Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

35.

Cofnodion. pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir.

36.

Gofal Plant - Cynllun peilot wedi'i ariannu gan y Llywodraeth i blant 3 i 4oed. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Sian Bingham, Rheolwr Strategol y Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar, ac Allison Williams, Rheolwr Adnoddau Teulu, gyflwyniad ar y cynllun peilot i blant rhwng 3 a 4 oed a ariennir gan y llywodraeth.

 

Nodwyd yn Rhaglen "Symud Cymru Ymlaen" Llywodraeth Cymru (LlC) mai gofal plant yw un o'i phrif addewidion ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

 

Y Cynnig Gofal Plant:

 

·                 Darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar a ariennir gan y llywodraeth i blant rhwng 3 a 4 oed, 48 wythnos y flwyddyn, i rieni sy'n gweithio;

·                 Cyfuno'r lleiafswm llwyddiannus o 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen yn ystod y tymor â hyd at 20 awr o ofal plant ychwanegol;

·                 Darparu 30 awr o ofal plant er mwyn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio â chostau gofal yn ystod y gwyliau.

 

Mae gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gael:

 

·                 O'r tymor sy'n dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair blwydd oed, a bydd yn parhau tan i'r plentyn ddechrau yn y dosbarth derbyn yn ei ysgol gynradd, sef y mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair blwydd oed;

·                 Os yw pob rhiant yn yr aelwyd yn gweithio cyfwerth ag o leiaf 16 awr yr wythnos ar y cyflog byw cenedlaethol neu'r isafswm cyflog cenedlaethol, gan felly ennill o leiaf £116 yr wythnos.

 

Dewiswyd Abertawe fel 1 o 7 awdurdod lleol a fydd yn gweithio gyda LlC i dreialu'r cynnig gofal plant newydd, a disgwylir i'r cynnig gael ei gyflwyno'n genedlaethol cyn i gyfnod y tymor cynulliad presennol ddod i ben.  Ar draws y 7 ardal beilot, rhoddodd LlC arian ar gyfer 2,600 o blant rhwng 3 a 4 oed yn ystod y flwyddyn gyntaf. Cyfran gymesurol Abertawe oedd 258 o blant ar gyfer tymor yr hydref.

 

Aeth cynllun peilot y Cynnig Gofal Plant yn fyw yn Abertawe yn ystod mis Gorffennaf 2017 ar draws y 7 ward a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2017. Roedd yr ardaloedd a dewiswyd yn berthnasol i 2 gategori:

 

1.               Safleoedd "y cyfan ar un" – dewis o wardiau gydag ysgolion sy'n darparu'r Cyfnod Sylfaen yn ogystal â gofal plant dechrau a diwedd dydd, ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau ar y safle sydd eisoes wedi'u cofrestru gydag AGGCC. Yr ardaloedd hyn oedd Dynfant, Penclawdd, Llangyfelach a West Cross;

 

2.               Wardiau â lefelau uchel o ddarparwyr gofal plant/leoedd yn y gymuned ehangach (megis meithrinfeydd dydd, gofalwyr plant, gofal plant y tu allan i'r ysgol a chylchoedd chwarae etc.) a lefelau isel o ofal plant ar safleoedd ysgolion. Yr ardaloedd hyn oedd Treforys, Pontarddulais a Gorseinon.

 

Cyhoeddwyd a hyrwyddwyd y cynnig yn eang, a rhoddwyd pwyslais penodol ar gynyddu ymwybyddiaeth rhieni cymwys o'r ffaith eu bod yn gallu cael gofal plant yn ystod y gwyliau fel rhan o'r "cynnig", yn ogystal ag yn ystod y tymor.

 

Derbyniwyd 235 o geisiadau hyd yn hyn, gan gynnwys:

 

·                 147 a oedd yn gymwys ar gyfer tymor yr hydref;

·                 27 ar gyfer tymor y gwanwyn;

·                 54 sy'n aros o hyd am fwy o wybodaeth i gadarnhau a ydynt yn gymwys;

·                 7 a oedd yn anghymwys.

