyrch Cyfathrebu Ailgylchu Gwastraff Bwyd; Ymrwymiad Courtauld 2025; yr Achos Busnes dros Newid; Ymagwedd Caru Bwyd Casáu Gwastraff; Eiliadau Ymgyrch Caru Bwyd Casáu Gwastraff; Ailddosbarthu, Creu Cyfleoedd; Ailddosbarthu Bwyd Dros Ben; Blaenoriaethau am Gymryd Rhan a Gweithredu, Eich Adnodd Gorau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, dywedodd Rheolwr Ardal y Rhaglen fod angen ailaddysgu a dychwelyd i'r hanfodion (hyfforddiant coginio yn y gymuned, cynllunio prydau ac ati) er mwyn newid ymddygiad; mae trefniadau ar waith yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd er mwyn ailgylchu bwyd dros ben a gweithio mewn partneriaeth â'r cyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhlith tenantiaid, ysgolion ac ati.

 

Adroddodd y Swyddog Masnachol, Bwyd a Thyfu Cymunedol, fod y Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol wedi creu cwmni budd cymunedol newydd o'r enw 'Llond Bol' a fyddai'n gweithredu o 1 Ebrill 2018.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

 

43.

Gwaith Archwilio'r Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi ar y cynnig gofal plant i blant 3 a 4 oed. pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at yr adroddiad a gofynnodd am sylwadau gan aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, dywedodd y Pennaeth Tlodi a’i Atal fod Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant ym mhob rhan o'r sir erbyn diwedd tymor y Cynulliad a sicrhau bod y cynnig yn fwy hyblyg o ran galluogi pobl i ddychwelyd i'r gwaith. 

 

Penderfynwyd y dylai'r adroddiad fynd gerbron y Cabinet ar 15 Mawrth 2018, yn enw Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi.

 

44.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith presennol ar gyfer 2017-2018.

 

Trafododd yr aelodau yr eitem ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod ar 28 Mawrth, 2018 ynghylch Digartrefedd.

 

Cyfeiriodd y Cyng. L R Jones at bapur ymchwil defnyddiol a luniwyd gan gyn-Aelod Seneddol a allai fod o fudd i Aelodau'r Pwyllgor.

 

Penderfynwyd:

 

1.     nodi Cynllun Gwaith 2017-2018; a

2.     bod Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn anfon y papur ymchwil ymlaen at Aelodau'r Pwyllgor.