 

Yn ôl LlC, mae 66% o aelwydydd cymwys wedi manteisio ar y cynnig yn Abertawe, sy'n cymharu'n ffafriol â'r cyfartaledd cenedlaethol sef 59%.

 

Ni chafwyd unrhyw broblemau hysbys mewn perthynas â diffyg lleoedd gofal plant hyd yn hyn.

 

Er na chafwyd unrhyw werthusiad ffurfiol, mae'r adborth gan gwsmeriaid fel a ganlyn:

 

·                 Awgrymodd tystiolaeth lafar fod llai o ddibyniaeth ar ofal plant anffurfiol ymhlith rhieni sy'n gymwys am y cynnig;

·                 Roedd rhai rhieni mewn sefyllfa i gynyddu nifer yr oriau y mae eu plant yn derbyn gofal plant ffurfiol;

·                 Roedd rhieni'n gallu cynyddu nifer yr oriau a weithiwyd;

·                 Roedd tystiolaeth o fentrau LlC yn cydblethu e.e. PaCE a'r Cynnig Gofal Plant;

·                 Roedd rhieni cymwys yn gallu gwella ansawdd byw trwy leihau eu costau gofal plant;

·                 Adroddodd 2 leoliad gofal plant (diwrnod llawn) yn benodol fod plant newydd wedi dod i'w lleoliad.

 

Yn ychwanegol, dylid nodi bod y cynllun peilot yn enghraifft dda o gydweithredu effeithiol ar draws nifer o adrannau ac is-adrannau’r cyngor, yn ogystal ag amrywiaeth o randdeiliaid allanol.

 

Cafwyd cymeradwyaeth gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2017 i ehangu'r cais i ardaloedd newydd.  Aeth wardiau Llansamlet, Penllergaer a Thre-gŵyr yn fyw ar 2 Ionawr 2018, ac aeth wardiau Llwchwr Uchaf, Llwchwr Isaf, Pontybrenin, Penyrheol, Penderi a'r Cocyd yn fyw ar 22 Ionawr 2018.  Mae arian cyfalaf ar gyfer cyflwyno'r Cynnig Plant gwerth £60 miliwn ar draws Cymru dros 3 blynedd (2017/18, 2018/19 a 2019/20) wedi'i gynnwys yng nghyllideb ddrafft LlC. Yr ymroddiad yw y bydd y cynnig ar gael i bob ardal yng Nghymru erbyn diwedd cyfnod y cynulliad presennol. Roedd clwstwr o 2 i 3 ardal arall yn parhau i fod yn Abertawe. Pan gaiff yr arian ei dderbyn, y gobaith yw y bydd y clystyrau hyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun wrth iddo gael ei gyflwyno dros 2 neu 3 gam ychwanegol.

 

Esboniodd y camau nesaf y bydd angen eu dilyn cyn mynd yn fyw mewn unrhyw ardal.  Amlinellwyd y gwersi a ddysgwyd i'r pwyllgor hefyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1)              Anfon yr wybodaeth am y cynllun hwn at bawb;

2)              E-bostio'r cyflwyniad a'r ddolen i'r wybodaeth am y cynnig hwn at holl aelodau'r pwyllgor.

37.

Gofal Plant -Sesiwn i nodi opsiynau posib i'w cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet. (Trafodaeth)

Cofnodion:

Er mwyn drafftio adroddiad i'r Cabinet am gynnydd y pwyllgor mewn perthynas â materion gofal plant, gofynnwyd iddo ystyried:

 

1.               Sut gall Abertawe sicrhau bod y teuluoedd a'r plant y mae angen gofal plant arnynt fwyaf fanteisio ar hyn;

 

2.               Oes modd i raglenni cyflogadwyedd gyd-fynd â'i gilydd yn fwy er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi ffocws ar baratoi rhieni i fanteisio ar y cynnig?

 

3.               A ddylid rhoi mwy o ystyriaeth i ofal plant o fewn datblygiadau'r cyngor megis cynllun Datblygu Canol y Ddinas?

 

4.               A oes unrhyw adborth i'w roi i Lywodraeth Cymru er mwyn dylanwadu ar ddatblygiad y cynnig yn y dyfodol?

 

Mae angen golwg mwy cyfannol gan mai un rhan yn unig o gontinwwm ehangach i gefnogi pobl yw'r Cynnig Gofal Plant.

 

Sylwadau gan y pwyllgor:

 

·                 Trafodwyd y meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer y cynllun peilot, yn bennaf pam na ddefnyddiwyd data o'r "ardal ddifreintiedig" i nodi ym mhle'r oedd y lefelau uchaf o amddifadedd. Eglurodd y swyddogion eu bod wedi ystyried hyn, fodd bynnag, cynllun peilot oedd hwn, a'r diben oedd dysgu cymaint â phosib ac, yn ôl y meini prawf cymhwysedd, roedd yn bwysig ar gyfer y cynllun peilot fod yr ardaloedd a ddewiswyd yn cael y cyfle gorau posib i gael niferoedd da o deuluoedd cymwys yn ogystal â chyflenwad da o ddarpariaeth gofal plant.

·                 Roedd yn peri pryder i glywed nad oedd unrhyw blant newydd wedi ymuno, ond roeddent yn blant presennol a oedd bellach yn bodloni'r meini prawf.  Roedd hyn yn bwysig er mwyn helpu mwy o bobl i weithio. Nid oes gennym yr wybodaeth i gadarnhau hyn neu i ddweud i ba raddau y mae hyn yn wir.  Fel a nodwyd yn y cyflwyniad, mae tystiolaeth academaidd o deuluoedd yn defnyddio'r cynllun ac felly'n gallu cynyddu eu horiau gwaith, rhieni sydd wedi gallu dechrau swydd newydd a theuluoedd sy'n dweud bod bywyd bellach yn fwy fforddiadwy.

·                 Roedd yn bwysig bod y cynllun yn cyfuno â chynlluniau eraill megis Dechrau'n Deg.  Cadarnhaodd y swyddogion y byddai hyn yn cael ei dreialu yn ward Penderi ar ôl i'r ardal hon ymuno â'r cynllun. Yn ychwanegol mae tystiolaeth fod y cynllun wedi cyfuno â chynlluniau megis PaCE eisoes ar gael.

·                 Nid oedd rhai cynghorwyr yn ymwybodol o'r cynnig er ei fod yn cael ei dreialu yn eu ward. Bydd swyddogion yn anfon e-bost at aelodau ward yr ardaloedd cymwys wrth iddynt ddod yn fyw.

·                 Cydnabuwyd mai helpu rhieni i weithio oedd y ffordd orau i atal tlodi.

·                 Roedd gan rieni ddewis o ran y ddarpariaeth roeddent am ei defnyddio e.e. gofalwyr plant, meithrinfeydd dydd, darpariaeth yn yr ysgol neu ddarpariaeth dechrau a diwedd dydd. Roedd ganddynt gyfle hefyd i ddefnyddio darparwyr yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot neu Sir Gâr.

·                 Trafodwyd y ddarpariaeth a oedd ar gael o'i chymharu â'r ddarpariaeth yn Lloegr.  Gan fod cynllun Lloegr flwyddyn ar y blaen, cafwyd llawer o sylwadau'n genedlaethol.  Roedd LlC wedi comisiynu ymchwil yn Lloegr er mwyn i ni gael dysgu ohoni a deall yr hyn a fyddai'n llwyddiannus yng Nghymru mewn perthynas â chyfraddau'r awr i ddarparwyr.

·                 Roedd rhieni sengl yn gymwys i gyflwyno cais, ar yr amod eu bod yn gweithio 16 awr yr wythnos.

·                 Roedd galw am ofal plant o safon i fod ar gael.

·                 Os yw'r cynllun yn dod i ben neu pan fydd y cynllun yn dod i ben, bydd rhaid tynnu'r arian yn raddol yn hytrach na chael gwared arno'n syth, gan fod teuluoedd yn dechrau gwneud cynlluniau tymor hwy.

·                 Gofynnwyd a oedd darparwyr gofal plant wedi cael gwybod am y cynnig er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r oriau sy'n cael eu cynnig i rieni? Cadarnhaodd y swyddogion y cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau rhanddeiliaid ar gyfer darparwyr. Mae LlC yn ymwybodol o hyn, fodd bynnag mae darparwyr yn cynnal busnesau a gall rhieni/darparwyr ddewis unrhyw ddarparwr cofrestredig.

·                 Sut gwnaeth rhieni sy'n gweithio 30 awr yr wythnos ymdopi?  Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn dibynnu ar yr unigolyn - darparwyd 10 awr o addysg yn Abertawe drwy sesiynau 2/2½ awr y dydd, yn y bore neu'r prynhawn, gyda'r oriau a oedd yn weddill yn rhai hyblyg i'r rhieni. Dewisodd rhai rhieni i ychwanegu at unrhyw oriau eraill trwy ddefnyddio gofal plant anffurfiol.

·                 Byddai'n ddefnyddiol gofyn i Lywodraeth Cymru beth yw'r manteision o ran galluogi pobl i weithio a chael mwy o arian o ganlyniad i hynny. Nododd y swyddogion fod LlC wedi comisiynu ymchwil hydredol, fodd bynnag ni fyddai'n adrodd nôl am yr ymchwil am ychydig fisoedd.

·                 Mae angen i rieni deithio i'r gwaith ac oddi yno'n aml ar ôl mynd â'u plant i leoliad gofal - fydd hyn yn effeithio ar nifer yr oriau gall rhieni eu gweithio? Dyluniwyd y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru fel cynllun sy'n hyblyg i rieni/ofalwyr, a'r rhieni/darparwyr sy'n gyfrifol am ddewis y darparwr er mwyn iddo gefnogi unrhyw ymrwymiadau gwaith cymaint â phosib.

·                 Mae angen i swyddogion datblygu'r ymbarél o sefydliadau gofal plant  gyflawni gwaith mewn perthynas â chefnogi datblygu a chofrestru darparwyr gofal plant ychwanegol gan ddefnyddio grantiau sydd eisoes ar gael yn ôl yr angen.

 

Penderfynwyd anfon unrhyw sylwadau eraill at Sian Bingham, Rheolwr Strategol y Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar.

 

 

 

38.

Strategaeth Diogelwch Cymunedol. (Llafar)

Cofnodion:

Darparodd Jane Whitmore, y Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu, a Paul Thomas, y Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Cymunedol, gyflwyniad am strategaeth ddrafft Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel ar gyfer 2018-2021.

 

Sefydlwyd Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel ym 1998 o ganlyniad i Ddeddf Troseddu ac Anhrefn 1998.  Mae'n bartneriaeth amlasiantaeth sy'n cael ei chadeirio gan y cyngor a'r heddlu am yn ail. 

 

 

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Diogelwch Cymunedol yng Nghymru yw:

 

·                 Bod pob cymuned yn gryf, yn ddiogel ac yn hyderus mewn ffordd sy'n darparu cydraddoldeb o ran cyfleoedd a chyfiawnder cymdeithasol, cydnerthedd a chynaladwyedd i bawb;

·                 Rhannu cyfrifoldeb rhwng y llywodraeth, asiantaethau'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus am weithio, gyda'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, a chyda'r sector preifat i fynd i'r afael ag unrhyw weithgaredd neu ymddygiad sy'n anghyfreithlon, yn wrthgymdeithasol, neu'n niweidiol i unigolion, y gymdeithas a'r amgylchedd;

·                 Mae rhannu gwybodaeth a sicrhau ymyriad cynnar trwy weithredu'n brydlon ac yn gadarnhaol yn mynd i'r afael â materion lleol a gwendidau.

 

Gellir cyflawni'r weledigaeth hon drwy weithgarwch cydweithredol ac amlasiantaeth integredig.

 

Mae'r strategaeth yn adlewyrchu'r darlun diogelwch cymunedol sy'n newid.  Mae'r heriau newydd a'r heriau sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys trais domestig, camddefnyddio sylweddau, cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, masnachu pobl, caethwasiaeth modern, radicaleiddio ac eithafiaeth.

 

Y blaenoriaethau strategol yw:

 

1.                 Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol;

2.                 Camddefnyddio sylweddau;

3.                 Cymunedau diogel, hyderus a chadarn;

4.                 Economi'r hwyr a'r nos;

5.                 Monitro troseddau casineb a thyndra cymunedol.

 

Mewn perthynas â'r camau nesaf:

 

·                 Caiff y strategaeth ei chyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror 2018 gyda'r gobaith o'i chymeradwyo gan yr holl bartneriaid sy'n cymryd rhan erbyn mis Mawrth 2018;

·                 Mae gwaith parhaus yn dal i gael ei gwblhau gan y gweithgorau partneriaeth symlach sy'n rhan o Abertawe Mwy Diogel;

·                 Yn dilyn ymgynghoriad byddai Cynllun Cyflwyno'n cael ei ddatblygu er mwyn monitro camau gweithredu a chyflwyno'r blaenoriaethau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y cyflwyniad.

 

Roedd sylwadau'r aelodau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·                 Roedd y prosiect man cymorth blaenllaw ar waelod Stryd y Gwynt sy'n lleihau'r pwysau ar yr adran damweiniau ac argyfwng wedi bod yn llwyddiannus;

·                 Roedd aelodau newydd eu hethol yn arfer cael cyfarfodydd ag Arolygydd y Sector bob 6 mis/blwyddyn i drafod materion lleol. Roedd y rhain yn ddefnyddiol iawn ond mae'n ymddangos eu bod wedi dod i ben dros y blynyddoedd diwethaf;

·                 Mae cyswllt â'r heddlu bellach yn ymatebol yn hytrach nag yn rhagweithiol. 

·                 Roedd y ffaith bod mwy o grwpiau troseddu cyfundrefnol yn dod i Abertawe ac yn annog pobl ddiamddiffyn i gymryd rhan yn eu troseddau yn peri pryder;

·                 A oes modd defnyddio Cydlynwyr Ardaloedd Lleol i fynd i'r afael â'r mater hwn?

·                 Nid oedd cynghorwyr yn ymwybodol o gyfarfod a drefnwyd gan yr heddlu yn y ward - cawsant wybod am y cyfarfod gan weithwyr ieuenctid.

·                 Roedd galw am bobl â sgiliau i helpu pobl benodol ag anghenion cymhleth nad oeddent am roi gwybod i'r heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol am broblemau.

 

Mewn ymateb i sylwadau'r aelodau, byddai'r swyddogion yn siarad â'r Prif Uwch-arolygydd am eu pryderon. Yn ychwanegol, ac ynghyd â Chris Sivers, bydd y Prif Uwch-arolygydd yn dod i gyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 5 Mawrth 2018 a fydd yn agored i'r cyhoedd ddod a gofyn unrhyw gwestiynau.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi'r cyflwyniad;

2)     Anfon dolen i'r ymgynghoriad at y pwyllgor ar ôl ei gyhoeddi er mwyn i aelodau gyflwyno sylwadau am yr ymgynghoriad, a'i hyrwyddo yn eu wardiau etholiadol.

39.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith presennol ar gyfer 2017-2018.

 

Nododd fod yr adran graffu wedi dangos ei bod yn ystyried y Strategaeth Ddigartrefedd. Nododd y Cyfarwyddwr Pobl fod hawl gan y ddau gorff i ystyried yr eitem hon ar yr amod nad oedd gorgyffwrdd o ran cynnwys. Fodd bynnag, os yw'r ddau gorff yn ei hystyried yn ei chyfanrwydd, bydd rhaid i'r Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi ailystyried yr eitemau ar yr agenda ar gyfer cyfarfod mis Mawrth (a chyfarfodydd eraill).  Os yw digartrefedd yn parhau i ymddangos ar yr agenda ar gyfer cyfarfod mis Mawrth, bydd rhaid i'r cyfarfod ddechrau awr yn gynharach am 3pm.

 

Penderfynwyd darparu'r Cynllun Gwaith diwygiedig yn y cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 28 Chwefror 2018.